Rheolwr Systemau E-Recriwtio

Heddlu Gogledd Cymru
Staff Heddlu
Cyllid ac Adnoddau
Datblygu Pobl a Sefydliadol
Arall
Hyblyg
Graddfa 6
£26,865 - £28,725
Llawn Amser
37
Tymor Sefydlog
12
3

29/01/21 12:00

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi creu swydd am 12 mis o gytundeb sefydlog,  
Swyddogion Systemau E-recriwtio a fydd yn gyfrifol am weinyddu effeithiol platfform E-recriwtio ar draws heddluoedd Cymru i gyd.

I gael eich ystyried ar gyfer y rôl hon, bydd angen HND neu radd ym maes cyfrifiaduraeth neu gymhwyster perthnasol yn ogystal â phrofiad o weithio gydag e-recriwtio a phlatfformau AD.  Byddwch yn gyfrifol am barhau i hyrwyddo Heddlu Gogledd Cymru fel arloeswr yn y defnydd o ddulliau recriwtio yn seiliedig ar dechnoleg ar gyfer arfer ystwyth, adnabod aneffeithiolrwydd a rhoi datrysiadau technegol.

Dyma rai o ddyletswyddau'r swyddog systemau E-recriwtio:

  • Bod yn gyfrifol am gynnig cyngor ac arweiniad i randdeiliaid ar draws lleoliadau daearyddol ar ardaloedd perthnasol o waith yn dilyn gweithdrefnau safonol.
  • Profi newidiadau prosesau busnes yn cynnwys archwilio ac adolygu'r defnydd o'r system.
  • Cynnig adnodd llinell gymorth yn sicrhau bod ymholiadau cwsmer wedi eu cofnodi a'u rheoli yn briodol.
  • Paratoi a chyflwyno adroddiadau a gwybodaeth o dan gyfarwyddid Rheolwr E-Recriwtio.
  • Cynorthwyo yn natblygiad canllawiau hyfforddi gweithredol a pholisïau a gweithdrefnau defnyddwyr.
  • Bod yn gyfrifol am adolygu cysondeb teithiau'r ymgeiswyr a sicrhau adborth ar draws pob cam o'r broses recriwtio a dethol a gwasanaethau rhanddeiliaid.
  • Cynorthwyo yn natblygiad ac esblygiad parhaus y system E-recriwtio.

Y profiad sydd angen arnoch ar gyfer bod yn Swyddog Systemau E-recriwtio:

  • Addysg hyd at HND/Gradd mewn cyfrifiadura neu fusnes a/neu brofiad perthnasol profedig.
  • Gwybodaeth helaeth o MS Office, E-recriwtio a/neu blatfformau AD.
  • Dangos y gallu i gasglu, llunio, prosesu a dadansoddi data ystadegol a gwybodaeth arall fel bo'r galw.
  • Gallu gweithio o dan bwysau gan ateb anghenion rhanddeiliaid a'r galw am ffrydiau gwaith amrywiol a therfynau amser.
  • Adeiladu perthynas effeithiol gyda rhanddeiliaid aml-ddaearyddol, timau recriwtio ac AD.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi ymrwymo i fod yn sefydliad dwyieithog. Felly, bydd disgwyl i chi ddangos agwedd gadarnhaol tuag at yr iaith Gymraeg. Yn unol â pholisi sgiliau iaith Gymraeg Heddlu Gogledd Cymru cyn cael cynnig swydd bydd gofyn i chi gyflawni lefel 2 mewn Cymraeg llafar os nad ydych eisoes yn siarad Cymraeg. Yn y bôn golyga hyn y gallwch ddeall ac ynganu enwau lleoedd ac enwau pobl yn Gymraeg yn ogystal â gallu deall a defnyddio ymadroddion Cymraeg llafar syml, bob dydd. Mae’r holl ddeunydd cymorth sydd ei angen i fodloni'r gofyniad hwn ar gael ar wefan yr Heddlu. Bydd hefyd yn ofynnol i chi ddangos sgiliau llafar lefel 3 yn ystod eich cyfnod prawf a chewch eich cefnogi’n llawn ar gyfer hyn. Ceir rhagor o wybodaeth drwy ymweld â'n tudalen Adnoddau Cymraeg.

I ganfod os ydych yn gymwys ar gyfer Gweithredu Positif.

Oherwydd natur y rôl mae cyfle i ddeiliad y swydd weithio o bell heb fawr o ofyniad i fynychu'r swyddfa. Rydym felly yn annog ceisiadau o'r tu allan i ardal Gogledd Cymru yn ogystal ag o fewn yr ardal.

Dyddiad cau: 29/01/2021
Dyddiadau cyfweliad: 04/02/2021

Os hoffech ragor o wybodaeth, peidiwch ag oedi rhag cysylltu â: SSF.Recruitment@nthwales.pnn.police.uk

2
Cliciwch yma am canllawiau defnyddwyr (PDF) bydd yn eich cynorthwyo chi gyda’n proses ymgeisio ar-lein.

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.