Cwnstabl Gwirfoddol, 2022

Heddlu Dyfed Powys
Swyddogion Gwirfoddol
Heddlu Gwirfoddol
Ledled yr Heddlu
16
Gwirfoddolwr
1

01/06/22 12:00

Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â ni fel Cwnstabl Gwirfoddol.

Fel Cwnstabl Gwirfoddol, byddwch ar reng flaen plismona. Chi fydd un o’r wynebau cyntaf mae pobl yn gweld pan maent ein hangen fwyaf. Bydd pob dydd yn wahanol. Mae rhai o’r pethau y byddwch yn rhan ohonynt yn cynnwys:

  • ymateb i ddigwyddiadau a galwadau am gymorth gan y cyhoedd
  • siarad â dioddefwyr trosedd a sicrhau eu bod nhw’n derbyn y gwasanaeth gorau posibl
  • gwneud arestiadau, cyfweld â drwgdybiedigion a chymryd datganiadau gan dystion
  • chwilio am unigolion coll
  • rhoi tystiolaeth yn y llys
  • plismona digwyddiadau cyhoeddus mawr, cyngherddau a gwrthdystiadau
  • ymdrin â throseddau a gwrthdrawiadau traffig y ffyrdd
  • cynnal patrolau rhagweithiol er mwyn cynorthwyo i ddatrys problemau

Fel Cwnstabl Gwirfoddol, gofynnwn ichi wirfoddoli am 16 awr y mis o leiaf. Gall hyn gynnwys penwythnosau, nosweithiau a gwyliau banc.

Sylwch:

  • Os yw'n berthnasol, rhaid i ymgeiswyr uwchlwytho'r dystiolaeth o'u cymwysterau sy’n ofynnol wrth wneud cais gan na dderbynnir unrhyw dystiolaeth hwyr.
  • Bydd yn ofynnol i bob darpar cwnstabl gwirfoddol gael sampl wedi’i chymryd o’i holion bysedd a DNA. Mae hyn yn unol â rheoliadau'r heddlu.
  • Mae hyfforddiant cychwynnol yn cymryd tua 6 mis, gydag un penwythnos o hyfforddiant bob mis ym Mhencadlys yr Heddlu, Caerfyrddin, wedi’i gefnogi gan sesiynau a gyflwynir ar-lein a llyfrau gwaith hunan-astudio. Rhaid eich bod yn rhydd i fynd i’r penwythnosau hyfforddi o 2y.h. ddydd Gwener tan 5y.h. ddydd Sul.

Mae ymuno â’r Heddlu Gwirfoddol yn agor byd o gyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol a phersonol. Mae derbyn yr hyfforddiant ac yna mynd allan ar batrôl yn egwyl braf o fywyd bob dydd. Cewch gyffro a her bob tro y byddwch yn gwirfoddoli, a byddwch chi’n rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned y mae pawb ohonom yn rhan ohoni.

Os ydych chi’n meddwl bod y sgiliau gyda chi, ac rydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth yn eich cymuned, rydyn ni eisiau clywed wrthych!

Os na allwch ganfod yr atebion yr oeddech yn chwilio amdanynt ar ein tudalen we, gallwch hefyd e-bostio'ch ymholiadau at workforceplanningteam@dyfed-powys.police.uk neu fynychu ein sesiwn galw heibio recriwtio wythnosol bob dydd Mercher, 11 - 12 trwy dimau yma.

Yr oriau agor yw dydd Llun i ddydd Gwener 9am i 5pm.

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.