Cwnstabl Gwirfoddol

Heddlu Dyfed Powys
Swyddogion Gwirfoddol
Heddlu Gwirfoddol
Ledled yr Heddlu
16
Gwirfoddolwr
1

05/04/24 12:00

Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â ni fel Cwnstabl Gwirfoddol.

Fel Cwnstabl Gwirfoddol, byddwch ar reng flaen plismona. Chi fydd un o’r wynebau cyntaf mae pobl yn gweld pan maent ein hangen fwyaf. Bydd pob dydd yn wahanol. Mae rhai o’r pethau y byddwch yn rhan ohonynt yn cynnwys:

  • ymateb i ddigwyddiadau a galwadau am gymorth gan y cyhoedd
  • siarad â dioddefwyr trosedd a sicrhau eu bod nhw’n derbyn y gwasanaeth gorau posibl
  • gwneud arestiadau, cyfweld â drwgdybiedigion a chymryd datganiadau gan dystion
  • chwilio am unigolion coll
  • rhoi tystiolaeth yn y llys
  • plismona digwyddiadau cyhoeddus mawr, cyngherddau a gwrthdystiadau
  • ymdrin â throseddau a gwrthdrawiadau traffig y ffyrdd
  • cynnal patrolau rhagweithiol er mwyn cynorthwyo i ddatrys problemau

Fel Cwnstabl Gwirfoddol, gofynnwn ichi wirfoddoli am 16 awr y mis o leiaf. Gall hyn gynnwys penwythnosau, nosweithiau a gwyliau banc.

Sylwch:

  • Os yw'n berthnasol, rhaid i ymgeiswyr uwchlwytho'r dystiolaeth o'u cymwysterau sy’n ofynnol wrth wneud cais gan na dderbynnir unrhyw dystiolaeth hwyr.
  • Bydd yn ofynnol i bob darpar cwnstabl gwirfoddol gael sampl wedi’i chymryd o’i holion bysedd a DNA. Mae hyn yn unol â rheoliadau'r heddlu.
  • Mae hyfforddiant cychwynnol yn cymryd tua 6 mis, gydag un penwythnos o hyfforddiant bob mis ym Mhencadlys yr Heddlu, Caerfyrddin, wedi’i gefnogi gan sesiynau a gyflwynir ar-lein a llyfrau gwaith hunan-astudio. Rhaid eich bod yn rhydd i fynd i’r penwythnosau hyfforddi o 2y.h. ddydd Gwener tan 5y.h. ddydd Sul (Ionawr 2023)
  • Mae ymgeiswyr llwyddiannus yn ddarostyngedig i wiriadau meddygol a fetio.

Mae ymuno â’r Heddlu Gwirfoddol yn agor byd o gyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol a phersonol. Mae derbyn yr hyfforddiant ac yna mynd allan ar batrôl yn egwyl braf o fywyd bob dydd. Cewch gyffro a her bob tro y byddwch yn gwirfoddoli, a byddwch chi’n rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned y mae pawb ohonom yn rhan ohoni.

Os ydych chi’n meddwl bod y sgiliau gyda chi, ac rydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth yn eich cymuned, rydyn ni eisiau clywed wrthych!

Y Gymraeg ac amrywiaeth

Yr ydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad dwyieithog ac ni fydd unrhyw gais sy’n cael ei gyflwyno yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Gofynnwn am i holl swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys fedru cyfathrebu hyd safon Lefel 1. Mae hyn yn golygu’ch bod chi’n gallu deall ac ynganu enwau llefydd Cymraeg ac yn gallu defnyddio a deall brawddegau cyffredin syml megis cyfarchion. Os nad ydych chi’n gallu cyfathrebu i’r safon hwn, yn ystod eich cyfnod prawf (6 mis fel arfer), byddwn yn eich cefnogi’n llawn i gyflawni hyn drwy amryw o gyfleoedd dysgu.  

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg a grwpiau a dangynrychiolir.  

Cewch ganfod pa un ai a ydych chi’n gymwys ar gyfer Gweithredu Cadarnhaol ai peidio fan hyn.   

A oes gennych gwestiynau? 

E-bost: recruitment@dyfed-powys.police.uk

Tudalen we

Sesiwn recriwtio galw heibio wythnosol: pob dydd Mercher, 11 - 11.30y.b. drwy Teams fan hyn

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.