PENNAETH ADNODDAU DYNOL

Heddlu Gogledd Cymru
Staff Heddlu
Gwasanaethau Corfforaethol
Adnoddau Dynol
Pencadlys yr Heddlu Bae Colwyn
POD
£51,252 - £54,660
Hybrid – gellir cyflawni’r rôl hon o gartref yn amlach na pheidio.
Llawn Amser
37
Parhaol
2

02/04/24 12:00


 

Pennaeth Adnoddau Dynol

 

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn chwilio am arweinydd rhagorol sydd ag angerdd, egni a chymhelliant i ymuno â'r tîm fel ein Pennaeth Adnoddau Dynol. Byddwch yn ymuno ar gytundeb parhaol hefo ystod cyflog rhwng £51,252 – £54,660.

 

Byddwch yn gyfrifol am arwain a chyflawni elfen AD ein cynlluniau drwy Heddlu Gogledd Cymru.  Byddwch angen bod yn rhagweithiol gyda syniadau datrys problemau arloesol ar lefel strategol. Rhaid i chi hefyd fod yn barod a brwd er mwyn cymell newid a chynorthwyo eich tîm drwyddi draw.

 

Os ydych yn ddynamig, hyblyg a hyderus o ran gwneud penderfyniadau, chwiliwch am fanylion llawn y rôl hon drwy ddarllen y pecyn gwybodaeth a geir hefo'r hysbyseb hwn am swydd wag. Mae'n cynnwys popeth o wybodaeth am Ogledd Cymru fel Heddlu ynghyd â'r proffil rôl.

 

Cymraeg

 

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn sefydliad dwyieithog ac ar gyfer y rôl hon, bydd angen i chi ddangos sgiliau Cymraeg Llafar Lefel 2, sy'n golygu eich bod yn gallu rhoi a gofyn am fanylion personol a gwybodaeth sylfaenol; i wneud ceisiadau syml a dweud ychydig o ymadroddion amdanoch chi'ch hun yn Gymraeg.


O fewn eich gwasanaeth 12 mis cyntaf bydd gofyn i chi gyrraedd sgiliau Cymraeg Llafar Lefel 3.

 Cewch wybod mwy drwy ymweld â'n

 

Sut wyf yn ymgeisio?

 

Cyflwynwch eich cais drwy gyflwyno CV (dim mwy na 2 dudalen) a llythyr eglurhaol (dim mwy na 2 dudalen) yn yr adran datganiad personol. Dylai eich llythyr eglurhaol roi tystiolaeth o'ch addasrwydd, sgiliau a'ch profiad ar gyfer y swydd gan ddefnyddio'r proffil rôl a roddir o fewn y pecyn gwybodaeth.

 

Dyddiad cau: 2 Ebrill 2024, hanner dydd.

 

Gwahoddir ymgeiswyr ar y rhestr fer i'r cam asesu a fydd yn cynnwys cyfweliad a chyflwyniad. Bydd y rhain yn digwydd yn ystod yr wythnos yn dechrau 22 Ebrill 2024.

 

Os        ydych     angen    unrhyw wybodaeth bellach, cysylltwch â Laura Hankey    ar laura.hankey@northwales.police.uk

3
Cliciwch yma am canllawiau defnyddwyr (PDF) bydd yn eich cynorthwyo chi gyda’n proses ymgeisio ar-lein.

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.