~~OPPORTUNITY_TITLE_A413CC5E-EF8C-4800-B59F-725D7E3C62E3~~

Heddlu Gogledd Cymru
Staff Heddlu
Gwasanaethau Trosedd
Rhwydwaith Ymchwilio Fforensig Gwrthdrawiadau
Arall
Lleolir y swydd yn y cartref ond bydd gofyn teithio ar hyd a lled Cymru a Lloegr yn cynnwys ymweliadau cyson â Gogledd Cymru.
POE
up to £55,000 inclusive of market premium
Llawn Amser
37
Parhaol
2

10/03/21 12:00

FCIN - RHEOLWR ANSAWDD – Heddlu Gogledd Cymru yw’r Heddlu Cartref.

Mae’r cyfle hwn yn agored i Staff Heddlu presennol neu ymgeiswyr allanol. Ystyrir un ai secondiad tan 31.03.23 (pryd y caiff ei adolygu) neu benodiad parhaol i’r Heddlu cartref.

Cynhelir cyfweliadau ar 19 Mawrth 2021 ar-lein drwy Microsoft Teams.

 

Cyflog – hyd at £50,000 sy’n cynnwys premiwm y farchnad

 

Oriau – 37 yr wythnos

 

Mae Heddlu Gogledd Cymru’n falch o fod yn Heddlu Cartref y Rhwydwaith Ymchwiliadau Fforensig Gwrthdrawiadau (FCIN) a fydd yn cyflwyno gwasanaeth proffesiynol, teg ac achrededig ledled Cymru a Lloegr.

 

Bydd y rôl hon yn adrodd i Bennaeth Bwrdd Swyddogaeth a Strategol FCIN, yn goruchwylio System Rheoli Ansawdd FCIN, gan sicrhau ei fod yn cydymffurfio â Safonau Rhyngwladol, Cod Rheolydd Gwyddorau Fforensig a gofynion UKAS.

 

Bydd y rôl yn galluogi achrediad o holl Safleoedd Ymchwiliadau Gwrthdrawiadau Fforensig ledled Cymru a Lloegr drwy raglen archwilio allanol a mewnol wedi’i threfnu. Sicrheir uniondeb a darperir gwasanaeth gwyddorau fforensig tryloyw a chadarn.

 

Bydd gofyn hefyd yn y rôl i reoli a chydlynu gweithgarwch y tîm Rheoli Ansawdd sy’n gyfrifol am holl archwiliadau, ymchwiliadau diffyg cydymffurfiaeth, camau cywirol a System Genedlaethol Rheoli Achosion.

 

Bydd deiliad y swydd yn hyrwyddo diwylliant o ddysgu parhaus a gwelliant ledled holl heddluoedd sy’n aelodau o’r FCIN.

 

Lleolir y swydd yn y cartref ond bydd gofyn teithio ar hyd a lled Cymru a Lloegr yn cynnwys ymweliadau cyson â Gogledd Cymru.

 

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymroddedig i fod yn sefydliad dwyieithog. Bydd disgwyl i chi felly arddangos agwedd gadarnhaol at y Gymraeg.

 

Dyddiad cau: 10 Mawrth 2021

 

Am fanylion pellach cysylltwch â:

ssfrecruitment@nthwales.pnn.police.uk

 

Cyf: Rhif SUP 2378


 

3
Cliciwch yma am canllawiau defnyddwyr (PDF) bydd yn eich cynorthwyo chi gyda’n proses ymgeisio ar-lein.

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.