Hyfforddwr Cymraeg

Heddlu Dyfed Powys
Staff Heddlu
Plismona mewn Lifrai
Hyfforddiant
Pencadlys
Hyblyg
E
£26,565 to £29,331
Llawn Amser
37
Tymor Sefydlog
24
5
19 Rhagfyr 2022

07/12/22 23:55

Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â ni fel Hyfforddwr Cymraeg

Pwy yw Heddlu Dyfed- Powys?

Ni yw’r ardal heddlu fwyaf yn ddaearyddol yng Nghymru a Lloegr, ac rydym yn falch o wasanaethu cymunedau Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys. Efallai bod y boblogaeth yr ydym yn ei gwasanaethu’n fach mewn nifer (tua 515,000 o bobl), ond mae’r dirwedd ddynamig yn golygu bod yn rhaid inni fod yn arloesol o ran ein hymagwedd blismona er mwyn darparu ar gyfer anghenion gwahanol ein cymunedau, sy’n cynnwys economi twristiaeth bywiog yn ystod misoedd yr haf.  

Beth fyddwch chi’n ei wneud?

Diben y Swydd: Rhoi gwersi Cymraeg i holl staff Heddlu Dyfed-Powys er mwyn gweithio tuag at weithlu sy’n gwbl ddwyieithog. 

Tasgau Penodol i’r Swydd

  • Cyflwyno delwedd a gwasanaeth proffesiynol i fyfyrwyr wrth gyflenwi hyfforddiant, gan ymgysylltu’n effeithiol â chwsmeriaid mewnol ac allanol ar bob lefel.
  • Bod yn atebol am gynhyrchu deunydd gwersi Cymraeg a deunydd ymchwil yn amserol er mwyn caniatáu cyflenwi’r cynllun  hyfforddi wedi’i gostio. 
  • Datblygu, gwerthuso a gwella deunydd gwersi Cymraeg a bod yn hyblyg i addasu deunydd a chyflenwi dysgu yn ôl yr angen. 
  • Arwain ar ddatblygu adnodd dysgu ar-lein ar gyfer cyflenwi gwersi Cymraeg.
  • Cynllunio a chydlynu cyflenwi gwersi Cymraeg o allu amrywiol, gan gydlynu gweithgareddau gydag eraill yn ôl yr angen. 
  • Cynllunio cynllun gwaith blynyddol, gan gynnwys dysgu o lefelau 1 i 5.
  • Cofnodi cynnydd myfyrwyr ac ysgrifennu adroddiad blynyddol i’w rannu â’r sefydliad.
  • Ysgogi myfyrwyr â chyflwyniad brwdfrydig a dychmygus. 
  • Cofrestru a pharatoi myfyrwyr ar gyfer asesiadau allanol a phortffolios ar gyfer achrediad lle bo’n berthnasol. 
  • Cydlynu gweithgareddau ac adnoddau o fewn maes penodol o’r cwricwlwm, gan gefnogi cydweithwyr i gyflenwi’r maes arbenigol hwn. 
  • Ceisio’r wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau a datblygiadau o ran strwythur cyflenwi gwersi Cymraeg, yn unol â’r cwricwlwm a chanllawiau cenedlaethol. 
  • Cymryd rhan mewn digwyddiadau a gweithgareddau sefydliadol a allai fod ar benwythnosau neu gyda’r hwyr. Mae digwyddiadau’n cynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol.
  • Ymgysylltu â chydweithwyr a gweithio’n hyblyg, yn arbennig o fewn yr ardal heddlu

Pwy ydyn ni’n chwilio amdano?

Yr iaith Gymraeg ac amrywiaeth

Yr ydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad dwyieithog, ac ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn croesawu ceisiadau gan grwpiau a dangynrychiolir a siaradwyr Cymraeg.

Darganfyddwch pa un ai a ydych chi’n gymwys ar gyfer Gweithredu Cadarnhaol yma.  

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun gwiriadau meddygol a fetio

Swydd dros dro yw hon hyd at 24 mis.

Cynhelir cyfweliadau ar: 19/12/2022 a 21/12/2022

Angen rhagor o wybodaeth?

Peidiwch ag oedi i gysylltu â’r tîm recriwtio drwy e-bost: hr-bsu-recruiting@dyfed-powys.police.uk

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.