Proses Dyrchafiadau Prif Uwcharolygyddion

Heddlu Gogledd Cymru
Swyddog Heddlu
Ledled yr Heddlu
Prif Uwcharolygydd
40
2

17/01/22 23:55


Mae Heddlu Gogledd Cymru yn chwilio am arweinwyr arbennig yn llawn angerdd, egni a chymhelliant i ymuno â'r tîm. Gofynnir am geisiadau oddi wrth Uwcharolygyddion parhaol fel rhan o’r broses ddyrchafiadau i fod yn Brif Uwcharolygydd. Rhaid i chi fod yn uchelgeisiol a meddu gwir awydd i fod yn arweinydd gwasanaeth. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn canolbwyntio ar gadw pobl yn ddiogel, yn gyrru newid ar draws gwasanaeth yr heddlu, ysbrydoli partneriaid a chwarae rôl arweinydd wrth sicrhau bod cymunedau yn ffynnu, gan wneud Gogledd Cymru'r lle mwyaf diogel yn y DU.

Fel model rôl i werthoedd Gogledd Cymru, byddwch yn cyfrannu at ein rhaglen barhaus o drawsnewid a dangos arweiniad rhagorol. Ategir hyn gydag ymddygiadau sy'n gweddu i'n gwerthoedd a’n Cod Moeseg.

Mae rôl y Prif Uwcharolygydd yn heriol ac â phroffil uchel. Bydd gennych ethos clir o ganolbwyntio ar bobl gyda hanes o gyflwyno mentergarwch a datrys problemau ar lefel strategol. Byddwch hefyd yn barod i herio ac arbrofi gyda syniadau newydd, tu allan a thu mewn i'r sefydliad. Mae sgiliau cyfathrebu a phartneriaeth gwych yn hanfodol wrth gyflwyno ein gweledigaeth.

Yma yn Heddlu Gogledd Cymru rydym yn annog ein staff a'n swyddogion i ddefnyddio'r Gymraeg yn eu gwaith bob dydd. Gofynnwn felly i bob recriwt newydd ddangos sgiliau sylfaenol yn y Gymraeg (cymhwysedd L2). Serch hynny, rydym yn cynnig cefnogaeth ac arweiniad i'ch cynorthwyo i gyrraedd y lefel disgwyliedig. Defnyddiwch y ddolen ganlynol i gael mynediad at ein deunyddiau cymorth Cymraeg ar-lein https://www.north-wales.police.uk/recruitment-home/welsh-language-resources/level-2-welsh  

*Os ydych yn cyflwyno eich ffurflen gais yn agos at y dyddiad/amser cau yn profi anawsterau technegol, e-bostiwch Jenny.Parry@nthwales.pnn.police.uk a byddwch yn derbyn ymateb yr wythnos wedyn*


3
Cliciwch yma am canllawiau defnyddwyr (PDF) bydd yn eich cynorthwyo chi gyda’n proses ymgeisio ar-lein.

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.