Ymchwilydd Lleoliadau Trosedd (Digymwys a Chymwys)

Heddlu Dyfed Powys
Staff Heddlu
Ymchwiliadau
Gwasanaethau Fforensig
Aberhonddu
Sefydlog a Gweithredol
E/F
£27,690 - £35,223
Gweithio Penwythnos, Ar alw/Wrth gefn
13.33%
£32.23
Llawn Amser
37
Parhaol
1
1 Mawrth 2023

16/02/23 23:55

Mae cyfle cyffroes wedi codi i ymuno â Heddlu Dyfed-Powys fel Archwilydd Troseddfannau.

Pwy yw Heddlu Dyfed- Powys?

Ni yw’r ardal heddlu fwyaf yn ddaearyddol yng Nghymru a Lloegr, ac rydym yn falch o wasanaethu cymunedau Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys. Efallai bod y boblogaeth yr ydym yn ei gwasanaethu’n fach mewn nifer (tua 515,000 o bobl), ond mae’r dirwedd ddynamig yn golygu bod yn rhaid inni fod yn arloesol o ran ein hymagwedd blismona er mwyn darparu ar gyfer anghenion gwahanol ein cymunedau, sy’n cynnwys economi twristiaeth bywiog yn ystod misoedd yr haf.  

Beth fyddwch chi’n ei wneud?

Diben y Rôl

Darparu arbenigedd o ran casglu ac asesu tystiolaeth fforensig a ffotograffig a sicrhau bod cymaint o dystiolaeth â phosib yn cael ei chrynhoi.

Tasgau sy’n benodol ar gyfer y rôl

1. Darparu gwasanaeth ffotograffiaeth ddigidol i ateb anghenion y sefydliad.
2. Mynd i ddigwyddiadau, diogelu a gwarchod y lleoliad a, gan roi ystyriaeth briodol i’r angen i beidio â llygru’r lleoliad, cofnodi, chwilio a chrynhoi tystiolaeth yn unol ag arferion gorau a rheolau tystiolaeth.
3. Cadw cofnodion cyfoes a data gwybodaeth a chynhyrchu datganiadau’n ymwneud â thystiolaeth, adroddiadau a bwletinau, ac ati, yn unol â gofynion y swydd.
4. Cynghori a diweddaru staff ynghylch materion yn rheolaidd, gan gynnwys datblygiadau, er mwyn sicrhau bod gweithwyr yn gwneud y defnydd gorau posib o dystiolaeth fforensig.
5. Cynnal ac adolygu offer i sicrhau ei fod yn gweithio’n effeithiol ac yn effeithlon er mwyn casglu unrhyw dystiolaeth a gwybodaeth bosib yn effeithiol.
6. Paratoi a darparu hyfforddiant i godi ymwybyddiaeth am faterion yn ymwneud â gwasanaethau fforensig er mwyn gwella dealltwriaeth pobl am y gwasanaeth, a’i hyrwyddo.
7. Cyflwyno tystiolaeth mewn Llysoedd Barn, Cwestau Crwner a byrddau ymchwilio eraill.

Pwy ydyn ni’n chwilio amdano?

Yr iaith Gymraeg ac amrywiaeth

Yr ydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad dwyieithog, ac ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Gofynnwn i holl swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys gyfathrebu hyd safon lefel 1. Golyga hyn eich bod chi’n medru deall ac ynganu enwau llefydd Cymraeg ac yn medru defnyddio a deall cymalau bob dydd syml megis cyfarchion. Os nad ydych chi’n medru cyfathrebu i’r safon hwn, yn ystod eich cyfnod prawf (6 mis fel arfer), byddwn yn eich cefnogi’n llawn i gyflawni hyn drwy amryw o gyfleoedd dysgu.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn croesawu ceisiadau gan grwpiau a dangynrychiolir a siaradwyr Cymraeg.

Darganfyddwch pa un ai a ydych chi’n gymwys ar gyfer Gweithredu Cadarnhaol yma.  

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun gwiriadau meddygol a fetio

Angen rhagor o wybodaeth?

Peidiwch ag oedi i gysylltu â’r tîm recriwtio drwy e-bost: hr-bsu-recruiting@dyfed-powys.police.uk

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.