Digwyddiad Recriwtio Cymraeg Swyddogion yr Heddlu - Cofrestrwch eich diddordeb

Cyfleoedd Swyddi Gwag yn y Dyfodol

Heddlu Dyfed Powys
Swyddi Swyddogion Heddlu yn y Dyfodol
Plismona mewn Lifrai
Ledled yr Heddlu

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cynnig cyfle i gofrestru diddordeb mewn dod yn Swyddog Heddlu ar gyfer ein hymgyrch recriwtio Swyddogion Heddlu.  

Ar ôl ichi gofrestru, byddwn yn eich gwahodd i sesiwn ymgyfarwyddo ar-lein, lle y byddwch yn cael cyfle i gael mewnwelediad i’r:

  • Rôl swyddog heddlu
  • Broses recriwtio a dethol 
  • Rhaglen hyfforddi gan gynnwys yr elfen academaidd gyda Phrifysgol De Cymru
  • Gweithredu cadarnhaol

Bydd hwn yn gyfle hefyd i chi ofyn cwestiynau.

Ein gobaith yw y bydd y digwyddiad yn eich galluogi i wneud penderfyniad gwybodus ynglŷn â pha un ai a yw’r swydd Swyddog Heddlu’n addas i chi.

Digwyddiad Ymgyfarwyddo Ar-lein yr Heddlu

Nos Mawrth 9 Awst 18:00 – 20:00

Bydd y digwyddiad hwn yn Gymraeg. 

Noder: bydd y wahoddiad cyfarfod yn cael eu hanfon ar dydd Mawrth 9 Awst 2022 drwy e-bost at bob ymgeisydd sydd wedi cofrestru eu diddordeb.

Ar gyfer digwyddiadau eraill ewch i'n gwefan yma

NID YMGYRCH RECRIWTIO WEITHREDOL YW HON - BYDDWCH OND YN COFRESTRU’CH DIDDORDEB MEWN YMGYRCHOEDD RECRIWTIO SWYDDOGION HEDDLU YN Y DYFODOL

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.