Cynlluniwr Adnoddau'r Heddlu

Heddlu Gogledd Cymru
Staff Heddlu
Gwasanaethau Cefnogi Gweithredol
Uned Rheoli Adnoddau
Pencadlys yr Heddlu Bae Colwyn
Graddfa 6
£30,783-£32,772 Pro rata
Ar alw/Wrth gefn
TBC
Hybrid – gellir cyflawni’r rôl hon o gartref yn amlach na pheidio.
Rhan Amser
Arall
18.5 hours, ideally working half day Weds (pm) and Thursday and Friday
Dros Dro
28 Ebrill 2025
2

11/04/24 12:00

Cynlluniwr Adnoddau'r Heddlu, Gwasanaethau Cefnogi Gweithredol, Heddlu Gogledd Cymru 

Mae hwn yn gyfle gyrfaol rhagorol er mwyn gwneud effaith go iawn o fewn Heddlu Gogledd Cymru, lle byddwch yn darparu gwasanaeth hanfodol mewn cynllunio adnoddau gweithredol yn y dyfodol.  Byddwch yn gweithio ar y cyd â thîm o gynllunwyr adnoddau, a byddwch yn derbyn hyfforddiant a chymorth parhaus er mwyn sicrhau eich bod yn ffynnu o fewn y rôl.

Gyda sylw at fanylder o'r pwysigrwydd mwyaf, byddwch yn cynllunio a blaenoriaethu er mwyn cynnal y lefel adnoddau dymunol ym mhob maes gweithredol. Byddwch yn gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol ledled yr heddlu ac yn gosod adnoddau er mwyn bodloni gweithgarwch dynamig ac arfaethedig, wrth gynnal cadernid gweithredol. 

Mae hon yn rôl sy'n cynnig cyfleoedd cynnydd gyrfa gwych wrth i chi ddatblygu yn y rôl. Felly sicrhewch beidio colli allan a pharhewch i ddarllen i ddarganfod y manylion llawn...

Dyma rai o gyfrifoldebau Cynlluniwr Adnoddau'r Heddlu:

  • Cynorthwyo Rheolwr Adnoddau'r Heddlu gyda chynllunio adnoddau gweithredol at y dyfodol ar gyfer Heddlu Gogledd Cymru.
  • Cynllunio a chynnal cynllun adnoddau 12 mis ar gyfer meysydd gweithredol.
  • Rhoi rhybudd o 3 mis o leiaf ar gyfer newid dyletswyddau ar gyfer holl swyddogion gweithredol.
  • Gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol ledled yr heddlu, er mwyn gosod adnoddau er mwyn bodloni gweithgarwch dynamig ac arfaethedig, wrth gynnal gwytnwch gweithredol.
  • Cynllunio a blaenoriaethu absenoldebau'n effeithiol er mwyn cynnal/llywodraethu'r lefel adnoddau ym mhob maes gweithredol.
  • Parhau i gydymffurfio gyda gweithdrefnau a chyfarwyddiadau'r Heddlu, Rheoliadau'r Heddlu a Chytundebau Lleol Staff yr Heddlu.

Beth fydd rhaid i mi ei ystyried ar gyfer y rôl hon fel Cynlluniwr Adnoddau'r Heddlu?

 

  • Lleiafswm cymhwyster NVQ 4. Cymhwyster mewn Mathemateg yn ddymunol neu dystiolaeth wedi ei brofi o ddefnyddio Mathemateg mewn rolau blaenorol.
  • Sgiliau a phrofiad dadansoddeg profedig. Byddai'n fanteisiol bod yn gyfarwydd gyda rhagweld adnoddau (patrymau rota).
  • Gallu profedig i weithio heb oruchwyliaeth ac wedi gorfod gyda gwybodaeth sensitif a chyfrinachol.
  • Gwybodaeth am ddeddfwriaeth o ran gwaith sifft, rheoliadau amser gweithio, telerau ac amodau ac iechyd a diogelwch.
  • Arddangos sgiliau allweddell cywir a chymwys.
  • Gwybodaeth ardderchog o  Microsoft Office gyda’r pwyslais ar y gallu i ddefnyddio Microsoft Excel yn effeithiol.  Y gallu i greu, datblygu a thrin taenlenni cymhleth o fantais.
  • Gallu cyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn effeithiol gyda chydweithwyr ar bob lefel.  
  • Cwrteisi ffôn gwych a rheolaeth dda o ramadeg. 
  • Gallu profedig i drefnu a blaenoriaethu llwyth gwaith yn effeithlon er mwyn bodloni fframiau amser tynn. Profiad blaenorol o weithio i ddyddiadau cau, a meddu'r gallu i weithio gyda llawer o gywirdeb.
  • Gallu profedig i gasglu ac adolygu gwybodaeth, nodi opsiynau ac argymell gweithrediadau.
  • Arddangos ffocws cryf/proffesiynol ar gwsmeriaid.

