Dadansoddwr

Heddlu Gogledd Cymru
Staff Heddlu
Gwasanaethau Trosedd
Dadansoddwr
Pencadlys Rhanbarthol Llanelwy
SO1
£28,353-£30,195
18.5
Parhaol
3

12/09/19 12:00

Creu cynnyrch dadansoddol er mwyn hysbysu gwneud penderfyniadau ar Gudd-wybodaeth, Troseddau a digwyddiadau ledled yr heddlu. Cynorthwyo gyda dadansoddi’r broses Pennu Tasgau a Chydlynu ar bob lefel er mwyn hysbysu gwneud penderfyniadau gwybodus ar gyfer defnyddio adnoddau’r Heddlu.


Mae sgiliau Cymraeg Lefel 3 yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Cyfeiriwch at Bolisi Sgiliau Iaith Gymraeg Heddlu Gogledd Cymru am fanylion ynghylch y meini prawf perthnasol a’r ymrwymiadau dysgu yn ystod y cyfnod prawf.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi ymrwymo i fod yn sefydliad dwyieithog. Felly, bydd disgwyl i chi ddangos agwedd gadarnhaol tuag at yr iaith Gymraeg. Yn unol â pholisi sgiliau iaith Gymraeg Heddlu Gogledd Cymru cyn cael cynnig swydd bydd gofyn i chi gyflawni lefel 2 mewn Cymraeg llafar os nad ydych eisoes yn siarad Cymraeg. Yn y bôn golyga hyn y gallwch ddeall ac ynganu enwau lleoedd ac enwau pobl yn Gymraeg yn ogystal â gallu deall a defnyddio ymadroddion Cymraeg llafar syml, bob dydd. Mae’r holl ddeunydd cymorth sydd ei angen i fodloni'r gofyniad hwn ar gael ar wefan yr Heddlu. Bydd hefyd yn ofynnol i chi ddangos sgiliau llafar lefel 3 yn ystod eich cyfnod prawf a chewch eich cefnogi’n llawn ar gyfer hyn.


Ni chaniateir i Staff HGC sydd o fewn eu cyfnod prawf neu sydd wedi ymrwymo i aros yn eu swydd gyfredol am gyfnod penodol sydd heb ddod i ben eto ymgeisio am y swydd.


Nid yw’r rhai hynny sydd wedi ymgeisio am y swydd hon o fewn y 6 mis diwethaf ac sydd wedi bod yn aflwyddiannus yn gymwys i ymgeisio.



Nodwch os gwelwch yn dda y bydd rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus ymrwymo i aros yn y swydd hon am 12 mis






1
Cliciwch yma am canllawiau defnyddwyr (PDF) bydd yn eich cynorthwyo chi gyda’n proses ymgeisio ar-lein.

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.