Prif Gwnstabl Cynorthwyol
15/04/24 12:00
Mae Dyfed-Powys yn chwilio am unigolyn uchelgeisiol, brwdfrydig, egnïol a chraff sydd â phrofiad fel Prif Gwnstabl Cynorthwyol neu Ddirprwy Brif Gwnstabl parhaol, i gefnogi’r Prif Gwnstabl i arwain y gwaith o ddarparu gwasanaethau plismona ar gyfer cymunedau yn ardal Heddlu Dyfed-Powys.
Byddwch yn sicrhau bod safon uchel o broffesiynoldeb ac uniondeb yn cael ei chynnal a byddwch yn gyfrifol am greu tîm sy'n llawn cymhelliant, yn ymroddedig, ac yn meddu ar y sgiliau, yr wybodaeth a'r hyder i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel a meithrin hyder y cyhoedd.
Mae gan Heddlu Dyfed-Powys berthynas unigryw â’n cymunedau, gweithlu balch ac ymroddedig, ac enw da o’r radd flaenaf am fynd i’r afael â throseddau. Mae hwn yn gyfle cyffrous i’r unigolyn cywir ymuno â thîm blaengar, gweithio’n agos gyda chydweithwyr o’r tri heddlu arall yng Nghymru ac asiantaethau partner, a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i blismona ac i i’r cyhoedd yng nghanolbarth a gorllewin Cymru.
Cyfnod Penodol hyd at 5 mlynedd
Cyflog £133,248 yn ogystal ag adleoli a buddion
Pecyn Gwybodaeth ar Gyfer Swydd Heddlu Dyfed-Powys
Os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Carol Price, Swyddog Cymorth Gweithredol i'r Prif Gwnstabl, drwy e-bost Carol.price@dyfed-powys.police.uk neu dros y ffôn 01267 226308. Bydd Carol yn gwneud apwyntiad i chi siarad â'r Prif Gwnstabl Dr Richard Lewis.
Os oes gennych y sgiliau, y proffesiynoldeb a'r brwdfrydedd sydd eu hangen ar gyfer y swydd allweddol hon, hoffem glywed gennych.
Wrth gwblhau eich ffurflen gais ar-lein, anwybyddwch yr adran ‘Cwestiynau ffurflen gais ategol’. Yn hytrach, gofynnwn ichi gwblhau’r ddogfen ‘Cwestiynau Ategol, Dirprwy Brif Gwnstabl 2024’ sydd ynghlwm, a’i dychwelyd drwy e-bost at: katherine.hobbs@dyfed-powys.police.uk erbyn y dyddiad cau – Dydd Llun 15 Ebrill 2024. Sicrhewch eich bod chi hefyd yn cyflwyno’ch cais yn llawn drwy’r porthol recriwtio.
Dyddiadau allweddol
Digwyddiad Ymgyfarwyddo: Dydd Llun, 8 Ebrill 2024
Dyddiad cau: Dydd Llun, 15 Ebrill 2024 – canol dydd
Dyddiad cyfweliad: Dydd Mercher, 1 Mai 2024
Rhaid i ymgeiswyr nad ydynt yn y Deyrnas Unedig (DU) fod wedi gwasanaethu ar reng heddlu tramor gymeradwy. Rhaid i ymgeiswyr fod yn gymwys i fyw a gweithio yn y DU.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Katherine Hobbs
Ffôn: 01267 617164 neu e-bostiwch katherine.hobbs@dyfed-powys.police.uk
Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.