Technegydd, Uned Digidol Fforensig

Heddlu Gogledd Cymru
Staff Heddlu
Gwasanaethau Trosedd
Uned Fforensig Ddigidol
Uned Cymorth Gwyddonol Llanelwy
Graddfa 6
£26,865 - £28,725
Llawn Amser
37
Parhaol
2

03/03/21 12:00

Mae hwn yn gyfle gwych i ymuno â'r Uned Fforensig Ddigidol yn Heddlu Gogledd Cymru fel Technegydd Fforensig Digidol. Gyda chontract parhaol ar gael, rydym yn chwilio am unigolyn sydd ag angerdd gwirioneddol dros dechnoleg, gyda dealltwriaeth o ddyfeisiadau digidol a systemau gweithredu a/neu brofiad o fewn amgylchedd TG, i ddarparu gorchymyn cymorth technegol i roi ymateb effeithiol i'r Heddlu i ymchwilio i'r holl droseddau digidol.

 

Os yw hyn yn swnio fel y rôl i chi, darllenwch ymlaen i ddarganfod sut y gallwch ymuno â sefydliad a fydd wir yn cefnogi eich llwyddiant yn y gweithle.

 

Beth mae rôl Technegwyr Fforensig Digidol yn ei olygu?

Fel Technegydd Fforensig Digidol byddwch yn cefnogi swyddogion sy'n ymchwilio i droseddu drwy ddarparu tystiolaeth o gyfrifiaduron, ffonau symudol ac unrhyw gyfryngau storio digidol eraill, wrth gynorthwyo gydag unrhyw elfennau technegol eraill i ymchwiliadau troseddol. Bydd dyletswyddau eraill yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

 

• Cefnogi Ymchwiliwyr yr Uned Fforensig Ddigidol (DFU) drwy ddal, adalw, dadansoddi, copïo a chyflwyno tystiolaeth electronig a a gwneud gwaith ar bob math o ddyfeisiadau storio digidol; cofnodi gweithdrefnau a ddilynirr (ffotograff neu fideo).

• Os bydd unrhyw arddangosion cyfryngau digidol yn anymarferol i’w hatafaelu a’u cyflwyno i’r Uned Fforensig Ddigidol (DFU) ar gyfer eu hymchwilio (e.e. systemau hanfodol busnes), bydd disgwyl i'r Technegwyr fynychu yn y lleoliad a datrys yn y fan a'r lle.

• Cynhyrchu adroddiadau cynhwysfawr a manwl yn ymwneud â gwybodaeth a adenillir o gyfrifiaduron, dyfeisiadau digidol a chanlyniadau ymchwiliadau ar y Rhyngrwyd. Rhaid cyflwyno'r adroddiadau hyn mewn fformat y gellir ei ddefnyddio yn y Llys.

• Mynychu'r Llys pryd bynnag y bo angen a chyflwyno tystiolaeth yng ngallu Technegwyr Uned Fforensig Ddigidol (DFU) sydd wedi cael yr achrediad angenrheidiol yn y gweithdrefnau fforensig a'r feddalwedd a ddefnyddiwyd yn ystod yr ymchwiliad hwnnw.

• Ôl-dedfryd, bod yn gyfrifol am hwyluso'r gwaith o ddinistrio, fforffedu, gwaredu neu ailgylchu pob math o ddyfeisiadau storio digidol o fewn yr Uned Fforensig Ddigidol (DFU), gan sicrhau bod hyn yn cael ei ddogfennu yn unol â gweithdrefnau gweithredu safonol.

 

 

Beth fydd angen i mi ei ystyried ar gyfer rôl y Technegydd Fforensig Digidol?

 

• Addysgir i HNC neu lefel gyfatebol mewn Cyfrifiadureg, Cyfrifiadura Fforensig, neu bwnc cysylltiedig; neu feddu ar swm cyfatebol o brofiad profedig perthnasol.

