Cofrestrwch eich Diddordeb ar gyfer ein Hymgyrch SCCH sydd ar y gorwel!
Cyfleoedd Swyddi Gwag yn y Dyfodol
Dyma gyfle gwych i gofrestru eich diddordeb mewn swydd Gweithredwr Cyfathrebu! Mae ein ffenest agored nesaf yn hwyrach yn 2024 felly cofrestrwch eich diddordeb yma ac mi wnawn ni anfon neges atgoffa ynghyd â dolen i ymgeisio!
Beth ydy gweithredwr cyfathrebu?
Mae Gweithredwr cyfathrebu yn aelod o staff yr heddlu sy'n gweithio yn ein Canolfan Gyfathrebu ar y Cyd yn Llanelwy . Gan gwmpasu Gogledd Cymru i gyd, nhw ydy'r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer aelodau o'r cyhoedd sydd angen yr heddlu. Mae bod yn Gyfathrebwr yn fwy nag ateb galwadau'n unig. Mae ynghylch cael a darparu gwybodaeth gywir er mwyn sicrhau y gwneir y penderfyniadau iawn er mwyn cynorthwyo a chadw pobl yn ddiogel. Ynghyd â galwadau 999 brys, byddwch hefyd yn gyfrifol am ymdrin â galwadau difrys (10), a chyfathrebu digidol fel sgyrsiau gwe byw ac ymholiadau e-bost.
Darllenwch fwy drwy'r ddolen ganlynol:
DALIER SYLW: NID YW HON YN YMGYRCH RECRIWTIO WEITHREDOL - MAE AR GYFER COFRESTRU EICH DIDDORDEB YN YR YMGYRCHOEDD RECRIWTIO SYDD AR Y GORWEL.