Gweithredwr Cyfathrebiadau
08/01/20 15:00
Gweithredwr Cyfathrebiadau
Canolfan Cyfathrebiadau'r Heddlu
Llanelwy
swyddi gwag yn y 6 – 12 mis nesaf
Graddfa 4 (£20,115 – £22,275 ŷf) ynghyd â lwfans sifft o 20% a lwfans gweithio ar benwythnosau o 14.47% (sy'n cyfateb i gyflog posibl o £27,048 – £29,953 ar batrwm sifft lawn)
Oriau – 37 yr wythnos
Sesiynnau ymwybyddiaeth:
Dydd Iau 14eg Tachwedd - 7y.p
Dydd Sadwrn 16eg Tachwedd - 10y.b ag 2y.p
Bydd gofyn i ddeiliad y swydd:
Darparu gwasanaeth cwsmeriaid proffesiynol, effeithiol ac effeithlon o fewn Heddlu Gogledd Cymru gyda'r nod o'i 'chael hi'n iawn y tro cyntaf.
Datrys problemau a godir gan aelodau o'r cyhoedd gyda phwyslais ar ddatrysiad cyswllt cyntaf lle mae'n bosibl.
Bod yn gyfrifol am ddatrysiad ac argymhellion lleoli gan ddefnyddio ystod o systemau mewn amgylchfyd dan bwysedd ac sy'n creu argraff.
Cofnodi gwybodaeth yn gywir ar systemau'r heddlu.
Derbyn, dehongli, dadansoddi a lledaenu gwybodaeth.
Mae sgiliau Cymraeg Lefel 5 yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Cyfeiriwch at Bolisi Sgiliau Cymraeg HGC am fanylion am eich meini prawf ac ymrwymiadau dysgu drwy gydol y cyfnod prawf.
Sylwer y gofynnir i'r ymgeisydd/ymgeiswyr llwyddiannus ymrwymo i 2 flynedd yn y rôl hon.
Dyddiad cau: 14/11/2019
Bydd y broses recriwtio fel a ganlyn:
- PIR, prawf teipio ac asesiad Cymraeg:
- Cyfweliadau
- Apwyntiadau Meddygol
Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddechrau o fewn y rôl a bod ar gael i fynychu'r cwrs 6 wythnos cyfan a wnaiff redeg o 9-5, dydd Llun i ddydd Gwener. Cadarnheir dyddiadau'r cwrs. Daw'r cwrs i ben gydag ymgeiswyr yn sefyll arholiad llwyddo neu fethu.
Mae hon yn swydd llawn amser ond gwahoddir ceisiadau gan unigolion sydd â diddordeb mewn rhannu swydd.
Gellir ystyrir gweithio patrwm sifft arall (efallai yr effeithir lwfansau)
Ni chaniateir i staff HGC ar gyfnod prawf neu sydd wedi ymrwymo i aros yn eu swydd gyfredol am gyfnod penodol sydd heb ddod i ben eto ymgeisio am y swydd.
Caniateir i Swyddogion Gwirfoddol sydd wedi cyrraedd Statws Patrôl Annibynnol ac sydd wedi parhau i weithio isafswm nifer yr oriau dyletswydd wythnosol angenrheidiol (4 awr) ymgeisio am swyddi mewnol gwag staff yr heddlu.
Caniateir i staff asiantaeth sydd â dros 12 mis o wasanaeth parhaus (ar amser cyhoeddi’r hysbyseb) ymgeisio am y swydd hon.
Os hoffech fwy o wybodaeth, peidiwch â phetruso cysylltu â:
Recriwtio CG
Cyf: Rhif SUP 2116
Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.