Rheolwr Eiddo Wedi Ei Atafaelu

Heddlu Gogledd Cymru
Staff Heddlu
Cyllid ac Adnoddau
Gwasanaethau
Pencadlys Rhanbarthol Llanelwy
Graddfa 4
£21,135 to £23,406
Llawn Amser
37
Parhaol
3

23/06/21 12:00


Mae hwn yn gyfle rhagorol i ymuno â'r tîm Cyllid ac Adnoddau yn Heddlu Gogledd Cymru fel y Clerc Eiddo wedi'i Atafaelu. Byddwch yn ymuno ar gytundeb parhaol o fewn sefydliad a fydd yn cefnogi eich llwyddiant yn y gweithle go iawn.

Byddwch yn gofalu am y storfa eiddo ac arddangosion yn unol â’r polisi a’r protocol gweithredu. Byddwch yn cynorthwyo i gynnal lefel uchel o ddiogelwch o fewn y tîm.  Byddwch yn cysylltu gyda llawer o wasanaethau gwahanol mewn cysylltiad â'r rôl sy'n cynnwys Gwasanaethau Fforensig, Erlyn y Goron ac aelodau o'r cyhoedd. 

Beth yw gofynion rôl Clerc Eiddo wedi'i Atafaelu?  

DYLETSWYDDAU A CHYFRIFOLDEBAU:

  • Prosesu a thrin eitemau o eiddo tystiolaeth cyffredinol, gwerth mawr a sensitif (gan gynnwys cyffuriau, drylliau tanio a CSI) Sicrhau y cynhelir parhad, uniondeb a diogelwch.
  • Ysgrifennu datganiadau tystiolaeth ac uniondeb eitem yn dangos ei union symudiadau (e.e. cwblhau ffurflenni MG11 am gyfrif arian parod; ysgrifennu datganiadau parhad ar gyfer y Llys; cynorthwyo'r Rheolwr Eiddo wedi'i Atafaelu i ysgrifennu datganiadau tystiolaeth ar gyfer ymchwiliadau Cyfreithiol ac ASP lle bo'n briodol).
  • Cyfrif o dan amodau rheoledig, pacio a bancio'r holl arian parod sydd wedi ei atafaelu a Deddf Enillion Trosedd yn unol â pholisi a gweithdrefnau. Gweinyddu arferion gwaith gydag eiddo Coll ac wedi'u Darganfod.
  • Ymweld â storfeydd symudol o fewn eich maes cyfrifoldeb er mwyn casglu a danfon arddangosiadau yn unol â'r Weithdrefn Weithredu Safonol. Bydd hyn yn cynnwys datblygu enghreifftiau o safonau gwael a rheoli'r storfeydd symudol i'r Rheolwr Eiddo.
  • Mewnbynnu manylion eiddo o'r Templed Eiddo Wedi'i Atafaelu ar y System Rheoli Cofnodion (RMS). Cwblhau’r holl ddogfennaeth berthnasol o ran symud eitemau i leoliadau gwahanol. Bydd hyn yn cynnwys adolygu safonau cwblhau'r templed, mewnbynnu cywir, rhoi pethau ar brif ffeil a chysylltu'r wybodaeth.
  • Ymdrin â gorchwylion y System Rheoli Cofnodion a glustnodir i’r tîm eiddo mewn dull amserol. Bydd hyn yn cynnwys defnyddio gorchwylion llif gwaith goruchwylwyr lle bo hynny'n angenrheidiol.
  • Adolygu gorchwylion yn ddyddiol a sicrhau bod gorchwylion sydd heb gael sylw eto naill ai’n cael eu hymdrin neu’n cael sylw’r Rheolwr Eiddo.
  • Cynorthwyo’r Rheolwr Eiddo i gynnal sesiynau hyfforddi lle bo’n bosibl ac ymgysylltu gyda swyddogion a staff o ran protocol, arfer gorau a chodi safonau trin eiddo ac arddangosion.
  • Sicrhau bod eitemau sydd wedi’u nodi fel rhai i'w gwaredu yn cael eu trin yn unol â chanllawiau Iechyd a Diogelwch a bod polisïau a gweithdrefnau perthnasol eraill yn cael eu rhoi ar waith. Sicrhau fod unrhyw eitemau wedi eu cofrestru i ffwrdd yn cael eu gwaredu yn unol â Gweithrediadau Rheoli Gwastraff.
  • Cysylltu â swyddogion, Gwasanaeth Erlyn y Goron, y llysoedd, cyfreithwyr a’r cyhoedd o ran ymholiadau y mae angen eu symud i lefel uwch.
  • Adolygu arddangosion sydd wedi’u storio yn y brif storfa yn rheolaidd o ran dychwelyd, gwaredu ac/neu ddinistrio. Cynnal diogelwch a chyfrinachedd yr holl ddeunydd sy'n cael eu trin o fewn y storfa eiddo a rhoi gweithdrefnau ar waith. Cynnal adolygiadau ac archwiliadau eiddo wedi'i atafaelu, a gwneud penderfyniadau cysylltiedig ynghylch gwaredu/dychwelyd eiddo (bydd hyn yn cynnwys mynd ar ôl manylion gan Swyddogion, adolygu RMS, ayyb).  

