Arweinydd Cadetiaid Heddlu Gwirfoddol

Heddlu Dyfed Powys
Gwirfoddolwyr
Gwirfoddolwyr
Aberhonddu, Caerfyrddin, Doc Penfro, Llanelli, Rhydaman, Y Drenewydd
Sefydlog
Arall
8
Gwirfoddolwr
1

10/09/24 23:55

Arweinydd Cadetiaid Cynorthwyol Gwirfoddol

Ydych chi’n gallu ysbrydoli, hyfforddi a chefnogi pobl ifanc? Os felly, beth am fod yn Arweinydd Cadetiaid Cynorthwyol Gwirfoddol gyda Heddlu Dyfed-Powys.

Nodau Cadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu yw -

  • hybu dealltwriaeth ymarferol o blismona ymhlith pobl ifanc
  • annog ysbryd anturus a dinasyddiaeth dda
  • cefnogi blaenoriaethau plismona lleol trwy wirfoddoli a rhoi cyfle i bobl ifanc gael eu clywed
  • ysbrydoli pobl ifanc i gyfranogi'n gadarnhaol yn eu cymunedau

Fel Arweinydd Cadetiaid Cynorthwyol bydd eich dyletswyddau’n cynnwys helpu i gyflwyno’r rhaglen hyfforddi yn y cyfarfodydd nos a gynhelir yn wythnosol, cefnogi ein gwirfoddolwyr ifanc i gyflawni eu nodau, yn ogystal â helpu i ddatblygu eu sgiliau a’u hannog i ddod yn ddinasyddion da o fewn eu cymunedau eu hunain. Mae proffil rôl llawn yr Arweinydd Cadetiaid Cynorthwyol isod.

Mae gennym nifer o gyfleoedd ar gyfer Arweinwyr Cadetiaid Cynorthwyol Gwirfoddol ar draws ardal yr heddlu o fewn ein 7 uned cadetiaid yn y Drenewydd, Aberhonddu, Rhydaman, Llanelli, Penfro, Aberteifi a Caerfyrddin.

Os oes angen rhagor o fanylion arnoch, cysylltwch â’r Cydlynydd Dinasyddion Mewn Plismona drwy anfon e-bost at volunteers@dyfed-powys.police.uk.