Gweithredwr Cyfathrebiadau
21/03/24 23:55
Mae ein Hystafell Rheoli wedi ei leoli yn Llanelwy ble mae ein Gweithredwr Cyfathrebiadau yn ateb galwadau 999 a galwadau 101 difrys, ynghyd ag anfon swyddogion i ddigwyddiadau ledled Gogledd Cymru. Mae ein cyfathrebwyr yn gweithio'n galed ddydd a nos, 7 diwrnod yr wythnos, 365 diwrnod y flwyddyn yn cadw Gogledd Cymru'n ddiogel.
Mae rôl Gweithredwr Cyfathrebiadau yn un o'r rolau mwyaf gwerthfawr ac amrywiol rydych erioed yn mynd i'w chael. Mae'r yrfa werth chweil hon yn rhoi cyfle i chwarae rôl hanfodol yn yr heddlu ac ymuno â phroffesiwn unigryw lle gallwch wneud gwahaniaeth gwirioneddol ac ymfalchïo’n fawr wrth wneud y gwaith. Nid oes yr un diwrnod yr un fath. Un munud gallech fod yn derbyn manylion rhywun ar goll a'r nesaf gallech fod yn anfon swyddogion i adroddiadau o ladrad ar waith.
Ymchwiliad cychwynnol - cewch eich hyfforddi i ofyn cwestiynau cychwynnol er mwyn sefydlu'r risg/difrifoldeb ac os oes unrhyw ymholiadau neu ymchwiliad fel tystiolaeth neu gyfleoedd fforensig. Byddwch yn rheoli disgwyliadau'r hysbyswr gan roi cyngor ar leihau trosedd a thawelwch meddwl.
Partneriaid - byddwch yn gweithio gyda gwasanaethau brys ac asiantaethau partner eraill, yn cynorthwyo'r gwaith maent yn ei wneud a threfnu cyfranogiad yr heddlu lle mae angen hyn.
Cyngor - mae llawer o'r galwadau difrys yn cael eu datrys gan ein cyfathrebwyr. Gall hyn fod drwy gynnig cyngor neu gyfeirio aelodau o'r cyhoedd at asiantaethau mwy priodol pan nad yw'n fater i'r heddlu. Gyda phob cyswllt byddwch yn rheoli disgwyliadau gan hysbysu'r hyn all yr heddlu ei wneud neu ddim.
Cofnodi cudd-wybodaeth - o wybodaeth gan ein cymunedau, byddwch yn nodi a chofnodi gwybodaeth i'w rhannu gyda rhannau eraill o'r sefydliad, er mwyn ysbrydoli ein hymgyrchoedd heddlu yn y dyfodol.
Cyflawni gwasanaeth - byddwch yn rhan o dîm proffesiynol a fydd yn cyflawni gwasanaeth da drwy ganolbwyntio a bod yn wyliadwrus er mwyn ymdrin â beth bynnag fydd yr alwad nesaf yn dod ac ymdrin gyda galwadau cyson weithiau i safon broffesiynol.
Gan weithio ochr yn ochr â thîm croesawgar a hynod sgilgar, byddwch yn elwa o gefnogaeth drylwyr a hyfforddiant i sicrhau eich bod yn rhagori yn y swydd, yn ogystal â derbyn buddion fel:
- Cyflog cychwynnol llawn amser o £24,921 y flwyddyn (gydag ychwanegiadau at gyflog bob blwyddyn), a Lwfans gweithio sifftiau o 20% a lwfans gweithio penwythnosau o 14.14%.
- Gwasanaethau Iechyd a Lles
- Mynediad i gampfeydd ar y safleoedd a dosbarthiadau ffitrwydd
- Cyfle i fod yn aelod o UNSAIN, undeb y gwasanaethau cyhoeddus
- Gostyngiadau gan lu o frandiau ar-lein ac ar y stryd fawr drwy'r cynllun Golau Glas
- Parcio am ddim ar y safle
Patrymau sifft
Byddwch yn rhan o rota sifftiau. Byddant wedi'u cynllunio 32 wythnos o flaen llaw os ydych yn weithiwr llawn amser. Byddant wedi'u cynllunio 64 wythnos o flaen llaw os ydych yn weithiwr rhan amser. Bydd hyn yn rhoi digon o amser i gynllunio eich calendr o flaen llaw er mwyn cyd-fynd gyda'ch bywyd personol a'ch proffesiwn.
Mae’r patrwm sifft craidd yn gweithio 4 diwrnod ac i ffwrdd am 4 diwrnod (sifftiau 10, 11 a 12 awr, 2 ddiwrnod ac yna 2 noson).
