Swyddogion Cefnogi Cymunedol yr Heddlu 2022 - Ceredigion

Heddlu Dyfed Powys
SCCH
Plismona mewn Lifrai
Tîm Plismona Bro
Ceredigion
D
£22,599 - £24,546
Sifft, Gweithio Penwythnos
12.5%
10%
Llawn Amser
Parhaol
1

31/05/22 23:55

Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â ni fel Swyddog Cefnogi Cymunedol yr Heddlu (SCCH). Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu hystyried ar gyfer swyddi gwag ym mis Medi 2022, Ionawr 2023 a Medi 2023. 

Mae hon yn swydd staff heddlu hollbwysig o fewn ein tîm plismona bro. Byddwch chi’n gweithio gyda chymunedau ardal Heddlu Dyfed-Powys, gan adeiladu perthnasau, chwalu rhwystrau a datrys problemau.

Does yna ddim diwrnod arferol fel Swyddog Cefnogi Cymunedol (SCCH) yr Heddlu. Mae pob diwrnod yn cyflwyno heriau newydd, ond yn y pen draw, bydd popeth a wnewch yn gwella bywydau ein cymunedau.

Fel SCCH Dyfed-Powys, byddwch:

  • Yn gweithio i helpu cymunedau i ddatblygu a ffynnu.
  • Yn datblygu cysylltiadau a pherthnasau gyda chymunedau, gan gynnwys busnesau, preswylwyr, arweinwyr cymuned ac asiantaethau partner.
  • Yn helpu i adeiladu a chynnal perthnasau gyda’r cymunedau amrywiol a’n pobl ifainc.
  • Yn bresenoldeb amlwg o fewn y gymuned, gan gynnal patrolau amlwg er mwyn tawelu meddyliau pobl.
  • Yn ymateb i amrediad o ddigwyddiadau, gan gynnwys ymddygiad gwrthgymdeithasol, anghydfod rhwng cymdogion a cherbydau sydd wedi’u gadael, ac yn cynorthwyo ag ymholiadau unigolion coll.
  • Yn cymryd ymagwedd datrys problemau tuag at broblemau tymor hir yn y gymuned, gan weithio gyda phartneriaid a’r gymuned er mwyn helpu i’w datrys.
  • Yn helpu i dawelu meddyliau a chefnogi dioddefwyr trosedd, gan gynnig cyngor atal trosedd er mwyn helpu i’w cadw’n ddiogel.
  • Yn helpu i blismona digwyddiadau mawr, cynulliadau, gwyliau a sioeau.
  • Yn defnyddio’r pwerau a roddwyd i chi i’ch helpu i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a throsedd yn eich cymuned.
  • Yn casglu tystiolaeth TCC ac yn cynnal ymholiadau o dŷ i dŷ i’n helpu â’n hymchwiliadau.
  • Yn gweithredu fel tyst proffesiynol, gan fynd i’r llys pan fod angen.

Rhoddir cymorth a hyfforddiant llawn ar gyfer y rôl hon, sy’n cynnwys rhaglen hyfforddi gychwynnol deg wythnos o hyd gydag amserlen gyffroes o gyrsiau wedi’i dilyn gan gyfnod tiwtora wythnos o hyd yn y rhanbarth.

Oherwydd y swydd, disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus fyw o fewn 30 milltir neu 1 awr o bellter cymudol o’r orsaf ddynodedig.

Cewch ond wneud cais ar gyfer UN ardal ranbarthol.

Mae HDP yn cadw’r hawl i gau’r hysbyseb hwn os fyddwn ni’n derbyn nifer fawr o geisiadau addasO’r herwydd, yr ydym yn annog ceisiadau cynnar er mwyn sicrhau’ch bod chi’n cael eich ystyried ar gyfer swydd.

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.