Swyddog Cefnogi Cymuned yr Heddlu 2024

Heddlu Gogledd Cymru
SCCH
Gwasanaethau Plismona Lleol
Ledled yr Heddlu
SCCH
£27,812 - £32,046
Sefydlog – gellir ond cyflawni’r rôl hon o leoliad penodol.
Llawn Amser
Parhaol
2

28/03/24 16:00

Gwnewch gais nawr am rôl Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu

Rolau llawn amser a rhan-amser ar gael

Ddechrau ar 01/07/24

Ydych chi'n mwynhau gweithio yng nghanol y gymuned?

A fyddech chi'n falch o gynnig presenoldeb gweledol a chroesawgar mewn lifrau yn y gymuned, gan ganolbwyntio ar wella safon byw'r cyhoedd?

Bydd llawer o’ch gwaith yn golygu ymateb i sefyllfaoedd – mi fyddwch chi’n patrolio’r strydoedd, yn atal pobl rhag cwffio, yn ymchwilio i droseddau, a hyd yn oed yn erlid pobl o dro i dro. Ond nid yw’r mwyafrif o bobl yn sylweddoli faint o amser a dreulir yn ceisio atal problemau. Mae plismona cymunedol yn canolbwyntio ar helpu pobl i gadw allan o’r system cyfiawnder troseddol, yn hytrach na’u gosod yn y system.

Ydych chi’n un da am ddatrys problemau? Ydych chi am wneud gwahaniaeth yn eich cymuned? Os ydych chi’n hoffi amrywiaeth a her, mae'r swydd i chi! 

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn bwriadu datblygu eu cysylltiadau gyda'r gymuned leol drwy adeiladu partneriaeth waith dymor hir gyda Thimau Plismona Cymdogaethol. Mae rôl y SCCH yn un hanfodol ac unigryw, wedi ei gynllunio i daclo ymddygiad gwrthgymdeithasol a materion lleol sy'n effeithio ar ansawdd bywyd. Maent yn canolbwyntio ar atal troseddau.

Rydym hefyd yn rhedeg Sesiwn Darganfod ar-lein lle cewch glywed yn uniongyrchol oddi wrth rhai o’n SCCH cyfredol ac aelod o’r tîm recriwtio.

12/0/24 am 17:30 - Click here to join the meeting

19/02/24 am 17:30 - Click here to join the meeting

23/02/24 am 12.30 - Click here to join the meeting


Fe’ch gwahoddir i ymgeisio am un ai rôl lawn amser neu ran amser (16 awr yr wythnos o leiaf). Yn dilyn eich cais, fe wnawn gysylltu â chi i wybod pryd rydych ar gael i weithio a fydd yn cynnwys dyddiau’r wythnos, amseroedd gweithio, lleoliad ac hefyd unrhyw batrymau gweithio dewisol. Er enghraifft, gweithio’n ystod y tymor ysgol neu weithio’n ystod y gwyliau ysgol.

 Byddwn ond yn gallu cadarnhau eich oriau/dyddiau/lleoliad cytundebol ar ôl eich gwiriadau cyn cyflogaeth llwyddiannus.

Byddwn yn cynnal digwyddiad ar-lein ble gallwch gwrdd â rhai o’n SCCH a fydd yn rhoi syniad i chi o sut beth yw bod yn SCCH yn Heddlu Gogledd Cymru. 


Cewch ddysgu mwy am y rôl yma. 

#untîm ydym ni yn Heddlu Gogledd Cymru ac am eich ymrwymiad byddwch yn cael y manteision hyn:

  • 25 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd ag 8 gŵyl banc
  • Mynediad i gampfeydd a dosbarthiadau ffitrwydd ar y safle
  • Opsiwn i ddod yn aelod o UNSAIN, yr undeb gwasanaethau cyhoeddus
  • Gostyngiadau gan wahanol fanwerthwyr drwy'r Cynllun Golau Glas
  • Cynllun Beicio i'r Gwaith
  • Gweithio Hybrid/Ystwyth (dibynnydd rôl)
  • Cefnogaeth gan ein Canolfan Iechyd a Lles gan gynnwys Swyddogion Lles, Cwnsela, Ffisiotherapydd a Chefnogwyr Cymheiriaid Iechyd Meddwll a pheeidio ag anghofio ein ci lles
  • Cynllun pensiwn
  • Cyfleon gwaith hyblyg
  • Hawliau cyfnod mamolaeth/tadolaeth/mabwysiadu hael
  • Darpariaeth salwch hael

Pa hyfforddiant a gaf?

Mae SCCH yn derbyn naw wythnos hyfforddiant cychwynnol (bydd hwn o ddydd Llun i ddydd Gwener ar gyfer rolau llawn amser a rhan-amser). Mae’r rhain yn cynnwys sesiynau chwarae rôl ac ymarferol i sicrhau’n iawn eich bod yn deall popeth yn llawn. Ar y diwedd mi fyddwch yn meddu ar y sgiliau hanfodol a’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i symud ymlaen.  Ac ar ben hynny - gall rhannu’r profiad hwn gyda’ch cyd-ddysgwyr arwain at sawl cyfeillgarwch cadarn a fydd yn para trwy gydol eich gyrfa yn y dyfodol.