Beth fyddaf ei angen i gael fy ystyried ar gyfer y rôl fel Clerc Eiddo wedi'i Atafaelu? 

  • Meddu cymhwyster NVQ lefel 3 neu'n gyfatebol a/neu lefel cyfatebol o brofiad gwaith.
  • Gwybodaeth neu brofiad cefndirol mewn rôl debyg. Byddai'n ddymunol er nid yn hanfodol pe bai hyn yn berthnasol i blismona.
  • Meddu sgiliau craff gyda'r hyder i wneud penderfyniadau cyfiawn.
  • Defnyddio Technoleg Gwybodaeth i lefel ganolradd sy’n cynnwys gwybodaeth sgiliau mewnosod/teipio a gwybodaeth waith o becynnau Microsoft Office.
  • Sgiliau cyfathrebu gwych, yn ysgrifenedig a llafar, ynghyd â’r gallu i weithio’n dda mewn amgylchfyd tîm.
  • Sgiliau gweinyddu, goruchwylio, dadansoddi a threfnu wedi eu profi.
  • Trwydded yrru ddilys a chyfredol.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn sefydliad dwyieithog ac ar gyfer y rôl hon bydd rhaid i chi ddangos sgiliau Lefel 3 Cymraeg sy'n golygu eich bod yn gallu sgwrsio yn rhannol yn Gymraeg ac ysgrifennu cyfathrebiadau anffurfiol. Cewch wybod mwy drwy ymweld â'n  Tudalen Adnoddau Cymraeg.

Gweithredu Positif – ydych chi'n gymwys? 

Rydym yn cydnabod fod anghenion pawb yn unigryw ac yn wahanol. Mae ein Tîm Cynrychiolaeth y Gweithlu yn cynnig amrywiaeth o fentrau gan gynnwys darparu cyngor, anogaeth a chefnogaeth briodol drwy gydol y broses recriwtio. Os ydych yn dod o grŵp Du, Asiaidd neu Leiafrifoedd Ethnig (BAME), LHDT+, neu os oes gennych anabledd – gall y Tîm Cynrychiolaeth y Gweithlu allu cynnig cefnogaeth Gweithredu Positif i chi yn dibynnu ar y rôl yr ydych yn gwneud cais amdano. Ewch i'n tudalen Gweithredu Positif i ddysgu mwy am sut mae hyn yn gweithio ac ein hymroddiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. 

Sut wyf i’n ymgeisio?

Cyflwynwch eich cais ar wefan Heddlu Gogledd Cymru, gan sicrhau eich bod yn rhoi manylion eich profiad blaenorol perthnasol ar gyfer y rôl hon yn y Datganiad Ategol yn y Ffurflen Gais.

Dyddiad cau: 23/06/2021

 

Dyddiad y cyfweliad: 08/07/2021 a 09/07/2021

 

 

Os ydych angen rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Thîm Recriwtio Heddlu Gogledd Cymru:
 SSF.Recruitment@nthwales.pnn.police.uk

 

 


1
Cliciwch yma am canllawiau defnyddwyr (PDF) bydd yn eich cynorthwyo chi gyda’n proses ymgeisio ar-lein.

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.