~~OPPORTUNITY_TITLE_B4007BC3-0345-4581-97A7-8A4BFEE9748E~~
24/11/20 12:00
Yn Heddlu Gogledd Cymru mae gennym gyfle gwych i Brentis o Gynorthwyydd Gweinyddwr gael dealltwriaeth gadarn o weinyddu busnes a gwasanaethau cwsmer ledled meysydd busnes dynodedig yn ein swyddfeydd ym Mae Colwyn. Gan ymuno â'n tîm Gwasanaethau Trosedd, fe wnawn eich cyflogi ar gytundeb tymor sefydlog am 2 flynedd. Gwnawn ddarparu mentor ymroddedig i chi lle cewch y fantais o gael sylfaen gadarn mewn gweinyddu busnes wrth weithio tuag at gwblhau NVQ Lefel 2. Rydym yn sefydliad sy'n cefnogi llwyddiant yn y gweithle go iawn.
Mae hwn yn gyfnod cyffrous mewn plismona gyda rhaglen Uplift genedlaethol yr Heddlu wedi'i llunio i recriwtio 20,000 o swyddogion heddlu ychwanegol. Bydd y rôl hon yn rhoi cipolwg i chi i mewn i blismona a gwaith y timau Gwasanaethau Trosedd ledled y busnes.
Ymchwilio ymhellach i waith y Tîm Camfanteisio Troseddol y mae'r rôl hon yn rhan annatod ohono drwy ddilyn ein tudalen ar Instagram - northwalespolice, lle byddwn yn cyhoeddi’r mewnwelediadau unigryw i chi ei ddarganfod!
Bydd y cyfle hwn i fod yn Brentis o Gynorthwyydd Gweinyddwr yn rhoi'r canlynol i chi:
- Cymorth mewn cwblhau Cymhwyster NVQ lefel 2 mewn Gweinyddu Busnes / Gwasanaeth Cwsmeriaid os ydych ar hyn o bryd yn gweithio tuag at hyn, neu gymorth mewn cyflawni'r cymhwyster.
- Cewch eich cyflogi ar gytundeb dwy flynedd tymor sefydlog at y diben o wneud prentisiaeth gyda Heddlu Gogledd Cymru mewn rôl weinyddol.
- Cewch eich cynorthwyo gan fentor a wnaiff roi cymorth ymroddedig mewn cyfarfodydd misol er mwyn trafod eich cynnydd, anghenion pwyso a chynlluniau datblygu yn unol â'ch modiwlau NVQ.
- Byddwch ynghlwm mewn cynnal ymchwil, mewnbynnu data a phrosesu amrywiol ddogfennau gan ddefnyddio ystod o becynnau TG.
- Gweithio gyda pholisïau a gweithdrefnau’r cwmni yn unol â'r gwaith byddwch yn ei gyflawni wrth gadw cyfrinachedd.
- Ymgymryd â chyfrifoldebau gweinyddol cyffredinol fel teipio trawsgrifiadau sain.
- Creu gohebiaeth ac adroddiadau busnes safonol.
- Mynychu cyfarfodydd a chymryd cofnodion.
- Cewch y cyfle i ymdrin ag ymholiadau ffôn ac ysgrifenedig cyffredinol gan aelodau o'r cyhoedd ac adrannau eraill.
- Cael lefel dda o ddealltwriaeth o wasanaethau cymorth busnes amrywiol o fewn Heddlu Gogledd Cymru.
Y profiad fyddwch yn ei ddod i rôl Prentis o Gynorthwyydd Gweinyddwr:
- Byddwch yn gweithio tuag at, neu gael dyhead i weithio tuag at NVQ Lefel 2 mewn Gweinyddu
Busnes / Gwasanaeth Cwsmeriaid.
- Sgiliau TG a dealltwriaeth o Microsoft Office neu becynnau TG tebyg.
- Sgiliau ysgrifennu a chyfathrebu da.
- Gallu gweithio'n dda mewn tîm ac ar eich liwt eich hun.
- Hunanysgogol i ddysgu a chymhwyso eich dysgu yn y gweithle.
Oherwydd cyfyngiadau ariannu, nid yw ymgeiswyr sy'n raddedigion (cymhwyster lefel 5 neu'n uwch) yn gallu ymgeisio.
Sefydliad dwyieithog yw Heddlu Gogledd Cymru ac ar gyfer y rôl hon, bydd rhaid i chi ddangos sgiliau Lefel 1 Cymraeg, sy'n golygu eich bod yn gallu ynganu enwau lleoedd Cymraeg a chyfarchion ac ymadroddion sylfaenol. Gallwch wybod mwy drwy ymweld â'n tudalen Adnoddau Cymraeg https://www.north-wales.police.uk/recruitment-home/welsh-language-resources.
Ewch i weld os ydych yn gymwys am gymorth Gweithredu Positif; https://www.north-wales.police.uk/recruitment-home/positive-action-team.
Sut dwi'n ymgeisio?
Cyflwynwch eich cais ar wefan Heddlu Gogledd Cymru, gan sicrhau eich bod yn rhoi manylion eich profiad blaenorol perthnasol ar gyfer y rôl hon yn y Datganiad Ategol yn y Ffurflen Gais.
Dyddiad cau: 24 Tachwedd 2020
Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.