Swyddog Carcharu Benyw
11/12/19 12:00
SWYDDOG CARCHARU BENYW
DALFA
LLANELWY
Graddfa Gyflog 5 (£23,235 - £25,380 yf)
Lwfans Gweithio Sifft (20%) a Lwfans Gweithio Penwythnosau (14.55%) yn Daladwy.
“Mae Heddlu Gogledd Cymru yn Gyflogwr Cyfleoedd Cyfartal. Fodd bynnag mae Gofyniad Galwedigaethol Cyffredinol yn berthnasol i’r swydd wag hon fel y diffinnir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Mae dyletswyddau penodol o ran carcharorion benywaidd a ellir ond eu gwneud gan swyddog benywaidd. Mae’r rhain yn cynnwys chwilio, hebrwng, gofal personol a goruchwylio.”
Bydd gofyn i ddeiliad y swydd:
Cynorthwyo'r Swyddog Dalfa wrth garcharu a llesiant carcharorion.
Mae sgiliau Cymraeg Lefel 2 yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Cyfeiriwch at Bolisi Sgiliau Iaith Gymraeg Heddlu Gogledd Cymru am fanylion ynghylch y meini prawf perthnasol a’r ymrwymiadau dysgu yn ystod y cyfnod prawf.
Nodwch os gwelwch yn dda y bydd rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus ymrwymo i aros yn y swydd hon am 12 mis.
Dyddiad cau: 11.12.2019
Dychweler i: SSF.Recruitment@nthwales.pnn.police.uk
Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod gan eich Rheolwyr ddigon o amser i lenwi’r adran berthnasol o’r ffurflen, a’i bod yn cyrraedd y Ganolfan Gwasanaethau cyn y dyddiad cau.
Ni fydd ceisiadau a gyflwynir heb yr wybodaeth hon yn cael eu prosesu.
Ni chaniateir i Staff HGC sydd o fewn eu cyfnod prawf neu sydd wedi ymrwymo i aros yn eu swydd gyfredol am gyfnod penodol sydd heb ddod i ben eto ymgeisio am y swydd.
Nid yw’r rhai hynny sydd wedi ymgeisio am y swydd hon o fewn y 6 mis diwethaf ac sydd wedi bod yn aflwyddiannus yn gymwys i ymgeisio.
Caniateir i staff asiantaeth sydd â dros 12 mis o wasanaeth parhaus (ar amser cyhoeddi’r hysbyseb) ymgeisio am y swydd wag hon.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:
SSF Recruitment
Cyf: Rhif SUP 0500
Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.