Cymhorthydd personol i'r Prif Uwcharolygydd a Chymorth Maes Swyddogaethol i'r Gwasanaethau Cefnogi Gweithredol
09/09/19 12:00
Cynorthwy-ydd personol i’r Prif Uwcharolygydd ac Uwch Dîm Rheoli GCG
CGH Llanelwy
1 x swydd barhaol
Bydd gofyn i ddeiliad y swydd ddarparu gwasanaeth cymorth effeithiol ac effeithlon i'r Prif Uwcharolygydd ac Uwch Dîm Rheoli y Gwasanaethau Cymorth Gweithredol.
Mae sgiliau Cymraeg Lefel 3 yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Cyfeiriwch at Bolisi Sgiliau Iaith Gymraeg Heddlu Gogledd Cymru am fanylion ynghylch y meini prawf perthnasol a’r ymrwymiadau dysgu yn ystod y cyfnod prawf.
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi ymrwymo i fod yn sefydliad dwyieithog. Felly, bydd disgwyl i chi ddangos agwedd gadarnhaol tuag at yr iaith Gymraeg. Yn unol â pholisi sgiliau iaith Gymraeg Heddlu Gogledd Cymru cyn cael cynnig swydd bydd gofyn i chi gyflawni lefel 2 mewn Cymraeg llafar os nad ydych eisoes yn siarad Cymraeg. Yn bôn golyga hyn y gallwch ddeall ac ynganu enwau lleoedd ac enwau pobl yn Gymraeg yn ogystal â gallu deall a defnyddio ymadroddion Cymraeg llafar syml, bob dydd. Mae’r holl ddeunydd cymorth sydd ei angen i fodloni'r gofyniad hwn ar gael ar wefan yr Heddlu. Bydd hefyd yn ofynnol i chi ddangos sgiliau llafar lefel 3 yn ystod eich cyfnod prawf a chewch eich cefnogi’n llawn ar gyfer hyn.
Nodwch os gwelwch yn dda y bydd rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus ymrwymo i aros yn y swydd hon am 12 mis
Fe gynhelir y cyfweliadau ar y 23.09.2019
Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.