Enghraifft o batrwm sifft
| Enghraifft o batrwm sifft |
1 | 7am - 7pm |
2 | 7am - 7pm |
3 | 7pm - 7am |
4 | 7pm - 7am |
5 | Diwrnod gorffwys |
6 | Diwrnod gorffwys |
7 | Diwrnod gorffwys |
8 | Diwrnod gorffwys |
bydd amserau a sifftiau yn amrywio
Am y 6 wythnos gyntaf o fewn y rôl, byddwch yn ymgymryd â hyfforddiant llawn amser o ddydd Llun i ddydd Gwener naill ai yn Llanelwy neu yn y Pencadlys ym Mae Colwyn, er mwyn sicrhau eich bod yn gwbl hyderus wrth ymgymryd â'r swydd unigryw hon.
I gael eich hystyried ar gyfer y rôl bydd angen i chi ddangos tystiolaeth yn eich cais;
- NVQ lefel 3 neu gymhwyster cyfatebol mewn maes Cyfathrebu/Busnes/Cwsmeriaid, neu nifer cyfatebol o brofiad perthnasol.
- Gallu teipio tua 25-30 gair y funud.
- Sgiliau cyfathrebu gwych gyda'r gallu i weithio'n dda mewn tîm neu o'ch pen a'ch pastwn eich hun.
- Gallu defnyddio technoleg gwybodaeth i lefel ganolradd ynghyd â systemau Windows a/neu brofiad perthnasol.
- Gallu dangos sgiliau datrys problemau.
- Dim cynhyrfu mewn sefyllfaoedd dirdynnol.
- Gwybodaeth ddaearyddol dda o Ogledd Cymru.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn sefydliad dwyieithog ac ar gyfer y rôl hon bydd rhaid i chi ddangos sgiliau Lefel 3 Cymraeg sy'n golygu eich bod yn gallu sgwrsio yn rhannol yn Gymraeg ond yn troi at y Saesneg i drafod a rhoi gwybodaeth fanwl. Gallwch ddeall ac ymateb i ymholiadau cyffredinol a disgrifio pobl a lleoliadau gan ddefnyddio ymadroddion syml yn Gymraeg. Cewch wybod mwy drwy ymweld â'n .
Gall unrhyw un o fewn Heddlu Gogledd Cymru drosglwyddo gyda'u lefel bresennol o Gymraeg a byddwn yn eich cefnogi i ddatblygu'r sgiliau hyn.
Cewch wybod mwy drwy ymweld â'n .
Gweithredu'n Bositif - ydych chi'n gymwys?
Rydym yn cydnabod bod anghenion pawb yn unigryw ac yn wahanol. Mae ein Tîm Cynrychioli'r Gweithlu yn cynnig amrywiaeth o fentrau gan gynnwys darparu cyngor, anogaeth a chefnogaeth briodol drwy gydol y broses recriwtio. Os ydych yn dod o grŵp Du, Asiaidd, Lleiafrifoedd Ethnig (BAME), grŵp crefydd lleiafrifol, LHDT+, neu ag anabledd neu gyflwr niwroamrywiol (e.e. dyslecsia), gall y Tîm Cynrychioli'r Gweithlu gynnig cefnogaeth Gweithredu Positif i chi yn dibynnu ar y swydd yr ydych yn gwneud cais amdani. i ddysgu mwy am sut mae hyn yn gweithio a'n ymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
Sylwer y gofynnir i'r ymgeisydd(wyr) llwyddiannus ymrwymo i 2 flynedd yn y rôl hon.
Bydd y broses recriwtio fel a ganlyn:
- Prawf teipio ac asesiad Cymraeg
- Cynhelir cyfweliadau ar ddiwedd Ebrill Gorffennaf yn Llanelwy
- Dyddiad dechrau; 2024
Rydym yn cael ein cydnabod fel cyflogwr hyderus o ran anabledd. Mae hyn yn golygu ein bod yn anelu recriwtio a chadw pobl anabl, a phobl gyda chyflyrau iechyd, am eu sgiliau a'u doniau. Gallwch fynegi ar eich ffurflen gais os ydych angen unrhyw gymorth neu addasiadau er mwyn gallu gwneud y swydd, neu er mwyn eich cynorthwyo chi gyda'ch cais.
Os ydych yn ymuno a ni gydag anabledd neu gyflwr meddygol, rydym yn anelu eich cynorthwyo chi fel y gallwch gyflawni eich rôl yn effeithiol. Os yw'n bosibl, gallwn drefnu addasiadau rhesymol fel y gallwch wneud hyn. Os gallwch ein cynorthwyo ni i greu Gogledd Cymru mwy diogel, yna croesawn eich cais - beth bynnag fo'ch oed, credoau, anabledd, ethnigrwydd, rhywedd, hil, neu gyfeiriadedd rhywiol.
Os hoffech ragor o wybodaeth am y rôl hon, peidiwch ag oedi rhag cysylltu â:
ssfcommsops@northwales.police.uk
Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.