Glanhawr - Caernarfon

Heddlu Gogledd Cymru
Staff Heddlu
Cyllid ac Adnoddau
Gwasanaethau
Gorsaf Heddlu Caernarfon
Graddfa 2
£12.00 Per Hour
Gweithio Penwythnos
TBC
Sefydlog – gellir ond cyflawni’r rôl hon o leoliad penodol.
Rhan Amser
20
Parhaol
1

28/03/24 12:00

Mae hwn yn gyfle gwych er mwyn ymuno hefo Heddlu Gogledd Cymru fel glanhawr yn gweithio yng Nghaernarfon.


Gyda llygad da am fanylion, yn ymfalchïo yn eich gwaith wrth i chi gynnal glendid yr adeiladau drwy wahanol ddyletswyddau glanhau. Darperir hyfforddiant i fod yn fedrus mewn dulliau glanhau priodol, megis defnyddio offer glanhau ac arferion glanhau gorau, yn dilyn iechyd a diogelwch a'r defnydd o offer diogelwch personol a ddarperir. 

 Beth yw diben rôl Glanhawr?

Oherwydd natur y rôl, byddwch yn gwneud gweithgareddau corfforol yn rheolaidd a fyddai'n cynnwys:- cerdded, sefyll, dringo, plygu, penlinio, cropian, ymestyn, gafael, gwthio a thynnu gwrthrychau, codi a/neu symud hyd at 25pwys/ 12kg, plygu ailadroddus a chodi eitemau i fyny a symudiadau braich ailadroddus ac ati.

Mae iechyd a diogelwch o'r pwysigrwydd mwyaf, felly bydd eich dyletswyddau o ddydd i ddydd yn cydymffurfio â pholisïau, gweithdrefnau ac arferion glanhau gorau iechyd a diogelwch h.y. manyleb lanhau, bwrdd glanhau cyfnodol, ymsefydlu glanhau ac arfer gorau ac asesiadau risg.

Beth fydd angen i mi ei ystyried ar gyfer y rôl Glanhawr hon?

Nid oes angen unrhyw brofiad na chymwysterau blaenorol, ond oherwydd gofynion teithio mae'n rhaid i chi feddu ar drwydded yrru lawn.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn sefydliad dwyieithog ac ar gyfer y rôl hon, bydd angen i chi ddangos sgiliau Cymraeg Lefel 1, sy'n golygu eich bod yn gallu ynganu enwau lleoedd Cymraeg ac enwau cyntaf personol, rhywfaint o eirfa sy'n gysylltiedig â'r heddlu a gallu deall a dweud cyfarchion sylfaenol ac ymadroddion sylfaenol. Gallwch gael rhagor o wybodaeth drwy ymweld â'n

Tudalen Adnoddau Iaith Gymraeg.

Beth yw ein manteision  

Yma yn Heddlu Gogledd Cymru rydym yn gwerthfawrogi ein gweithwyr ac rydym yn darparu digon o gymorth a hyfforddiant i sicrhau eich bod yn rhagori yn eich rôl, ochr yn ochr â derbyn budd-daliadau fel: 

  • Bydd gan bob dechreuwr newydd ffrind/mentor i'ch cefnogi pan fyddwch yn ymuno
  • 25 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd ag 8 gŵyl banc
  • Mynediad i gampfeydd a dosbarthiadau ffitrwydd ar y safle
  • Opsiwn i ddod yn aelod o UNSAIN, yr undeb gwasanaethau cyhoeddus
  • Gostyngiadau gan wahanol fanwerthwyr drwy'r Cynllun Golau Glas
  • Cynllun Beicio i'r Gwaith
  • Gweithio Hybrid/Ystwyth (dibynnydd rôl)
  • Cefnogaeth gan ein Canolfan Iechyd a Lles gan gynnwys Swyddogion Lles, Cwnsela, Ffisiotherapydd a Chefnogwyr Cymheiriaid Iechyd Meddwll a pheeidio ag anghofio ein ci lles
  • Cynllun pensiwn
  • Cyfleon gwaith hyblyg
  • Hawliau cyfnod mamolaeth/tadolaeth/mabwysiadu hael
  • Darpariaeth salwch hael

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn sefydliad dwyieithog ac ar gyfer y rôl hon, bydd angen i chi ddangos sgiliau Cymraeg Llafar Lefel 1, sy'n golygu eich bod yn gallu ynganu enwau lleoedd Cymraeg ac enwau cyntaf, rhywfaint o eirfa sy'n gysylltiedig â'r heddlu ac yn gallu deall a dweud cyfarchion sylfaenol ac ymadroddion sylfaenol. Cewch wybod mwy drwy ymweld â'n  Tudalen Adnoddau Cymraeg

Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd 

Rydym yn cael ein cydnabod fel cyflogwr hyderus o ran anabledd, ein nod yw recriwtio a chadw pobl anabl, a phobl â chyflyrau iechyd, am eu sgiliau a'u talent. Gallwch nodi ar eich ffurflen gais a oes angen unrhyw gymorth neu addasiadau arnoch i'ch galluogi i wneud y gwaith, neu i'ch cynorthwyo gyda'ch cais. 

Os byddwch yn ymuno â ni gydag anabledd neu gyflwr meddygol, ein nod yw eich cefnogi fel y gallwch gyflawni eich rôl yn effeithiol. Lle bo'n bosibl, byddwn yn trefnu addasiadau rhesymol fel y gallwch wneud hyn. 

 

Sut ydych chi'n gwneud cais 

Bydd proffil y swydd yn dweud popeth sydd angen i chi ei wybod am y swydd a pha sgiliau y bydd angen i chi eu defnyddio.  

Mae llunio rhestr fer yn seiliedig ar eich datganiad i gefnogi eich cais. Sicrhewch eich bod yn rhoi tystiolaeth o enghreifftiau penodol lle mae’n bosibl o sut mae eich profiad, eich cymwysterau, eich sgiliau a’ch gallu yn bodloni’r meini prawf sylfaenol/arbennig a/neu ofynion hanfodol y rôl. 

Dyddiad cau: 28/03/2024

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â Thîm Recriwtio Heddlu Gogledd Cymru: SSF.Recruitment@northwales.police.uk neu 01492 804699. 

1
Cliciwch yma am canllawiau defnyddwyr (PDF) bydd yn eich cynorthwyo chi gyda’n proses ymgeisio ar-lein.

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.