~~OPPORTUNITY_TITLE_6B43D9A2-90D8-4F90-8193-A99B340356AF~~

Heddlu Gogledd Cymru
Staff Heddlu
Gwasanaethau Trosedd
Rhwydwaith Ymchwilio Fforensig Gwrthdrawiadau
Arall
Lleolir y swydd yn y cartref ond bydd gofyn teithio ar hyd a lled Cymru a Lloegr yn cynnwys ymweliadau cyson â Gogledd Cymru.
POE
£50,250 to £55,665
Llawn Amser
37
Secondiad
2

07/03/21 12:00

RHEOLWR RHANBARTHOL – Dwyrain Canolbarth Lloegr.

 

Heddlu Gogledd Cymru fydd yr Heddlu Cartref.

 

Mae’r swyddi hyn yn agored i ymgeiswyr allanol, Staff neu Arolygyddion presennol yr Heddlu. Rhoddir blaenoriaeth i secondiadau gweithwyr Heddlu presennol gyda’r opsiynau eraill yn cael eu hystyried yn ôl bob cais.

 

Bydd cytundebau uniongyrchol yn ben agored, secondiadau i’w hadolygu ar 31.03.23.

 

Cynhelir cyfweliadau ar 10th Marwth 2021 ar-lein drwy Microsoft Teams.

 

Efallai ystyrir ceisiadau gan Swyddogion Heddlu rheng Rhingyll ond bydd angen sicrhau cefnogaeth gan yr heddlu cartref priodol (cyn y cais) am symud ymlaen i reng Arolygydd dros gyfnod penodol.

 

Bydd angen i geisiadau gael eu cymeradwyo gan CCPSH yn eich Heddlu Cartref fel sy’n briodol.

 

Cyflog – Graddfeydd Cyflog Arolygyddion neu Staff yr Heddlu £50,250 i £55,665

 

Oriau – 37 awr yr wythnos i Staff yr Heddlu a 40 yr wythnos i swyddogion heddlu

 

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn falch o fod yr Heddlu Cartref i’r Rhwydwaith Ymchwiliadau Fforensig Gwrthdrawiadau yr Heddlu (FCIN) a fydd yn cyflwyno gwasanaeth proffesiynol, diduedd ac achrededig ar draws Cymru a Lloegr.

 

Bydd y rôl hon yn ymgysylltu ar lefel dactegol a swyddogaethol, gan sicrhau y cyflwynir gwasanaeth ac y gweithredir a chynhelir safonau a pholisïau cenedlaethol.

 

Bydd angen i ddeiliad y swydd fod yn rhan o'r tîm FCIN, yn gyfrifol am ddatblygu a chryfhau'r rhwydwaith. Cynorthwyo Rheolwr Technegol Rhanbarthol yr FCIN a Biwros FCI yr heddlu sydd wedi’u rhwydweithio o fewn y rhanbarth. I ddechrau, fel rhan o'r Tîm Trosglwyddo, byddant yn arwain heddluoedd drwy gyfnod trosglwyddo, i gyrraedd statws aelod achrededig i 'fusnes fel arfer'.

 

Yn dilyn trosglwyddo, bydd deiliad y swydd yn rheoli gwasanaeth a chyflawniad adnoddau Ymchwiliadau Fforensig i Wrthdrawiadau heddluoedd, wrth iddynt ymgymryd â holl weithgarwch achrededig.

 

Lleolir y swydd yn y cartref ond bydd gofyn teithio ar hyd a lled Cymru a Lloegr yn cynnwys ymweliadau cyson â Gogledd Cymru.

 

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymroddedig i fod yn sefydliad dwyieithog. Bydd disgwyl i chi felly arddangos agwedd gadarnhaol tuag at y Gymraeg.

 

Dyddiad cau: 2 Mawrth 2021

 

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â:

ssfrecruitment@nthwales.pnn.police.uk

 

Cyf: Rhif SUP. SUP2409

2
Cliciwch yma am canllawiau defnyddwyr (PDF) bydd yn eich cynorthwyo chi gyda’n proses ymgeisio ar-lein.

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.