Prentis Modern Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu
11/04/24 12:00
Ynglŷn â'n Rôl Brentis Modern
Yn Heddlu Gogledd Cymru, mae gennym gyfle gwych i Gynorthwyydd Gweinyddwr Prentis gael dealltwriaeth gadarn o weinyddiaeth busnes ar draws meysydd busnes dynodedig yn ein swyddfeydd ym Mae Colwyn. Gan ymuno â'r Swyddfa Staff, byddwn yn eich cyflogi ar gontract cyfnod penodol o 2 flynedd, byddwch yn gweithio fel rhan o dîm brwdfrydig a fydd yn ymrwymedig i'ch cefnogi a'ch mentora wrth i chi weithio tuag at gwblhau NVQ Lefel 2 a chael y fantais o gael sylfaen gadarn mewn gweinyddu busnes wrth weithio i gefnogi ein Tîm Prif Swyddogion.
Bydd y rôl yn rhoi cipolwg i chi ar nifer o feysydd plismona i lefelau strategol, gweithredu a thacttegol.
Bydd y cyfle hwn i Gynorthwyydd Gweinyddwr Prentisiaethau yn rhoi cyfle i chi:
- Cefnogaeth i gwblhau NVQ Lefel 2 Cymhwyster mewn Gweinyddu Busnes os ydych yn gweithio tuag at hyn ar hyn o bryd, neu gymorth i gyflawni'r cymhwyster.
- Byddwch yn cael eich cyflogi ar gontract cyfnod penodol o ddwy flynedd er mwyn gwasanaethu prentisiaeth gyda Heddlu Gogledd Cymru mewn rôl weinyddol.
- Byddwch yn cael eich cefnogi gan fentor a fydd yn darparu cymorth penodol mewn cyfarfodydd misol i drafod eich cynnydd, eich anghenion dysgu a'ch cynlluniau datblygu yn unol â'ch modiwlau NVQ.
- Byddwch yn cymryd rhan mewn cynnal ymchwil, mewnbynnu data a phrosesu dogfennau amrywiol gan ddefnyddio ystod o becynnau TG.
- Gweithio gyda pholisïau a gweithdrefnau'r cwmni yn unol â'r gwaith y byddwch yn ei gyflawni wrth gynnal cyfrinachedd.
- Ymgymryd â chyfrifoldebau gweinyddol cyffredinol fel teipio llythyrau cydnabyddiaeth.
- Cynhyrchu gohebiaeth ac adroddiadau busnes safonol.
- Mynychu cyfarfodydd a chymryd camau gweithredu.
- Byddwch yn cael cyfle i ddelio ag ymholiadau cyffredinol dros y ffôn ac ysgrifenedig gan aelodau o'r cyhoedd ac adrannau eraill.
- Cael lefel dda o ddealltwriaeth o wasanaethau cymorth busnes amrywiol o fewn Heddlu Gogledd Cymru.
Y profiad y byddwch yn ei gynnig i'r rôl Cynorthwyydd Gweinyddwr Prentisiaethau;
- Byddwch yn gweithio tuag at NVQ Lefel 2 mewn Gweinyddu Busnes, neu yn awyddus i weithio tuag ato.
- Sgiliau TG a dealltwriaeth o Microsoft Office neu becynnau TG tebyg.
- Sgiliau ysgrifenedig a chyfathrebu da.
- Y gallu i weithio'n dda mewn tîm ac ar ei ben ei hun.
- Hunan-gymhelliant i ddysgu ac i gymhwyso eich dysgu yn y gweithle.
Sylwch nad oes terfyn oedran ar gyfer ceisiadau am y rôl hon, fodd bynnag oherwydd cyfyngiadau ariannu ni all ymgeiswyr sydd â gradd (cymhwyster lefel 5 neu uwch) wneud cais.
Gallwch ddod o hyd i fwy ar: https://www.gov.uk/national-minimum-wage-rates
Beth yw ein manteision
Yma yn a Heddlu Gogledd Cymru, rydym yn gwerthfawrogi ein gweithwyr. Rydym yn rhoi digon o gymorth a hyfforddiant er mwyn sicrhau eich bod yn rhagori yn y swydd, yn ogystal â derbyn manteision fel:
- Bydd gan bob dechreuwr newydd gyfaill/mentor i'w cynorthwyo pan maent yn ymuno
- 25 diwrnod o wyliau blynyddol ac 8 gŵyl y banc
- Mynediad i gampfeydd ar y safleoedd a dosbarthiadau ffitrwydd
- Cyfle i fod yn aelod o UNSAIN, undeb y gwasanaethau cyhoeddus
- Gostyngiadau gan amryw o siopau drwy'r Cynllun Golau Glas
- Cynllun Seiclo i'r Gwaith
- Gweithio'n hybrid/hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
- Cymorth gan ein Canolfan Iechyd a Lles gan gynnwys Swyddogion Lles, Cwnsela, Ffisiotherapi a Chyfeillion Cefnogol Iechyd Meddwl. A heb anghofio ein ci lles
- Cynllun pensiwn
- Cyfleoedd i weithio'n hyblyg
- Hawliadau absenoldeb mamolaeth/tadolaeth a mabwysiadu hael.
- Tâl salwch
Cymraeg
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn sefydliad dwyieithog ac ar gyfer y rôl hon, bydd angen i chi ddangos sgiliau Cymraeg Llafar Lefel 2, sy'n golygu eich bod yn gallu rhoi a gofyn am fanylion personol a gwybodaeth sylfaenol; i wneud ceisiadau syml a dweud ychydig o ymadroddion amdanoch chi'ch hun yn Gymraeg. O fewn eich gwasanaeth 12 mis cyntaf bydd gofyn i chi gyrraedd sgiliau Cymraeg Llafar Lefel 3.Cewch wybod mwy drwy ymweld â'n Tudalen Adnoddau Cymraeg.
Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd
Rydym yn cael ein cydnabod fel cyflogwr hyderus o ran anabledd. Rydym yn anelu recriwtio a chadw pobl anabl, a phobl gyda chyflyrau iechyd, am eu sgiliau a'u doniau. Gallwch fynegi ar eich ffurflen gais os ydych angen unrhyw gymorth neu addasiadau er mwyn gallu gwneud y swydd, neu er mwyn eich cynorthwyo chi gyda'ch cais.
Os ydych yn ymuno a ni gydag anabledd neu gyflwr meddygol, rydym yn anelu eich cynorthwyo chi fel y gallwch gyflawni eich rôl yn effeithiol. Os yw'n bosibl, gallwn drefnu addasiadau rhesymol fel y gallwch wneud hyn.
Sut ydych yn ymgeisio
Bydd y proffil swydd yn dweud y cyfan rydych angen ei wybod am y swydd a pha sgiliau fyddwch eu hangen i ymgeisio.
Mae llunio rhestr fer yn seiliedig ar eich datganiad i gefnogi eich cais. Sicrhewch eich bod yn dangos sut mae eich profiad, eich cymwysterau, eich sgiliau a'ch gallu yn bodloni'r meini prawf sylfaenol/arbennig a/neu ofynion hanfodol ar gyfer y rôl, gan roi tystiolaeth lle mae'n bosibl gydag enghreifftiau penodol.
Dyddiad cau: 11/04/2024
Os ydych angen rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Thîm Recriwtio Heddlu Gogledd Cymru: SSF.Recruitment@northwales.police.uk neu 01492 804699.
Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.