Bydd unigolion yn gweithio o ddydd Llun i ddydd Gwener, dim patrwm sifft. Mae gofyn cyfranogi mewn trefniadau ar alw 12 awr ar benwythnosau rhwng yr oriau 0700-1900. 

Beth yw ein manteision  

Yma yn Heddlu Gogledd Cymru rydym yn gwerthfawrogi ein gweithwyr ac rydym yn darparu digon o gymorth a hyfforddiant i sicrhau eich bod yn rhagori yn eich rôl, ochr yn ochr â derbyn budd-daliadau fel: 

  • Bydd gan bob dechreuwr newydd ffrind/mentor i'ch cefnogi pan fyddwch yn ymuno
  • 25 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd ag 8 gŵyl banc
  • Mynediad i gampfeydd a dosbarthiadau ffitrwydd ar y safle
  • Opsiwn i ddod yn aelod o UNSAIN, yr undeb gwasanaethau cyhoeddus
  • Gostyngiadau gan wahanol fanwerthwyr drwy'r Cynllun Golau Glas
  • Cynllun Beicio i'r Gwaith
  • Gweithio Hybrid/Ystwyth (dibynnydd rôl)
  • Cefnogaeth gan ein Canolfan Iechyd a Lles gan gynnwys Swyddogion Lles, Cwnsela, Ffisiotherapydd a Chefnogwyr Cymheiriaid Iechyd Meddwll a pheeidio ag anghofio ein ci lles
  • Cynllun pensiwn
  • Cyfleon gwaith hyblyg
  • Hawliau cyfnod mamolaeth/tadolaeth/mabwysiadu hael
  • Darpariaeth salwch hael

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn sefydliad dwyieithog ac ar gyfer y rôl hon, bydd angen i chi ddangos sgiliau Cymraeg Llafar Lefel 2, sy'n golygu eich bod yn gallu rhoi a gofyn am fanylion personol a gwybodaeth sylfaenol; i wneud ceisiadau syml a dweud ychydig o ymadroddion amdanoch chi'ch hun yn Gymraeg. O fewn eich gwasanaeth 12 mis cyntaf bydd gofyn i chi gyrraedd sgiliau Cymraeg Llafar Lefel 3.Cewch wybod mwy drwy ymweld â'n  Tudalen Adnoddau Cymraeg

Cymraeg 

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn sefydliad dwyieithog ac ar gyfer y rôl hon, bydd angen i chi ddangos sgiliau Cymraeg Llafar Lefel 2, sy'n golygu eich bod yn gallu rhoi a gofyn am fanylion personol a gwybodaeth sylfaenol; i wneud ceisiadau syml a dweud ychydig o ymadroddion amdanoch chi'ch hun yn Gymraeg. O fewn eich gwasanaeth 12 mis cyntaf bydd gofyn i chi gyrraedd sgiliau Cymraeg Llafar Lefel 3.Cewch wybod mwy drwy ymweld â'n  Tudalen Adnoddau Cymraeg

Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd 

Rydym yn cael ein cydnabod fel cyflogwr hyderus o ran anabledd, ein nod yw recriwtio a chadw pobl anabl, a phobl â chyflyrau iechyd, am eu sgiliau a'u talent. Gallwch nodi ar eich ffurflen gais a oes angen unrhyw gymorth neu addasiadau arnoch i'ch galluogi i wneud y gwaith, neu i'ch cynorthwyo gyda'ch cais. 

Os byddwch yn ymuno â ni gydag anabledd neu gyflwr meddygol, ein nod yw eich cefnogi fel y gallwch gyflawni eich rôl yn effeithiol. Lle bo'n bosibl, byddwn yn trefnu addasiadau rhesymol fel y gallwch wneud hyn. 

Sut ydych chi'n gwneud cais 

Bydd proffil y swydd yn dweud popeth sydd angen i chi ei wybod am y swydd a pha sgiliau y bydd angen i chi eu defnyddio.  

Mae llunio rhestr fer yn seiliedig ar eich datganiad i gefnogi eich cais. Sicrhewch eich bod yn rhoi tystiolaeth o enghreifftiau penodol lle mae’n bosibl o sut mae eich profiad, eich cymwysterau, eich sgiliau a’ch gallu yn bodloni’r meini prawf sylfaenol/arbennig a/neu ofynion hanfodol y rôl. 

Dyddiad cau: 11/04/2024

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â Thîm Recriwtio Heddlu Gogledd Cymru: SSF.Recruitment@northwales.police.uk neu 01492 804699. 

Y broses ddethol: Cyfweliad ac Ymarfer Bwrdd Gwaith/prawf Excel – cadarnheir dyddiadau

 

 

 

 

1
Cliciwch yma am canllawiau defnyddwyr (PDF) bydd yn eich cynorthwyo chi gyda’n proses ymgeisio ar-lein.

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.