• Rhywfaint o brofiad yn y maes busnes hwn neu gyfwerth (er enghraifft – profiad yn y sector preifat sy'n ymdrin ag ymchwiliadau troseddau cyfrifiadurol/diogelwch, safonau masnach, mewnfudo, banciau ac ati), a rhaid iddynt allu dangos tystiolaeth drwy waith arall y gallu i gasglu, dadansoddi a phrosesu gwybodaeth gan gyfeirio'n gynhwysfawr at ffynonellau allanol wrth gynhyrchu adroddiad terfynol

• Sgiliau gwneud penderfyniadau a chyfathrebu profedig, gyda gwybodaeth am wahanol gydrannau cyfrifiadurol a dyfeisiadau storio digidol a'r gallu i ddatgysylltu/cydosod dyfeisiau cyfrifiadurol e.e. gliniaduron, bwrdd gwaith.

• Gallu datrys problemau gwahanol ac amrywiol drwy feddwl arloesol a chreadigol yn aml iawn mewn meysydd heb bwyntiau cyfeirio blaenorol.

• Gallu briffio staff yn effeithiol a chynrychioli'r Llu ar faterion sy'n ymwneud â chyfrifiaduron, rhwydweithiau, y rhyngrwyd a dyfeisiau storio digidol mewn perthynas â throseddu, a chyflwyno data cymhleth mewn modd clir ac union i gynulleidfa amrywiol.

• Gwybodaeth drylwyr am DOS, Windows 95, 98, 7, 8, 10, ME, NT, 2000, Vista a XP, Unix/Linux, systemau gweithredu Apple Mac OSX, ynghyd â gwybodaeth fanwl am rwydweithiau cyfrifiadurol.

 

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael cynllun hyfforddi diffiniedig, gan gynnwys cyfleoedd hyfforddi a datblygu allanol i sicrhau rhagoriaeth wrth ddarparu Fforensig Ddigidol. Tystysgrif pasio mewn Sgiliau Craidd mewn Adfer Data (Coleg yr Heddlu), mae'r cymhwyster yn ddymunol; fodd bynnag, bydd yn ofynnol i unrhyw ddeiliad swydd basio a chynnal y cymhwyster hwn o fewn y flwyddyn gyntaf os nad oes ganddo gyrsiau datblygiad proffesiynol a hyfforddiant parhaus.

 

Mae sgrinio lles bob chwe mis yn orfodol ar gyfer y rôl hon oherwydd natur annymunol a gofidus rhywfaint o'r deunydd y mae'r Uned Fforensig Ddigidol (DFU) yn ymdrin ag ef.


Oherwydd natur sensitif a chyfrinachol rhai agweddau ar y swydd hon, bydd deiliad y swydd yn destun Rheoli fetio.


Sylwch y bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd/ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu ymrwymiad 2 flynedd i'r rôl hon.

 

 Yn unol â'n polisi Sgiliau Iaith Gymraeg, rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad dwyieithog. Cyn eich penodi, bydd gofyn i chi ddangos cyrhaeddiad Lefel 2 mewn Cymraeg llafar. Mae hyn yn golygu y gallwch ddeall ac ynganu enwau lleoedd Cymraeg a'r gallu i ddeall a defnyddio ymadroddion syml bob dydd. Gallwch gael rhagor o wybodaeth drwy ymweld â'n tudalen Adnoddau Iaith Gymraeg.

 

 

Edrychwch os ydych yn gymwys ar gyfer Gweithredu’n Bositif .

 

Sut ydwyf yn gwneud cais?

 

Cyflwynwch eich cais drwy wefan Heddlu Gogledd Cymru, gan sicrhau eich bod yn rhoi manylion eich profiad blaenorol perthnasol ar gyfer y rôl hon yn y Datganiad Ategol yn y Ffurflen Gais.

 

Dyddiad cau: 03/03/2021

 

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â Thîm Recriwtio Heddlu Gogledd Cymru:

SSF.Recruitment@nthwales.pnn.police.uk

1
Cliciwch yma am canllawiau defnyddwyr (PDF) bydd yn eich cynorthwyo chi gyda’n proses ymgeisio ar-lein.

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.