Cynhyrchydd Newyddion Digidol
08/03/21 12:00
Ydych chi'n angerddol am greu cynnwys digidol diddorol?
Rydym yn chwilio am ddau Gynhyrchydd Newyddion Digidol brwdfrydig iawn i ddarganfod a chreu yn rhagweithiol gynnwys arloesol a diddorol i gefnogi gweithgarwch plismona gweithredol, hysbysu'r cyhoedd a chynnal ein henw da.
Beth yw gofynion rôl Cynhyrchydd Newyddion Digidol?
Mae tîm Cyfathrebiadau Corfforaethol Heddlu Gogledd Cymru wedi ymrwymo i ddod Y ffynhonnell ddibynadwy ar gyfer holl newyddion sy’n berthnasol i’r heddlu o fewn ein hardal drwy ddefnyddio ein cyfryngau cymdeithasol a sianeli ar-lein eraill.
Diben y rôl hon yw darparu gwybodaeth gyflym, gywir ac wedi'i chynhyrchu'n dda i ymgysylltu'n barhaus gyda'r cyhoedd, ein partneriaid a'n staff gan gynorthwyo gweledigaeth yr heddlu i atal trosedd, gwarchod y cyhoedd a chynorthwyo'r bobl hynny mewn angen. Gall y rôl fod yn hynod heriol a chymhleth gyda chyfyngiadau amser llym a staff yn gorfod ymdrin ag achosion a materion annifyr yn rheolaidd.
Bydd dyletswyddau yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i;
- Darparu offer ffilmio a golygu ar gyfer cynnwys gweledol 'amser go iawn' ar wefan a sianeli cyfryngau cymdeithasol yr heddlu - creu lluniau a fideos i ategu newyddion ac ymgyrchoedd.
- Ymgysylltu'n uniongyrchol gydag aelodau o'r cyhoedd ledled sianeli cyfryngau cymdeithasol, gan reoli allbwn i ymdrin ag effeithiau negyddol ar enw da'r heddlu'n effeithiol.
- Sicrhau, ymchwilio a chreu cyfleoedd cyfathrebu brwdfrydig i gyfryngau traddodiadol a chymdeithasol i dawelu meddwl y cyhoedd, hyrwyddo HGC ac atal trosedd. Creu cyfleoedd cyfathrebu brwdfrydig i ymgysylltu â'r cyhoedd.
- Cydnabod ac amlygu risgiau neu faterion posibl yn ymwneud â'r cyfryngau, wrth ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i geisio rhagweld materion sy'n peri pryder i gymunedau lleol a rhanddeiliaid ehangach er mwyn helpu i lywio gweithgareddau cyfathrebu.
- Trefnu cynadleddau i'r wasg a chyfarfodydd rhannu gwybodaeth i'r cyfryngau lle bo angen, wrth gynhyrchu a rheoli strategaethau cyfathrebu.
Beth fydd rhaid i mi ei ystyried ar gyfer rôl Cynhyrchydd Newyddion Digidol?
Rydym yn chwilio am unigolyn hyderus a chreadigol sydd wedi cael ei addysgu hyd at lefel gradd mewn pwnc perthnasol a/neu sydd â phrofiad helaeth o weithio mewn amgylchedd cyfryngau prysur newyddion digidol, sy'n gallu defnyddio meddalwedd golygu digidol i gael yr effaith fwyaf ac sy'n hyderus i 'ffilmio ar ei ben ei hun' gan ddefnyddio dyfeisiadau symudol.
Mae profiad newyddiaduraeth, ynghyd â gwybodaeth gadarn am gyfraith y cyfryngau, yn hanfodol, yn ogystal â'r gallu i weithio ar eich menter eich hun, i derfynau amser tynn. Mae natur ein gwaith yn golygu bod yn rhaid i chi allu gweithio'n adweithiol yn ystod digwyddiadau difrifol, gan gynnal lefel uchel o gyfrinachedd a disgresiwn. Byddwch hefyd yn hyderus y gallwch ddelio ag ymholiadau gan gyfryngau lleol a chenedlaethol, drafftio datganiadau, trefnu cynadleddau i'r wasg a rhoi hyfforddiant a chyngor ar y cyfryngau i swyddogion.
Byddwch yn rhan o rota y tu allan i oriau gwaith ar alwad ac felly mae'r gallu i deithio a gweithio oriau anghymdeithasol yn un o ofynion y rôl hon.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn sefydliad dwyieithog ac ar gyfer y rôl hon bydd rhaid i chi ddangos sgiliau Lefel 3 Cymraeg sy'n golygu eich bod yn gallu sgwrsio yn rhannol yn Gymraeg ac ysgrifennu cyfathrebiadau anffurfiol. Gallwch wybod mwy drwy ymweld â'n Tudalen Adnoddau Cymraeg.
Oherwydd natur sensitif a chyfrinachol rhai agweddau o'r swydd hon, bydd deiliad y swydd yn amodol ar lefel gynyddol o fetio diogelwch.
Noder y bydd gofyn i'r ymgeisydd/ymgeiswyr llwyddiannus ymrwymo i 12 mis yn y rôl hon.
Gweithredu'n Bositif - ydych chi'n gymwys?
Os ydych yn dod o grŵp Du, Asiaidd neu Leiafrifoedd Ethnig (BAME), LHDT+, neu os oes gennych anabledd – gallwn gynnig cymorth Gweithredu'n Bositif i chi. Ewch i'n tudalen Gweithredu'n Bositif i ddysgu mwy am sut mae hyn yn gweithio a'n hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Ewch at ein tudalen Gweithredu'n Bositif i ddysgu mwy am sut mae hyn yn gweithio a'n hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
Dyddiad cau: 08/03/2021
Mae hon yn swydd llawn amser ond gwahoddir ceisiadau gan unigolion sydd â diddordeb mewn rhannu swydd. Ni chaniateir i staff HGC ar gyfnod prawf neu sydd wedi ymrwymo i aros yn eu swydd gyfredol am gyfnod penodol sydd heb ddod i ben eto ymgeisio am y swydd.
Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.