Hyfforddwr Gyrwyr
18/04/24 12:00
Mae hwn yn gyfle gwych i ymuno â'r adran Hyfforddiant yn Heddlu Gogledd Cymru fel Hyfforddwr Gyrwyr. Byddwch yn ymuno ar gontract parhaol ac yn gweithio oriau amser llawn, o fewn sefydliad a fydd yn cefnogi eich llwyddiant yn y gweithle.
Beth yw gofynion rôl Hyfforddwr Gyrwyr yr Heddlu?
Cynnig hyfforddiant a datblygu gyrru arbenigol ar gyfer staff yn fewnol a chleientiaid allanol er mwyn iddynt gyflawni eu swyddi arbenigol ac unrhyw hyfforddiant yn y dyfodol, all ddod yn gyfrifoldeb maes busnes Hyfforddi Dysgu a Datblygu.
Byddwch yn gyfrifol am addysgu gwybodaeth a sgiliau damcaniaethol ac ymarferol arbenigol i Ganllawiau Cydnabyddedig a Chymeradwyedig y Coleg Plismona (COP) ac Ymarfer Proffesiynol Cymeradwyedig (APP) i lefel safonol ac uwch sy'n cynnwys ymateb brys, gweithgareddau cyfnod cychwynnol a thactegol, gweithdrefnau adrodd RTC/difrod, cymhwyso ymarferol Rheolau’r Ffordd Fawr/Crefft Gyrru, cynlluniau gyrru, sylwebaeth, theori fecanyddol a chanfod bai, paratoi adroddiadau dyddiol/wythnosol yn unol â fframwaith cymhwysedd COP.
Bydd dyletswyddau eraill Hyfforddwr Gyrwyr yr Heddlu yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i;
- Gyfrifoldeb am ddylunio a darparu deunyddiau/dulliau a dogfennau hyfforddi damcaniaethol ac ymarferol.
- Cyfrannu'n gadarnhaol ac yn adeiladol at brosesau cynllunio tîm.
- Cymryd rôl arweiniol pan fo angen mewn meysydd lle mae angen datblygu myfyrwyr.
- Cynnal asesiad o ymgeiswyr hyfforddi.
- Cynorthwyo gydag unrhyw brosiectau hyfforddi a datblygu newydd a gyflwynwyd gan Heddlu Gogledd Cymru a COP/APP.
- Monitro tueddiadau a datblygu rhaglenni a deunyddiau hyfforddi a datblygu priodol.
Beth fyddaf ei angen er mwyn cael fy ystyried fel Hyfforddwr Gyrwyr yr Heddlu?
- Cymhwyster Hyfforddwyr Gyrru Wedi Ei Gymeradwyo gan DVSA neu byddwch yn barod i weithio tuag at gymhwyster ADI
- Ar gyfer y rôl anghymwys – wedi addysgu i safon Lefel A neu brofiad perthnasol cyfatebol, a gweithio tuag at gwblhau cymhwyster Dysgu a Datblygu lefel 4 OCR.
- Ar gyfer y rôl gymwys – meddu ar gymhwyster Dysgu a Datblygu lefel 4 OCR neu rywbeth cyfatebol, neu brofiad perthnasol profedig.
- Bydd Cynllun Hyfforddiant ar gyfer rôl Anghymwys neu Gymwys angen astudio ar ei gyfer a chyflawni’r cymhwyster uchod, o fewn 9-12 mis. Darperir amser dysgu gwarchodedig.
- Trwydded yrru lawn gyda chategori C1/D1.
- Gallu teithio ar draws ardal yr heddlu.
- Gwybodaeth drylwyr o raglenni Microsoft gan gynnwys Access ac Excel.
- Gwybodaeth o weithdrefnau Diogelu Data, camddefnyddio cyfrifiadur a pholisïau a deddfwriaethau cyfrifiadurol perthnasol eraill.
- Rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus fynychu a phasio Cwrs ymateb Safonol, Cwrs Gyrru Uwch, a Chwrs Hyfforddwyr Gyrwyr yr Heddlu. Nodwch y gellir cynnal y cyrsiau hyn yn unrhyw le yn y DU.
DYMUNOL
- Gwybodaeth ymarferol dda o Raglenni Plismona'r Ffyrdd a Rhaglen Ddysgu Gyrwyr yr Heddlu'r Coleg Plismona (COP).
