Gwasanaethau Cymorth Gweithredol

Heddlu Gogledd Cymru
Staff Heddlu
Gwasanaethau Cefnogi Gweithredol
Canolfan Reoli'r Heddlu
Canolfan Rheoli'r Heddlu Llanelwy
SO1
£29,793 - £31,725
Llawn Amser
37
Parhaol
3

12/03/21 12:00

Dyma gyfle cyffrous i ymuno â’r Ganolfan Gyfathrebu o fewn Heddlu Gogledd Cymru fel Dadansoddwr Gwasanaethau Cefnogi Gweithredol, felly os oes gennych sgiliau rhyngweithiol ardderchog a'r gallu i ryngweithio yn hyderus a gallu dangos empathi ar bob lefel cyfathrebu, darllenwch ymlaen i ganfod y manylion...

 

Beth yw swyddogaeth Dadansoddwr Gwasanaethau Cefnogaeth Gweithredol?

 

Yn y rôl hon byddwch yn adrodd i Reolwr y Ganolfan Alwadau, yn cynhyrchu dadansoddiadau i roi gwybodaeth wrth wneud penderfyniadau ar droseddau cudd-wybodaeth a digwyddiadau ar draws yr heddlu. Mae'r gallu i weithio o dan bwysau yn allweddol wrth i chi gefnogi gyda dadansoddiadau, y broses orchwylio a chydlynu ar bob lefel er mwyn gwneud penderfyniadau effeithiol ar gyfer gosod adnoddau'r Heddlu. Bydd dyletswyddau yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i;

 

  • Gynhyrchu a chyfrannu at greu cynnyrch dadansoddi tactegol a strategol.
  • Defnyddio ystod eang o dechnegau dadansoddol yn cynnwys dadansoddiadau datrys problemau.
  • Nodi ac asesu natur ac ystod cudd-wybodaeth, troseddau a digwyddiadau o fewn Gogledd Cymru.
  • Cyflwyno canlyniadau dadansoddiad ar lafar ac yn ysgrifenedig i gynulleidfa eang yn cynnwys y cyhoedd, swyddogion uwch ac aelodau uwch o Awdurdodau Lleol a Gwasanaeth Erlyn y Goron.

 

Beth fydd rhaid i mi ei ystyried ar gyfer rôl Dadansoddwr Gwasanaethau Cefnogi Gweithredol ?

 

Yn y rôl hon bydd angen i chi fod yn gallu cyfuno gofynion sydd yn cystadlu yn erbyn ei gilydd gan ddefnyddio eich sgiliau cyfathrebu er mwyn gweithio yn effeithiol, gyda'r gallu i drafod a dylanwadu ar lefelau amrywiol o fewn y sefydliad. Bydd hefyd angen:

 

  • Gradd yn dangos profiad o ymchwilio ansoddol a meintiol neu lefel wedi ei brofi o brofiad perthnasol.
  • Sgiliau dadansoddi wedi eu profi wedi eu caffael o fewn amgylchedd cudd-wybodaeth.
  • Sgiliau trefnu gwych, ynghyd â'r gallu i flaenoriaethu a bodloni terfynau amser o dan bwysau.
  • Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar, sy'n gymesur â graddfa a gofynion y swydd.
  • Gallu i weithio fel aelod effeithiol mewn tîm.
  • Sgiliau TG uwch yn enwedig MS Excel a'r gallu i ddefnyddio meddalwedd arbenigol ar gyfer dadansoddi cudd-wybodaeth.

 

Er nad yn hanfodol ar gyfer y rôl, dylai'r canlynol fod o fantais;

 

  • Wedi eich hyfforddi i ddefnyddio meddalwedd I2 Analysis a meddalwedd mapio troseddau.
  • Profiad o ddadansoddi cudd-wybodaeth

 

Yn unol â'n polisi Sgiliau Cymraeg, rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad dwyieithog.
Cyn eich penodi, bydd gofyn i chi ddangos cyrhaeddiad Lefel 2 mewn Cymraeg llafar.
Mae hyn yn golygu y gallwch ddeall ac ynganu enwau lleoedd Cymraeg a'r gallu i ddeall a defnyddio ymadroddion syml bob dydd.

Cewch wybod mwy drwy ymweld â'n Tudalen Adnoddau Cymraeg.

 

Ewch i weld os ydych yn gymwys am gymorth Gweithredu Positif.

 

Dyddiad cau: 12/03/2021

 

Os ydych angen rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Thîm Recriwtio Heddlu Gogledd Cymru:
SSF.Recruitment@nthwales.pnn.police.uk

1
Cliciwch yma am canllawiau defnyddwyr (PDF) bydd yn eich cynorthwyo chi gyda’n proses ymgeisio ar-lein.

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.