~~OPPORTUNITY_TITLE_6D8D1876-46F3-419E-8A35-5117F2DD2C35~~

Heddlu Gogledd Cymru
Staff Heddlu
Rhwydwaith Ymchwilio Fforensig Gwrthdrawiadau
Arall
Lleolir y swydd yn y cartref ond bydd gofyn teithio ar hyd a lled Cymru a Lloegr yn cynnwys ymweliadau cyson â Gogledd Cymru.
POC
£41,718 – £44,928
Llawn Amser
Arall
37 for staff and 40 for officers
Secondiad
3

16/02/21 12:00

RHEOLWR TECHNEGOL RHANBARTHOL – Rhanbarth y Gogledd Orllewin – yn gofalu am Cumbria, Sir Gaerhirfryn, Manceinion Fwyaf, Glannau Mersi a Gogledd Cymru.

 

Heddlu Gogledd Cymru fydd yr Heddlu Cartref.

 

O’r cyfweliadau hyn byddwn yn creu rhestr olyniaeth ar gyfer unrhyw rolau Rheolwr Technegol Rhanbarthol mewn mannau eraill o fewn y Rhwydwaith (Cymru a Lloegr) a allai godi dros y 6 mis nesaf.

 

Mae’r swydd hon yn agored i ymgeiswyr allanol, Staff neu Ringylliaid presennol yr Heddlu. Rhoddir blaenoriaeth i secondiadau gweithwyr Heddlu presennol gyda’r opsiynau eraill yn cael eu hystyried yn ôl bob cais.

 

Bydd cytundebau uniongyrchol yn ben agored ac adolygir secondiadau ddiwedd mis Mawrth 2023.

 

Cynhelir cyfweliadau ar 23 Chwefror 2021   ar-lein drwy Microsoft Teams.

 

Efallai ystyrir ceisiadau gan Swyddogion Heddlu rheng Cwnstabl ond RHAID sicrhau cefnogaeth gan yr Heddlu Cartref priodol (cyn y cais) am symud ymlaen i reng Rhingyll dros gyfnod penodol.

 

RHAID i geisiadau gael eu cymeradwyo gan CCPSH yn yr Heddlu Cartref er mwyn i secondiadau symud ymlaen.

 

Cyflog £41,718 – £44,928 Graddfeydd Cyflog Staff Heddlu neu Ringylliaid

 

Oriau – 37 awr yr wythnos i Staff yr Heddlu a 40 awr yr wythnos i swyddogion heddlu

 

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn falch o fod yr Heddlu Cartref i’r Rhwydwaith Ymchwilio Gwrthdaro Fforensig yr Heddlu (FCIN) a fydd yn cyflwyno gwasanaeth proffesiynol, diduedd ac achrededig ar draws Cymru a Lloegr.

 

Rôl Rheolwr Technegol Rhanbarthol (RTM) Rhwydwaith Ymchwiliadau Fforensig Gwrthdrawiadau (FCIN) yw ymgysylltu ar lefel swyddogaethol gyda heddluoedd, gan sicrhau y cyflawnir gwasanaeth ac y gweithredir a chynhelir y System Rheoli Ansawdd electronig (eQMS).

 

Bydd angen i ddeiliad y swydd fod yn rhan o'r tîm FCIN, yn gyfrifol am ddatblygu a chryfhau'r rhwydwaith. Byddant yn cefnogi Rheolwr Rhanbarthol yr FCIN. I ddechrau, fel rhan o'r Tîm Trosglwyddo, byddant yn arwain heddluoedd drwy gyfnod trosglwyddo, i gyrraedd statws aelod achrededig i 'fusnes fel arfer'.

 

Yn dilyn trosglwyddo, bydd deiliad y swydd hefyd yn gweithredu ac yn cynnal ansawdd a safonau, cydymffurfiaeth ISO a chyflawniad adnoddau Ymchwiliadau Fforensig i Wrthdrawiadau. Mae’r rhain yn berthnasol i'r cytundeb gwasanaeth sefydledig a'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOPs).

 

Lleolir y swydd yn y cartref ond bydd gofyn teithio ar hyd a lled Cymru a Lloegr yn cynnwys ymweliadau cyson â Gogledd Cymru.

 

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymroddedig i fod yn sefydliad dwyieithog. Bydd disgwyl i chi felly arddangos agwedd gadarnhaol tuag at y Gymraeg.

 

Ni ddylai ymgeiswyr sydd eisoes wedi bod yn aflwyddiannus wneud cais.

Dyddiad cau: 16 Chwefror 2021

 

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â:

ssfrecruitment@nthwales.pnn.police.uk

 

 

Cyf: Rhif SUP 2410

2
Cliciwch yma am canllawiau defnyddwyr (PDF) bydd yn eich cynorthwyo chi gyda’n proses ymgeisio ar-lein.

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.