- Gwybodaeth ymarferol dda o Arfer Proffesiynol Awdurdodedig Rheolaeth Erlid COP.
- Profiad o weithio ym maes hyfforddi gyrwyr yn cynnwys profiad o gynllunio a chyflwyno hyfforddiant, sicrwydd ansawdd a gweithdrefnau asesu, sgiliau briffio a chyflwyno/hyfforddi.
- Tystiolaeth o hyfforddiant parhaus yn y meysydd priodol.
- Gwybodaeth ymarferol dda o yrru VIP a thywyswyr CAT 'A'.
Beth yw ein manteision
Yma yn Heddlu Gogledd Cymru rydym yn gwerthfawrogi ein gweithwyr ac rydym yn darparu digon o gymorth a hyfforddiant i sicrhau eich bod yn rhagori yn eich rôl, ochr yn ochr â derbyn budd-daliadau fel:
- Bydd gan bob dechreuwr newydd ffrind/mentor i'ch cefnogi pan fyddwch yn ymuno
- 3 diwrnod o wyliau blynyddol (pro-rata, yn cynnwys gwyliau cyhoeddus)
- Mynediad i gampfeydd a dosbarthiadau ffitrwydd ar y safle
- Opsiwn i ddod yn aelod o UNSAIN, yr undeb gwasanaethau cyhoeddus
- Gostyngiadau gan wahanol fanwerthwyr drwy'r Cynllun Golau Glas
- Cynllun Beicio i'r Gwaith
- Gweithio Hybrid/Ystwyth (dibynnydd rôl)
- Cefnogaeth gan ein Canolfan Iechyd a Lles gan gynnwys Swyddogion Lles, Cwnsela, Ffisiotherapydd a Chefnogwyr Cymheiriaid Iechyd Meddwll a pheeidio ag anghofio ein ci lles
- Cynllun pensiwn
- Cyfleon gwaith hyblyg
- Hawliau cyfnod mamolaeth/tadolaeth/mabwysiadu hael
- Darpariaeth salwch hael
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn sefydliad dwyieithog ac ar gyfer y rôl hon, bydd angen i chi ddangos sgiliau Cymraeg Llafar Lefel 2, sy'n golygu eich bod yn gallu rhoi a gofyn am fanylion personol a gwybodaeth sylfaenol; i wneud ceisiadau syml a dweud ychydig o ymadroddion amdanoch chi'ch hun yn Gymraeg. O fewn eich gwasanaeth 12 mis cyntaf bydd gofyn i chi gyrraedd sgiliau Cymraeg Llafar Lefel 3.Cewch wybod mwy drwy ymweld â'n Tudalen Adnoddau Cymraeg.
Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd
Rydym yn cael ein cydnabod fel cyflogwr hyderus o ran anabledd, ein nod yw recriwtio a chadw pobl anabl, a phobl â chyflyrau iechyd, am eu sgiliau a'u talent. Gallwch nodi ar eich ffurflen gais a oes angen unrhyw gymorth neu addasiadau arnoch i'ch galluogi i wneud y gwaith, neu i'ch cynorthwyo gyda'ch cais.
Os byddwch yn ymuno â ni gydag anabledd neu gyflwr meddygol, ein nod yw eich cefnogi fel y gallwch gyflawni eich rôl yn effeithiol. Lle bo'n bosibl, byddwn yn trefnu addasiadau rhesymol fel y gallwch wneud hyn.
Sut ydych chi'n gwneud cais
Bydd proffil y swydd yn dweud popeth sydd angen i chi ei wybod am y swydd a pha sgiliau y bydd angen i chi eu defnyddio.
Mae llunio rhestr fer yn seiliedig ar eich datganiad i gefnogi eich cais. Sicrhewch eich bod yn rhoi tystiolaeth o enghreifftiau penodol lle mae’n bosibl o sut mae eich profiad, eich cymwysterau, eich sgiliau a’ch gallu yn bodloni’r meini prawf sylfaenol/arbennig a/neu ofynion hanfodol y rôl.
Dyddiad cau: 18/04/2024
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â Thîm Recriwtio Heddlu Gogledd Cymru: SSF.Recruitment@northwales.police.uk neu 01492 804699.
Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.