Cofrestrwch eich diddordeb yma ar gyfer ein derbyniad nesaf o Swyddogion Heddlu
Cyfleoedd Swyddi Gwag yn y Dyfodol
Cofrestrwch eich diddordeb yma ar gyfer ein derbyniad nesaf o Swyddogion Heddlu (Yn ddiweddarach yn 2023)
Cofrestrwch yma ac ar 1 Ebrill, fe gewch nodyn atgoffa a dolen i'r swydd wag newydd ei hagor sydd gennym ar ein derbyniad Swyddogion Heddlu newydd!
Rydym bellach yn cynnig pedwar llwybr mynediad i blismona:
- Rhaglen Mynediad i Raddedigion (DHEP) – Mae'r cyfnod prawf yn 2 flynedd
Os oes gennych radd mewn unrhyw bwnc gallwch ymuno â dilyn rhaglen yn seiliedig ar waith, gyda chefnogaeth ddysgu y tu allan i'r gwaith. Fel arfer mae'r llwybr hwn yn cymryd dwy flynedd a bydd y dysgu yn cael ei gydnabod ar ffurf diploma graddedig ym maes arfer plismona proffesiynol ar ôl i chi gwblhau eich cyfnod prawf.
- Prentisiaeth Gradd Cwnstabliaid Heddlu (PCDA) – Mae'r cyfnod prawf yn dair blynedd
Ymunwch fel cwnstabl a dilynwch brentisiaeth mewn arfer plismona proffesiynol – byddwch yn ennill arian wrth i chi ddysgu.
Mae'r llwybr hwn fel arfer yn cymryd tair blynedd yn gweithio a dysgu. Ar ôl llwyddo i gwblhau'r rhaglen, byddwch yn cwblhau eich cyfnod prawf a chael eich gradd.
Er mwyn bod yn gymwys rhaid i chi fod wedi llwyddo mewn cymhwyster Lefel 3 (Lefel A neu gyffelyb) neu fod wedi cwblhau asesiad cymhwyster ar-lein fel rhan o'ch cais ar gyfer rôl swyddog heddlu.
- Gradd Plismona Proffesiynol (PPD) – Mae'r cyfnod prawf yn 2 flynedd
Os ydych am astudio yn gyntaf gallwch wneud Gradd Diploma mewn Plismona Proffesiynol am dair blynedd wedi ei ariannu gennych chi eich hun ac yna gwneud cais i'r heddlu a dilyn rhaglen hyfforddi yn y gweithle fyrrach.
- IPLD+ newydd (Rhaglen Dysgu a Datblygu Cychwynnol yr Heddlu) – Mae'r cyfnod prawf yn 2 flynedd
Nid oes angen i chi fod â gradd neu astudio ar gyfer gradd mewn hyfforddiant. Ar gael tan fis Mawrth 2024
Rydym hefyd yn cynnal dwy sesiwn ar-lein dros Teams er mwyn gallu rhoi mwy o wybodaeth i chi ar ddod yn Swyddog Heddlu a'r broses recriwtio yn ei chylch. Gweler manylion isod:
Dydd Llun 3 Ebrill am 17.30 – Sesiwn ymgyfarwyddo ynghylch dod yn Swyddog Heddlu, yr hyfforddiant a'r broses recriwtio. Ymunwch ar eich cyfrifiadur, ap symudol neu declyn ystafell
Dydd Mercher 19 Ebrill am 12.30 – Sesiwn recriwtio'n unig. Ymunwch ar eich cyfrifiadur, ap symudol neu declyn ystafell
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, peidiwch a phetruso cysylltu a ni ar 01492 804699.
Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.