Prentis – Adran Cyfiawnder Troseddol

Heddlu Dyfed Powys
Staff Heddlu
Cyfiawnder Troseddol Strategol
Pencadlys
Hyblyg
A
£4.81 per hour for the first year and then national minimum wage rate for year 2
Llawn Amser
37
Tymor Sefydlog
24
1
30 Mawrth 2023

22/03/23 23:55

Mae cyfle cyffroes wedi codi i ymuno â Heddlu Dyfed-Powys fel Prentis Cymorth Busnes yn yr Uned Ymchwilio Leol yn y Drenewydd, Powys.

Pwy yw Heddlu Dyfed- Powys?

Ni yw’r ardal heddlu fwyaf yn ddaearyddol yng Nghymru a Lloegr, ac rydym yn falch o wasanaethu cymunedau Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys. Efallai bod y boblogaeth yr ydym yn ei gwasanaethu’n fach mewn nifer (tua 515,000 o bobl), ond mae’r dirwedd ddynamig yn golygu bod yn rhaid inni fod yn arloesol o ran ein hymagwedd blismona er mwyn darparu ar gyfer anghenion gwahanol ein cymunedau, sy’n cynnwys economi twristiaeth bywiog yn ystod misoedd yr haf.  

Beth fyddwch chi’n ei wneud?

Tasgau sy’n benodol ar gyfer y rôl

  • Cynorthwyo â pharatoi dogfennau sy’n ymwneud â ffeiliau llys erlyn troseddau a thraffig i’w cyflwyno i Wasanaeth Erlyn y Goron.
  • Cynorthwyo â pharatoi trawsgrifiadau o gyfweliadau.
  • Cynorthwyo â datblygu achosion yn effeithiol mewn perthynas â dioddefwyr a thystion.
  • Cynorthwyo â darparu cymorth gweinyddol i’r Erlynyddion a Arweinir gan yr Heddlu mewn Llys Ynadon.
  • Cynnal gwiriadau ar systemau cyfrifiadurol perthnasol a rhoi gwybodaeth gywir i gynorthwyo â’r broses llys.
  • Trefnu cyrsiau addysgol y cynllun NDORS ar gyfer aelodau o’r cyhoedd.
  • Cynorthwyo â stocio canolfannau cwrs mewn paratoad ar gyfer cyflwyno’r cyrsiau NDORS ar draws ardal Dyfed-Powys.
  • Cynorthwyo â’r broses o bennu cyrsiau NDORS, gan ymgysylltu â lleoliadau cwrs a hyfforddwyr.

Cymhwyster

Fel rhan o’r swydd hon, byddwch chi’n gweithio tuag at Gymhwyster Gweinyddu Busnes Lefel 2. Darperir yr holl hyfforddiant a chymorth ar y cyd â’r coleg lleol.

Pwy ydyn ni’n chwilio amdano?

Cymwysterau

Os ydych chi’n credu bod y sgiliau a’r angerdd gyda chi ar gyfer y swydd hon, cliciwch y ddolen isod er mwyn darllen y proffil rôl. Os ydych chi’n credu bod y swydd hon yn addas i chi, llenwch ffurflen gais, gan ddangos tystiolaeth o’r cymwysterau gofynnol (mae’r rhain ar dudalen olaf y proffil rôl fel arfer).

Cyfeiriwch hefyd at y canllawiau ar gyfer ymgeiswyr a atodir isod, sy’n rhoi rhagor o fanylion ynglŷn â sut i gwblhau’ch cais.

Gan na ddisgwylir canlyniadau TGAU tan ar ôl y dyddiad cau ar gyfer y swydd hon, yr ydym yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr sy’n disgwyl eu canlyniadau. Os fyddwch chi’n llwyddiannus yn eich cyfweliad, gofynnir ichi ddarparu copi o’ch tystysgrif sy’n dangos eich bod chi wedi derbyn graddau A – C yn eich arholiadau TGAU iaith Saesneg a Mathemateg (neu gymhwyster lefel 2 cyfwerth).

  • Swydd dros dro yw hon hyd at/am: 24 mis
  • Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun gwiriadau meddygol a fetio.

 Yr iaith Gymraeg ac amrywiaeth

Yr ydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad dwyieithog, ac ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Gofynnwn i holl swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys gyfathrebu hyd safon lefel 1. Golyga hyn eich bod chi’n medru deall ac ynganu enwau llefydd Cymraeg ac yn medru defnyddio a deall cymalau bob dydd syml megis cyfarchion. Os nad ydych chi’n medru cyfathrebu i’r safon hwn, yn ystod eich cyfnod prawf (6 mis fel arfer), byddwn yn eich cefnogi’n llawn i gyflawni hyn drwy amryw o gyfleoedd dysgu.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn croesawu ceisiadau gan grwpiau a dangynrychiolir a siaradwyr Cymraeg.

Darganfyddwch pa un ai a ydych chi’n gymwys ar gyfer Gweithredu Cadarnhaol yma.  

Angen rhagor o wybodaeth?

Peidiwch ag oedi i gysylltu â’r tîm recriwtio drwy e-bost: bsu-HR-recruiting@dyfed-powys.police.uk

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.