Ymgyrch Swyddogion Heddlu 2022 – Daliwr Gradd Arfer Plismona Proffesiynol

Heddlu Dyfed Powys
Swyddog Heddlu
Plismona mewn Lifrai
Swyddogion Fyfyrwyr
Ledled yr Heddlu
Swyddog Heddlu
40
1

16/01/23 09:00

Mae’r cais hwn ar gyfer ymgeiswyr sydd wedi cwblhau eu cymhwyster Arfer Plismona Proffesiynol, neu ymgeiswyr sydd ar fin ei gwblhau, yn unig. Gwrthodir pob cais arall.

Yr ydym yn derbyn Graddau Plismona Proffesiynol BSc/BA (sydd wedi’u trwyddedu gan y Coleg Plismona) 

Ni chaiff ymgeiswyr wneud cais am fwy nag un heddlu yng Nghymru yn ystod yr ymgyrch hon, a bydd ceisiadau dyblyg yn cael eu gwrthod. Unwaith y byddwch chi wedi cadw’ch lle yn y ganolfan asesu, ni chewch ei symud i heddlu arall.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu hystyried ar gyfer swyddi gwag ar draws ardal yr Heddlu - Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys.

Mae'r ymgyrch hon ar gyfer derbyniadau  ym mis Medi 2022, Ionawr 2023 a Mawrth 2023

Sylwch:

• Mae’n rhaid i ymgeiswyr sydd angen addasiadau rhesymol yn ystod y broses recriwtio e.e. dyslecsia gyflwyno adroddiad seicolegydd llawn adeg gwneud y cais.

• Bydd yn ofynnol i bob darpar swyddog heddlu gael sampl wedi’i chymryd o’i holion bysedd a DNA. Mae hyn yn unol â rheoliadau'r heddlu.

• Os ydych eisoes wedi pasio’r ganolfan asesu yn llwyddiannus mae angen i'ch sgôr fod yn ddilys ar ddyddiad eich mynediad i Heddlu Dyfed Powys ac nid ar ddyddiad y cais.

• Darperir hyfforddiant a chefnogaeth lawn ar gyfer y rôl hon,  gydag amserlen gyffrous o gyrsiau ac yna cyfnod tiwtoriaeth yn y rhanbarth.

• Mae gan yr heddlu bolisi bod yn rhaid i gwnstabliaid fyw o fewn 30 milltir neu 1 awr o bellter teithio o'r cartref i'r orsaf heddlu ble’u lleolir.

Ceidw HDP yr hawl i gau'r hysbyseb hon os ydym yn derbyn nifer uchel o geisiadau addas. O'r herwydd, rydym yn annog ceisiadau cynnar er mwyn sicrhau eich hystyried am swydd.

Os na allwch ganfod yr atebion yr oeddech yn chwilio amdanynt ar ein tudalen we, gallwch hefyd e-bostio'ch ymholiadau at workforceplanningteam@dyfed-powys.pnn.police.uk.

Yr oriau agor yw dydd Llun i ddydd Gwener 9am i 5pm.

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.