NYRS SGRINIO
24/06/21 16:30
Mae hwn yn gyfle rhagorol i ymuno â Heddlu Gogledd Cymru fel Nyrs Sgrinio. Byddwch yn ymuno ar gytundeb parhaol o fewn sefydliad a fydd yn cefnogi eich llwyddiant yn y gweithle.
Darparu gwyliadwriaeth iechyd gweithle, sgrinio ac ymgymryd ag asesiadau iechyd. Sicrhau cydymffurfiaeth gyda gofynion deddfwriaethol perthnasol a darparu gwybodaeth. Trefnu gweithgarwch sy'n berthnasol i hyrwyddo llesiant ac iechyd.
Beth yw gofynion rôl Nyrs Sgrinio?
- Cynnal brechiadau Hepatitis B ac apwyntiadau cysylltiad, gan gynnwys monitro a diweddaru cofnodion a chronfeydd data perthnasol.
- Bod yn gyfrifol am drefnu a gweithredu'r amserlen brechiadau blynyddol Ffliw fel yn ôl protocol yr heddlu.
- Cynorthwyo'r tîm Iechyd Galwedigaethol wrth ddarparu rhaglenni iechyd newydd a gweithredu polisïau iechyd newydd.
- Ymgymryd â sgrinio cyn cyflogaeth ffurflenni iechyd ac archwiliadau meddygol ar gyfer recriwtio holl weithwyr newydd. Cynorthwyo Ymgynghorydd Meddygol yr Heddlu (FMA) gydag archwiliadau meddygol cyn cyflogaeth.
- Cyflawni gwyliadwriaeth iechyd ataliol a monitro rhaglenni ar gyfer aelodau'r heddlu sy'n dod i gysylltiad â pheryglon penodol yn y gwaith, e.e. Sgrinio Awdiometrig / Sbirometreg, Profion Gwaed ayyb yn unol â gofynion deddfwriaethol. Sicrhau bod system gadarn mewn lle ar gyfer cofnodi a monitro holl staff sydd angen cadw llygad ar eu hiechyd.
- Hyrwyddo dewisiadau iach a rhoi cyngor a gwybodaeth i weithwyr yn y Pencadlys a safleoedd heddlu eraill o fewn yr Heddlu.
- Darparu gwybodaeth iechyd a lles cyffredinol ac arwain gyda threfnu gweithgarwch hyrwyddo iechyd fel trefnu ffeiriau iechyd, rhoi cyngor ar fwyta'n iach, risg coronaidd, ymgyrchoedd iechyd meddwl ac yn y blaen gan weithio tuag at gydymffurfiaeth o 100% gyda'r Fframwaith Golau Glas.
- Sicrhau y rheolir ac y cedwir yr holl offer i safon uchel yn ystod bob sifft gan hysbysu'r Ymgynghorydd Nyrsio Iechyd Galwedigaethol am unrhyw broblemau.
- Cysylltu gyda staff gweinyddol er mwyn sicrhau rheoli llwyth gwaith yn effeithiol, a helaethu unrhyw bryderon at yr Ymgynghorydd Nyrsio Iechyd Galwedigaethol.
- Bod yn atebol am gyflawni gwasanaeth.
- Arwain prosiectau fel y cyfarwyddir gan Uwch Reolwyr.
Beth fyddaf ei angen i gael fy ystyried ar gyfer rôl Nyrs Sgrinio?
- Nyrs Gyffredinol Gofrestredig gyda statws cofrestru presennol gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC), gydag o leiaf dair blynedd o brofiad clinigol wedi cofrestru.
- Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus ac ail-ddilysiad gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.
- Profiad o weithio yn y gymuned, yr uned damweiniau ac achosion brys neu ofal coronaidd - os yn bosib Nyrsio Practis a / neu Iechyd Galwedigaethol.
- Profiad o reoli eich llwyth gwaith eich hun
- Profiad blaenorol mewn hyrwyddo iechyd.
- Gallu cadw cofnodion clinigol cynhwysfawr.
- Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar da, gan gynnwys gallu rhoi cyflwyniadau o safon uchel.
- Hyddysg gyda chyfrifiaduron gyda gwybodaeth dda am Microsoft Word, Excel a PowerPoint.
- Profiad o reoli llwyth gwaith a chydbwyso blaenoriaethau cystadleuol, gan ailgyfeirio adnoddau'n gyflym ac yn effeithiol er mwyn bodloni galwadau newidiol.
- Mae angen trwydded yrru gyfredol, gan y bydd gofyn i ddeiliad y swydd deithio ar draws yr Heddlu fel bo'r galw.
Dymunol;
- Gwybodaeth o brosesau salwch a rheoli absenoldeb yn cynnwys cyngor ar addasiadau rhesymol a chynlluniau gwella.
- Profiad ymarferol blaenorol o ymgymryd â rhaglenni brechu gan gynnwys ymgymryd â rhaglen atal hepatitis / rhoi brechiadau ffliw neu fod yn barod i gymhwyso yn y sgil hon.
- Profiad ymarferol blaenorol o fflobotomi neu fod yn barod i gymhwyso yn y sgil hon.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn sefydliad dwyieithog ac ar gyfer y rôl hon bydd rhaid i chi ddangos sgiliau Lefel 3 Cymraeg sy'n golygu eich bod yn gallu sgwrsio yn rhannol yn Gymraeg ac ysgrifennu cyfathrebiadau anffurfiol. Cewch wybod mwy drwy ymweld â'n Tudalen Adnoddau Cymraeg.
Gweithredu'n Bositif - ydych chi'n gymwys?
Rydym yn cydnabod fod anghenion pawb yn unigryw ac yn wahanol. Mae ein Tîm Cynrychiolaeth y Gweithlu yn cynnig amrywiaeth o fentrau gan gynnwys darparu cyngor, anogaeth a chefnogaeth briodol drwy gydol y broses recriwtio. Os ydych yn dod o grŵp Du, Asiaidd neu Leiafrifoedd Ethnig (BAME), LHDT+, neu os oes gennych anabledd - gall y Tîm Cynrychiolaeth y Gweithlu allu cynnig cefnogaeth Gweithredu Positif i chi yn dibynnu ar y rôl yr ydych yn gwneud cais amdano. Ewch i'n tudalen Gweithredu Positif i ddysgu mwy am sut mae hyn yn gweithio ac ein hymroddiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
Sut dwi'n ymgeisio?
Cyflwynwch eich cais ar wefan Heddlu Gogledd Cymru, gan sicrhau eich bod yn rhoi manylion eich profiad blaenorol perthnasol ar gyfer y rôl hon yn y Datganiad Ategol yn y Ffurflen Gais.
Dyddiad cau: 24/06/2021
Os ydych angen rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Thîm Recriwtio Heddlu Gogledd Cymru:
SSF.Recruitment@nthwales.pnn.police.uk
Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.