Cydlynydd Sgiliau a Hyfforddiant yr Heddlu

Heddlu Dyfed Powys
Staff Heddlu
Gwasanaethau Dysgu a Datblygu
Pencadlys
Hyblyg
E
£29,874 - £32,772
Llawn Amser
37
Parhaol
1
15 Ebrill 2024

01/04/24 23:55

Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â ni fel Cydlynydd Sgiliau a Hyfforddiant yr Heddlu yn adran Dysgu a Datblygu, Gwasanaethau Pobl.

Beth fyddwch chi’n ei wneud?

  • Darparu gwasanaeth cydlynu effeithiol a phroffesiynol o safon uchel ar gyfer Dysgu a Datblygu. Sicrhau bod sgiliau’n cael eu holrhain a’u monitro a bod cyflenwi hyfforddiant yn effeithiol, yn gost effeithlon ac yn unol â chynllun hyfforddi’r heddlu.

  • Cydlynu cyflenwi hyfforddiant mewnol ac allanol i swyddogion a staff yr heddlu.
  • Sicrhau y rhennir gwybodaeth yn effeithiol rhwng timoedd, yn arbennig recriwtio, i hysbysu cynllunio ar gyfer olyniaeth, cynlluniau hyfforddi a recriwtio.
  • Olrhain galluoedd staff presennol er mwyn hysbysu cynllunio ar gyfer olyniaeth, cynlluniau hyfforddi a recriwtio.

Os ydych chi’n credu bod gennych chi’r sgiliau a’r angerdd ar gyfer y swydd hon, cliciwch y ddolen isod i weld y proffil swydd. Os ydych chi’n credu mai hon yw’r swydd i chi, cwblhewch ffurflen gais, gan roi tystiolaeth yn erbyn y cymwysterau gofynnol (sydd ar dudalen olaf y proffil swydd fel arfer).

Cyfeiriwch hefyd at y canllawiau ar gyfer ymgeiswyr a atodir isod, sy’n rhoi mwy o fanylion ynglŷn â sut i gwblhau’ch cais.

Beth allwch chi ddisgwyl?

  • Bydd gan bob dechreuwr newydd gyfaill/mentor i’ch cefnogi pan fyddwch chi’n ymuno
  • 24 diwrnod o wyliau blynyddol (sy’n codi i 29 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth) ynghyd ag 8 gŵyl gyhoeddus
  • 24 diwrnod ychwanegol o oriau hyblyg (gan ddibynnu ar y swydd)
  • Mynediad at gampfeydd a dosbarthiadau ffitrwydd yn y gweithle
  • Gweithio hybrid/ystwyth (gan ddibynnu ar y swydd)
  • Gostyngiadau gan sawl adwerthwr drwy’r Cynllun Golau Glas
  • Cynllun Beicio i’r Gwaith
  • Cefnogaeth gan ein Canolfan Iechyd a Lles, gan gynnwys Swyddogion Lles, Cwnsela a Ffisiotherapi
  • Cynllun pensiwn
  • Rhwydweithiau Cymorth Staff
  • Cyfleoedd gweithio hyblyg
  • Hawliau cyfnod mamolaeth/tadolaeth/mabwysiadu hael
  • Darpariaethau tâl salwch

Mae pob ymgeisydd yn ddarostyngedig i wiriadau meddygol a fetio.

Amrywiaeth a’r Gymraeg

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gyflogwr cynhwysol sy’n anelu i gael gweithlu sy’n cynrychioli’r cymunedau mae’n eu plismona a’u gwasanaethu. Credwn y byddwn yn elwa o’r amrywiaeth o feddyliau, ymagweddau a sgiliau y gall amrywiaeth gyflwyno, sy’n medru’n helpu i gyflwyno gwell gwasanaeth plismona.

Yr ydym yn parhau i weithio tuag at greu diwylliant diogel, agored sy’n foesegol ac yn cynnwys pawb. Mae gennym amrediad o grwpiau a rhwydweithiau staff i roi cyngor a chymorth penodol, a’n nod yw recriwtio pobl dalentog ag amrywiaeth eang o sgiliau a phrofiadau. Yr ydym yn croesawu ceisiadau o bob cefndir a chymuned, ni waeth am oed, rhyw, ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd neu fynegiant rhywedd, anabledd, statws cymdeithasol neu gredoau crefyddol.  

Cliciwch fan hyn i weld pa un ai a ydych chi’n gymwys ar gyfer Gweithredu Cadarnhaol ai peidio.  

Yr ydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad dwyieithog ac ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Pwynt gwybodaeth:

Os oes angen rhagor o wybodaeth am y swydd hon arnoch, peidiwch ag oedi i gysylltu: recruitment@dyfed-powys.police.uk

Neu ymunwch â’n digwyddiad recriwtio galw heibio wythnosol ar ddydd Mercher o 11y.b. – 11:30y.b. fan hyn.

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.