Cofrestrwch yma i fynegi eich diddordeb mewn Ymgyrchoedd Swyddogion Heddlu yn y dyfodol.

Cyfleoedd Swyddi Gwag yn y Dyfodol

Heddlu Gogledd Cymru
Swyddi Swyddogion Heddlu yn y Dyfodol
Gwasanaethau Plismona Lleol
Ledled yr Heddlu

Rydym yn falch o gynnig y cyfle i chi gofrestru eich diddordeb mewn dod yn Swyddog Heddlu yma yng Ngogledd Cymru. Y peth gorau ydy nad oes gennym ddyddiad cau! 

Unwaith byddwch wedi cofrestru, fe wnawn eich diweddaru chi gyda digwyddiadau, gweithdai ac yn bwysicaf oll, y ddolen i'r ffurflen gais er mwyn ymgeisio ar gyfer y rôl.

Cofrestru eich diddordeb ydy'r unig ffordd y byddwch yn gallu ymgeisio ar gyfer rôl Swyddog Heddlu

Ymunwch â ni ddydd Llun 27 Mehefin am 5.30pm drwy linc i glywed mwy am y cyfle hwn Click here to join the meeting 

neu

Ymunwch â ni ddydd Mawrth 12 Gorffennaf am 12pm drwy'r ddolen hon Click here to join the meeting

Pam cofrestru?  

  • Nid ydy'r broses ymgeisio yn hawdd, ond drwy gofrestru byddwch yn dysgu mwy am yr hyn i'w ddisgwyl a sut y gallwch baratoi ar gyfer eich cais. Gwneir hyn drwy fynd i un o'n sesiynau ymgyfarwyddo.
  • Cewch gipolwg ar rôl Swyddog Heddlu fel eich bod yn barod ar gyfer canolfan asesu ar-lein y Coleg Plismona a chyfweliad yn yr heddlu. Cewch ddysgu mwy am y cymorth sydd ar gael gan ein Tîm Cynrychioli'r Gweithlu. Cewch hefyd wybodaeth fanwl am yr hyn sy'n digwydd pan ydych yn ymgeisio, pa brofion rydych angen eu gwneud a sut i baratoi ar eu cyfer.
  • Hefyd, fe wnawn rannu'r hyn sy'n digwydd yn y gwiriadau cyn cyflogi gyda chi a'r hyn fyddwch yn ei wneud mewn hyfforddiant.
  • Bydd hyn hefyd yn gyfle i chi holi unrhyw gwestiynau am y rôl, y broses recriwtio neu am Heddlu Gogledd Cymru.

Beth sy'n digwydd pan rwyf yn cofrestru?

  • Er mwyn bod yn glir, nid yw eich cofrestriad yn golygu eich bod yn ymgeisio am y rôl. Mae'n ffordd i chi fynegi bod gennych ddiddordeb ac eisiau dysgu mwy.
  • Fe wnawn rannu dyddiadau ac amseroedd ein sesiynau ymgyfarwyddo gyda chi. Maent i gyd yn rhithiol. Felly gallwch ymuno o unrhyw le ac maent yn cael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn.
  • Fe anfonir dolen gais er mwyn ymgeisio ar gyfer y rôl.
  • Fe wnawn rannu dyddiadau canolfan asesu’r Coleg Plismona gyda chi. Bydd yn bwysig eich bod yn gallu dod ar y dyddiadau hyn os ydych yn ymgeisio.
  • Fe wnawn rannu digwyddiadau'r Tîm Cynrychioli'r Gweithlu gyda chi. Mae gan y tîm fentrau gan gynnwys darparu cyngor, anogaeth a chefnogaeth briodol drwy gydol y broses recriwtio. Os ydych yn dod o grŵp Du, Asiaidd, Lleiafrifoedd Ethnig (B.A.M.E), grŵp crefydd lleiafrifol, Benywaidd, LHDT+, ag anabledd neu gyflwr niwroamrywiol (e.e. dyslecsia), gall y Tîm Cynrychioli'r Gweithlu allu cynnig cymorth Gweithredu'n Bositif i chi yn dibynnu ar y rôl yr ydych yn gwneud cais amdani. Ewch ar ein tudalen Gweithredu'n Bositif i ddysgu mwy am sut mae hyn yn gweithio ac ein hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Gwybodaeth

  • Cynhelir canolfannau asesu drwy gydol y flwyddyn.
  • Pan ydym yn anfon y ddolen i ymgeisio, fe wnawn gadarnhau dyddiad y ganolfan asesu nesaf. Os ydy eich cais yn llwyddiannus, cewch eich gwahodd i'r ganolfan asesu ar-lein. Ceir mwy o wybodaeth am hyn yma: Proses ddethol ac asesiad ar-lein | Y Coleg Plismona
  • Mae ein dyddiadau dechrau ym mis Hydref 2022, mis Ionawr 2023, a mis Mawrth 2023. Mae dyddiadau pellach eto i'w cadarnhau.

 DALIER SYLW MAI HON YDY'R UNIG FFORDD Y GALLWCH YMGEISIO I FOD YN SWYDDOG HEDDLU YN HEDDLU GOGLEDD CYMRU