Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu
29/11/21 12:00
Mae hon yn rôl newydd gyffrous i unigolyn sydd â phrofiad o weithio mewn rôl materion cyhoeddus neu ymgysylltu â'r gymuned. Cyfle gwych i rywun sy’n hunan-ysgogol, trefnus, a manwl sy'n gallu cyfathrebu gwaith y CHTh yma yng Ngogledd Cymru.
Os ydych chi'n meddwl fod gennych chi'r sgiliau a'r profiad ar gyfer y rôl hon, hoffem glywed gennych.
Beth mae rôl Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu yn ei olygu?
Yn y rôl, gwnewch ddatblygu, gweithredu, monitro a rhoi arweiniad i Strategaeth Gyfathrebu ac Ymgysylltu'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh).
Fel Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu, byddwch yn sicrhau fod y CHTh wedi ymgysylltu'n llawn gyda phob grŵp rhanddeiliaid ar lefel genedlaethol a lleol, dylanwadu cyfeiriad strategol a gweithredu polisi wrth gysylltu gyda strategaethau cyfathrebu mewnol ac allanol Heddlu Gogledd Cymru, creu strategaeth gyffredinol sy'n gwbl gydnaws â'r Cynllun Heddlu a Throsedd a dyletswyddau statudol.
Beth fyddaf ei angen i gael fy ystyried ar gyfer y rôl o Pennaeth Cyfathrebiadau ac Ymgysylltiad?
- Wedi addysgu i lefel gradd mewn pwnc perthnasol, neu feddu profiad gwaith profedig perthnasol (e.e. rôl ymgysylltu cymunedol, gwasanaethau cyhoeddus).
- Profiad o gyfathrebiadau corfforaethol ac ymgysylltu gyda thystiolaeth o dros 4 blynedd o brofiad o weithio mewn amgylchfyd cysylltiadau cyhoeddus neu ymgysylltiad cyhoeddus prysur mewn sefydliad cymhleth.
- Profiad mewn cyfuno negeseuon i'r cyfryngau, rheoli rhifynnau, cyfrifoldeb corfforaethol a chymdeithasol, lledaenu gwybodaeth a chyngor ar gyfathrebu strategol.
- Gallu dangos eich bod yn dylanwadu polisi cyhoeddus, creu a chynnal enw da cryf a dod o hyd i dir cyffredin gyda rhanddeiliaid. Rhaid i'r ymgeisydd fod â gwerthoedd cryf o ran cydraddoldeb, cyfiawnder cymdeithasol a bod yn angerddol ynghylch gwasanaethau cyhoeddus.
- Gallu drafftio cynnwys y cyfryngau cymdeithasol, datganiadau i'r wasg a deunyddiau traddodiadol i safon proffesiynol uchel.
Am wybodaeth bellach am y rôl, a’r sgiliau byddwch eu hangen, gweler y proffil swydd Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu ynghlwm.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn sefydliad dwyieithog ac ar gyfer y rôl hon, bydd rhaid i chi ddangos sgiliau Lefel 3 Cymraeg, sy'n golygu eich bod yn gallu sgwrsio'n rhannol yn Gymraeg ond yn troi at y Saesneg mewn trafodaeth ac er mwyn rhoi gwybodaeth fanwl. Gallwch ddeall ac ymateb i ymholiadau cyffredinol, disgrifio pobl a lleoliadau a defnyddio ymadroddion syml yn Gymraeg. Cewch wybod mwy drwy ymweld â'n Tudalen Adnoddau Cymraeg
Gweithredu'n Bositif – ydych chi'n gymwys?
Rydym yn cydnabod bod anghenion pawb yn unigryw ac yn wahanol. Mae ein Tîm Cynrychioli'r Gweithlu yn cynnig amrywiaeth o fentrau gan gynnwys darparu cyngor, anogaeth a chefnogaeth briodol drwy gydol y broses recriwtio. Os ydych yn dod o grŵp Du, Asiaidd, Lleiafrifoedd Ethnig (BAME), grŵp crefydd lleiafrifol, LHDT+, neu ag anabledd neu gyflwr niwroamrywiol (e.e. dyslecsia), gall y Tîm Cynrychioli'r Gweithlu gynnig cefnogaeth Gweithredu Positif i chi yn dibynnu ar y swydd yr ydych yn gwneud cais amdani. Ewch ar ein tudalen Gweithredu Positif i ddysgu mwy am sut mae hyn yn gweithio ac ein hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
Sut wyf yn ymgeisio?
Cyflwynwch eich cais ar wefan Heddlu Gogledd Cymru, gan sicrhau eich bod yn rhoi manylion eich profiad blaenorol perthnasol ar gyfer y rôl hon yn y Datganiad Ategol yn y Ffurflen Gais.
Dyddiad cau: Y dyddiad cau yw hanner dydd, dydd Llun 29 Tachwedd 2021.
Disgwylir i gyfweliadau gael eu cynnal dydd Gwener, 10 Rhagfyr 2021 ym Mhencadlys yr Heddlu, Bae Colwyn
Os ydych angen rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Thîm Recriwtio Heddlu Gogledd Cymru: SSF.Recruitment@nthwales.pnn.police.uk
Mae'r manylion llawn i'w gweld ar wefan y Comisiynydd www.northwales-pcc.gov.uk
Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.