Ditectif Mynediad Uniongyrchol Ionawr 2023

Heddlu Dyfed Powys
Swyddog Heddlu
Ymchwiliadau
Swyddogion Fyfyrwyr
Ledled yr Heddlu
Sefydlog a Gweithredol
Ditectif Gwnstabl
40
1

07/02/23 23:55

Ydych chi’n ddeiliad gradd sy’n chwilio am swydd heriol ond gwerth chweil?

Os felly, mae gennym lwybr mynediad newydd a fydd yn rhoi cyfle gwych ichi ymuno â’r gwasanaeth heddlu ac yna symud ymlaen at lwybr ditectif.

Rydym ar hyn o bryd wedi cau ar gyfer recriwtio Ditectif Mynediad Uniongyrchol

Ar gyfer yr ymgyrch hon, rydym yn derbyn ymgeiswyr ym mlwyddyn olaf rhaglen radd.  Os ydych yn gwneud cais yn eich blwyddyn olaf, byddwn yn gofyn i chi lanlwytho tystiolaeth gan eich Darparwr Addysg Uwch yn lle'r dystysgrif gradd lawn.

Yn dilyn hyfforddiant cychwynnol, byddwch chi’n cymryd y rôl Ymchwilydd Dan Hyfforddiant cyn symud ymlaen at hyfforddiant ymchwiliol uwch ac ymlyniadau arbenigol i’ch galluogi i ddatblygu’r meddylfryd sydd angen ar gyfer ymchwilio i droseddau difrifol a chymhleth a rheoli ymchwiliadau hyd y diwedd.

Bydd angen y cymwyseddau a’r gwerthoedd gofynnol arnoch i ddod yn dditectif, a bydd angen ichi arddangos y rhinweddau canlynol:  

  • Cadernid
  • Agwedd chwilfrydig/trefnus
  • Cryfder/Penderfynoldeb
  • Talu sylw i fanylion
  • Perchnogaeth
  • Gwneud penderfyniadau moesegol

Byddwch chi’n gweithio ar amrediad eang o droseddau, gan gynnwys achosion difrifol a chymhleth, ac yn cefnogi rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Mae meysydd gwaith yn cynnwys:

  • Tîm Ymchwilio Ar-lein yr Heddlu
  • Tîm Ymchwilio i Droseddau Mawr
  • Uned Seiberdroseddu
  • Uned Troseddau Economaidd
  • Rheoli Troseddwyr Rhyw neu Droseddwyr Treisgar

Ar ôl cwblhau’r rhaglen 2 flynedd, byddwch chi wedi sicrhau Diploma Ôl-radd Lefel 6 mewn Arfer Plismona Proffesiynol, ond fel y byddech chi’n disgwyl, mae’r dysgu’n canolbwyntio’n fwy ar agwedd ymchwilio. Mae’n rhaglen ddwysach, gan fod angen ichi gwblhau’r Arholiad Ymchwilwyr Cenedlaethol a bodloni meini prawf asesu PIP2 hefyd er mwyn dod yn dditectif achrededig Rhaglen Proffesiynoli Ymchwilio Lefel 2 (PIP2). 

Mae’r broses gais ar gyfer y rôl Ditectif yr un fath ag ar gyfer y Rhaglen Fynediad Deiliad Gradd, ond mae’n cynnwys asesiad sy’n canolbwyntio ar gymwyseddau Ditectif.

Mae'r ymgyrch hon ar gyfer derbyniadau  ym mis Medi 2023 a Mawrth 2024

Sylwch:

• Mae’n rhaid i ymgeiswyr sydd angen addasiadau rhesymol yn ystod y broses recriwtio e.e. dyslecsia gyflwyno adroddiad seicolegydd llawn adeg gwneud y cais.

• Os yw'n berthnasol, rhaid i ymgeiswyr uwchlwytho'r dystiolaeth o'u cymwysterau sy’n ofynnol wrth wneud cais gan na dderbynnir unrhyw dystiolaeth hwyr.

• Bydd yn ofynnol i bob darpar swyddog heddlu gael sampl wedi’i chymryd o’i holion bysedd a DNA. Mae hyn yn unol â rheoliadau'r heddlu.

• Os ydych eisoes wedi pasio’r ganolfan asesu yn llwyddiannus mae angen i'ch sgôr fod yn ddilys ar ddyddiad eich mynediad i Heddlu Dyfed Powys ac nid ar ddyddiad y cais.

• Darperir hyfforddiant a chefnogaeth lawn ar gyfer y rôl hon, sy'n cynnwys rhaglen hyfforddiant cychwynnol wyth wythnos ar hugain gydag amserlen gyffrous o gyrsiau ac yna cyfnod tiwtoriaeth yn y rhanbarth.

• Mae gan yr heddlu bolisi bod yn rhaid i gwnstabliaid fyw o fewn 30 milltir neu 1 awr o bellter teithio o'r cartref i'r orsaf heddlu ble’u lleolir.

 Ceidw HDP yr hawl i gau'r hysbyseb hon os ydym yn derbyn nifer uchel o geisiadau addas. O'r herwydd, rydym yn annog ceisiadau cynnar er mwyn sicrhau eich hystyried am swydd.

Os na allwch ganfod yr atebion yr oeddech yn chwilio amdanynt ar ein tudalen we, gallwch hefyd e-bostio'ch ymholiadau at workforceplanningteam@dyfed-powys.police.uk.

Yr oriau agor yw dydd Llun i ddydd Gwener 9am i 5pm.

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.