Byddwch hefyd yn cael un ai dri neu bum diwrnod o hyfforddiant Cymraeg, gan ddibynnu ar eich lefel iaith bresennol.

Am y chwe wythnos nesaf cewch eich mentora gan SCCH sydd wedi’i hyfforddi fel tiwtor. Yn ystod y cyfnod hwn byddwch yn gallu rhoi eich sgiliau newydd ar waith. Bydd hyn o dan oruchwyliaeth eich cydweithiwr profiadol.

Ar ddiwedd y cyfnod chwe wythnos bydd eich tiwtor yn eich asesu. Os ydych yn barod, cewch eich aseinio i’ch rota newydd. Gallwch yn awr ddechrau mynd allan ar batrôl annibynnol!

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn sefydliad dwyieithog ac rydym yn annog ein holl staff a swyddogion i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gwaith bob dydd. Ar gyfer y rôl hon, bydd rhaid i chi ddangos sgiliau Lefel 2 Cymraeg, sy'n golygu eich bod yn gallu rhoi a gofyn am fanylion personol a gwybodaeth sylfaenol; gwneud ceisiadau syml a dweud rhai pethau amdanoch eich hun yn Gymraeg. Rydym yn cynnig cymorth ac arweiniad i'ch cynorthwyo i gyflawni'r lefel angenrheidiol. Gallwch hefyd wybod mwy drwy fynd ar ein Tudalen Adnoddau Cymraeg.

Gweithredu'n Bositif – ydych chi'n gymwys?

Rydym yn cydnabod bod anghenion pawb yn unigryw ac yn wahanol. Mae ein Tîm Cynrychioli'r Gweithlu yn cynnig amrywiaeth o fentrau gan gynnwys darparu cyngor, anogaeth a chefnogaeth briodol drwy gydol y broses recriwtio. Os ydych yn dod o grŵp Du, Asiaidd, Lleiafrifoedd Ethnig (BAME), grŵp crefydd lleiafrifol, LHDT+, neu ag anabledd neu gyflwr niwroamrywiol (e.e. dyslecsia), gall y Tîm Cynrychioli'r Gweithlu gynnig cefnogaeth Gweithredu Positif i chi yn dibynnu ar y swydd yr ydych yn gwneud cais amdani. Ewch ar ein tudalen Gweithredu Positif i ddysgu mwy am sut mae hyn yn gweithio ac ein hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Bydd disgwyl i ddeiliaid y swydd weithio ar sifft a rota penwythnos ac mae hyn yn gynwysedig yn y cyflog.

Sylwer y gofynnir i'r ymgeisydd/ymgeiswyr llwyddiannus ymrwymo i gyflawni 2 flynedd yn y rôl hon.

Er mwyn ymgeisio i fod yn SCCH, rhaid i chi fod â TGAU gradd A i C mewn Mathemateg a Saesneg Iaith (neu lefel 2 cyffelyb neu uwch yn y ddau bwnc yma).

Os nad oes gennych TGAU mewn Saesneg a Mathemateg ond yn teimlo bod eich profiad yn cyfateb i'r lefel hwn yna gallwch sefyll prawf seicometreg (Rhesymu ar lafar a Chyfrifo). Bydd hyn yn profi eich gallu academaidd.

Rhaid i chi fod â chymhwyster ar adeg cyflwyno eich cais. Ni allwn dderbyn 'graddau disgwyliedig' gan y bydd rhaid i chi gyflwyno copïau o'ch tystysgrifau fel rhan o'ch cais.

Rydym yn rhagweld nifer uchel o geisiadau eleni ac felly efallai byddwn yn cau'r ffenest cyn y dyddiad cau. Argymhellir cwblhau eich cais cyn gynted ag y bo modd. 

Dyddiadau allweddol er gwybodaeth i chi –

  • Cynhelir cyfweliadau yn yr wythnos yn dechrau 14 Chwefror mewn amrywiol leoliadau ledled yr heddlu. 
  • Bydd gwiriadau cyn cyflogaeth sy'n cynnwys biometreg, archwiliadau meddygol a phrawf ffitrwydd yn cael eu cynnal rhwng 28 Chwefror 2022 – 21 Mawrth 2022. Rhaid i chi fynychu'r sesiynau hyn. Felly mae'n bwysig wrth ymgeisio eich bod ar gael rhwng y dyddiadau hyn.
  • Mae angen cwblhau gwiriadau erbyn 11 Ebrill 2022 cyn cynnig penodiad yn yr wythnos sy'n dechrau ar 2 Mai 2022.
  • Dyddiad dechrau derbyniadau ydy dydd Llun 6 Mehefin 2022. Rhaid i chi allu dechrau ar y dyddiad hwn.
1
Cliciwch yma am canllawiau defnyddwyr (PDF) bydd yn eich cynorthwyo chi gyda’n proses ymgeisio ar-lein.

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.