~~OPPORTUNITY_TITLE_33CE2F63-F0B6-4D5F-9410-4FBACD6763AB~~
22/10/20 15:00
Gwahoddir ceisiadau am rôl Ymchwilydd Ariannol yn Uned Eithafiaeth a Gwrthderfysgaeth Cymru.
Oherwydd natur barhaol y rôl a’r llwyth gwaith trwm, nid yw’r swydd wag hon yn addas ar gyfer rhannu swydd/gweithio rhan amser.
Mae'n hanfodol bod yr ymgeisydd, a fydd eisoes yn Ymchwilydd Ariannol achrededig, yn barod i gwblhau'r cliriad diogelwch manylach neu'r broses fetio uwch yn llwyddiannus.
Bydd hefyd angen cwblhau proses sefydlu diogelwch ychwanegol, sy'n cynnwys gwiriadau cyn-sgrinio o genedligrwydd a chysylltiadau tramor. Rhaid pwysleisio bod hyn yn ogystal â’r broses Fetio Datblygedig neu broses fetio rheoli’r heddlu. Rhaid i ymgeiswyr fod yn llwyddiannus yn y ddau gliriad er mwyn cael eu penodi i'r swydd hon’.
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â'r swydd hon, e-bostiwch HR.Staff.Processes@south-wales.pnn.police.uk.
Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.