Dechrau Ffurflen Wag Newydd?
A ydych yn cael eich cymryd i ffurflen gais wag pan rydych yn ceisio dychwelyd i’r ffurflen yr oeddech wedi’i dechrau/chyflwyno eisoes?
Os mai hyn yw’r achos, mae’n debygol eich bod yn mewngofnodi i’r proffil anghywir.
Proffil Anghywir
Gallwch ond creu un proffil i bob cyfeiriad e-bost. Os ydych yn cael trafferth cael mynediad at eich ffurflen gais wedi’i gadw/wedi’i gyflwyno, mae’n debygol y gwnaethoch y cais hwnnw gan ddefnyddio cyfeiriad e-bost gwahanol. Felly, ceisiwch fewngofnodi gan ddefnyddio un o’ch cyfeiriadau e-bost eraill. Os ydych wedi anghofio eich cyfrinair, gallwch ddefnyddio’r offeryn Password Reset yn y ddewislen ar yr ochr chwith er mwyn adfer eich cyfrinair ar gyfer y cyfeiriad e-bost hwnnw.
Byddem yn eich cynghori i chi ddefnyddio’r un cyfeiriadau e-bost ar gyfer eich holl geisiadau.