30/09/26 23:55
Ydych chi’n gallu ysbrydoli, hyfforddi a chefnogi pobl ifanc? Os felly, beth am fod yn Arweinydd Cadetiaid Cynorthwyol Gwirfoddol gyda Heddlu Dyfed-Powys.
Nodau Cadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu yw -
Fel Arweinydd Cadetiaid Cynorthwyol bydd eich dyletswyddau’n cynnwys helpu i gyflwyno’r rhaglen hyfforddi yn y cyfarfodydd nos a gynhelir yn wythnosol, cefnogi ein gwirfoddolwyr ifanc i gyflawni eu nodau, yn ogystal â helpu i ddatblygu eu sgiliau a’u hannog i ddod yn ddinasyddion da o fewn eu cymunedau eu hunain. Mae proffil rôl llawn yr Arweinydd Cadetiaid Cynorthwyol isod.
Mae gennym nifer o gyfleoedd ar gyfer Arweinwyr Cadetiaid Cynorthwyol Gwirfoddol ar draws ardal yr heddlu o fewn ein 7 uned cadetiaid yn y Drenewydd, Aberhonddu, Rhydaman, Llanelli, Penfro, Aberteifi a Caerfyrddin.
Os oes angen rhagor o fanylion arnoch, cysylltwch â’r Cydlynydd Dinasyddion Mewn Plismona drwy anfon e-bost at volunteers@dyfed-powys.police.uk.