Gweinyddwr Datblygu Pobl a Sefydliadol

Heddlu Gogledd Cymru
Staff Heddlu
Gwasanaethau Corfforaethol
Datblygu Pobl a Sefydliadol
Tŷ Alexandra Bae Colwyn
Graddfa 4
£24,921 to £27,351
Hybrid – gellir cyflawni’r rôl hon o gartref yn amlach na pheidio.
Llawn Amser
37
Dros Dro
1 Mai 2025
2

02/04/24 12:00

Ymunwch â'n tîm

Ein pobl yw'r allwedd i'n huchelgais i wneud Gogledd Cymru'r lle mwyaf diogel yn y DU.  O fewn swyddogaeth Pobl a Datblygiad Sefydliadol (POD) rydym yn ceisio galluogi'r gweithle i fod y gorau posib gan gynnig gwasanaeth proffesiynol yn brydlon ac effeithlon.


Felly, os ydych yn drefnus iawn gyda'r gallu i flaenoriaethu eich gwaith er mwyn cyflawni gwasanaeth cwsmer ardderchog, mae'n bosib mae hon yw'r swydd i chi.


Beth yw ein manteision   

Yma yn Heddlu Gogledd Cymru rydym yn gwerthfawrogi ein gweithwyr ac rydym yn darparu digon o gymorth a hyfforddiant i sicrhau eich bod yn rhagori yn eich rôl, ochr yn ochr â derbyn budd-daliadau fel:  

  • Bydd gan bob dechreuwr newydd ffrind/mentor i'ch cefnogi pan fyddwch yn ymuno
  • 3 diwrnod o wyliau blynyddol (pro-rata, yn cynnwys gwyliau cyhoeddus)
  • Mynediad i gampfeydd a dosbarthiadau ffitrwydd ar y safle
  • Opsiwn i ddod yn aelod o UNSAIN, yr undeb gwasanaethau cyhoeddus
  • Gostyngiadau gan wahanol fanwerthwyr drwy'r Cynllun Golau Glas
  • Cynllun Beicio i'r Gwaith
  • Gweithio Hybrid/Ystwyth (dibynnydd rôl)
  • Cefnogaeth gan ein Canolfan Iechyd a Lles gan gynnwys Swyddogion Lles, Cwnsela, Ffisiotherapydd a Chefnogwyr Cymheiriaid Iechyd Meddwll a pheeidio ag anghofio ein ci lles
  • Cynllun pensiwn
  • Cyfleon gwaith hyblyg
  • Hawliau cyfnod mamolaeth/tadolaeth/mabwysiadu hael
  • Darpariaeth salwch hael 

Mae'r rhestr yn hirfaith! Felly, darllenwch ymlaen i ddarganfod sut y gallwch fod yn rhan o rywbeth arbennig..

Beth mae'r rôl yn cynnwys?

Yn gyntaf, diddordeb mewn pobl a'r gallu i roi'r gwasanaeth gorau posib, felly mae hyblygrwydd a pharodrwydd i groesawu ffyrdd newydd o weithio yn allweddol.  Fel pwynt cyswllt ar gyfer ymholiadau byddwch yn cynnig cefnogaeth llinell flaen a chyngor yn unol â'n polisïau a gweithdrefnau, anfon materion ymlaen i'r bobl briodol ar draws POD fel eu bod yn cael eu datrys yn effeithiol ac effeithlon.  

Byddwch yn darparu ystod o gefnogaeth weinyddol i swyddogaethau POD allweddol yn cynnwys cynnal systemau AD a dogfennaeth, cynhyrchu adroddiadau a gwasanaethu cyfarfodydd a phrosiectau.  Byddwch yn cael eich annog i gyfrannu eich syniadau a'ch barn fel rhan o welliannau a datblygiad parhaus ein prosesau pobl a gwasanaethau.

Beth fyddaf ei angen i gael fy ystyried ar gyfer y rôl?

  • Byddai Tystysgrif Lefel 3 CIPD mewn Ymarfer Adnoddau Dynol yn ddefnyddiol ond nid yn hanfodol. Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus allu dangos tystiolaeth gyfwerth o gymhwyster a/neu brofiad perthnasol.
  • Meddu ar sgiliau cyfathrebu a gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol.
  • Profiad o ddelio â phobl ar bob lefel, yn fewnol ac allanol.
  • Deall cyfrifiaduron i gynnwys profiad o ddefnyddio Microsoft Office i lefel gymwys. Gallu dangos profiad o ddefnyddio systemau TG perthnasol a meddalwedd ar gyfer cofnodi a chasglu gwybodaeth.
  • Profiad blaenorol o ddarparu cymorth gweinyddol cyffredinol o fewn sefydliad i gynnwys cefnogaeth weinyddol mewn cyfarfodydd.
  • Gallu gweithio fel rhan o dîm neu'n annibynnol gan ddefnyddio eich pen a'ch pastwn eich hun.
  • Sgiliau trefnu rhagorol gyda'r gallu i gyflawni nifer o dasgau ar yr un pryd, blaenoriaethu gwaith a chwrdd â therfynau amser, gan ymateb yn gadarnhaol o dan bwysau.
  • Tystiolaeth o'r gallu i roi sylw manwl i fanylion.

Cymraeg 

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn sefydliad dwyieithog ac ar gyfer y rôl hon, bydd angen i chi ddangos sgiliau Cymraeg Llafar Lefel 2, sy'n golygu eich bod yn gallu rhoi a gofyn am fanylion personol a gwybodaeth sylfaenol; i wneud ceisiadau syml a dweud ychydig o ymadroddion amdanoch chi'ch hun yn Gymraeg. O fewn eich gwasanaeth 12 mis cyntaf bydd gofyn i chi gyrraedd sgiliau Cymraeg Llafar Lefel 3.Cewch wybod mwy drwy ymweld â'n  Tudalen Adnoddau Cymraeg

Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd 

Rydym yn cael ein cydnabod fel cyflogwr hyderus o ran anabledd, ein nod yw recriwtio a chadw pobl anabl, a phobl â chyflyrau iechyd, am eu sgiliau a'u talent. Gallwch nodi ar eich ffurflen gais a oes angen unrhyw gymorth neu addasiadau arnoch i'ch galluogi i wneud y gwaith, neu i'ch cynorthwyo gyda'ch cais. 

Os byddwch yn ymuno â ni gydag anabledd neu gyflwr meddygol, ein nod yw eich cefnogi fel y gallwch gyflawni eich rôl yn effeithiol. Lle bo'n bosibl, byddwn yn trefnu addasiadau rhesymol fel y gallwch wneud hyn. 

Sut ydych chi'n gwneud cais 

Bydd proffil y swydd yn dweud popeth sydd angen i chi ei wybod am y swydd a pha sgiliau y bydd angen i chi eu defnyddio.  

Dyddiad cau: 01/04/2024

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â Thîm Recriwtio Heddlu Gogledd Cymru: SSF.Recruitment@northwales.police.uk neu 01492 804699.

1
Cliciwch yma am canllawiau defnyddwyr (PDF) bydd yn eich cynorthwyo chi gyda’n proses ymgeisio ar-lein.

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.