18/12/25 15:00
Hoffech chi gael gyrfa heb ei hail? Os felly... Ymunwch â Ni
Mae Heddlu De Cymru yn dod â miloedd o bobl ynghyd sydd â'r un nod – cadw De Cymru'n ddiogel.
Rydym am sicrhau mai ni yw'r gorau am ddeall ac ymateb i anghenion ein cymunedau. Er mwyn gwneud hyn, mae angen i'r ymgeiswyr gorau o amrywiaeth eang o gefndiroedd wneud cais i ymuno â'n teulu plismona.
Rydym yn chwilio am rywun i #YmunoÂNi fel Arweinydd Tîm Gwaith Achosion Arfau Tanio yn ein Hadran Drwyddedu Arfau Tanio a Ffrwydron. Ai chi yw'r un rydym yn chwilio amdano?
Y tîm/Adran y byddwch yn ymuno ag ef/hi:
Mae'r Tîm Trwyddedu Arfau Tanio a Ffrwydron yn gyfrifol am weinyddu prosesau trwyddedu, cynnal asesiadau trylwyr o ymgeiswyr a sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth i sicrhau diogelwch y cyhoedd mewn perthynas ag arfau tanio a ffrwydron
Mae'r tîm yn gweithio yn bennaf o Bencadlys yr Heddlu neu gartref, rhwng yr oriau 08:00–16:00, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Y rôl a'ch prif gyfrifoldebau:
Byddwch yn atebol am arwain, rheoli a datblygu tîm dynamig o wyth gweithiwr achos o fewn yr Adran Trwyddedu Arfau Tanio a Ffrwydron, ysgogi perfformiad uchel, darparu gwasanaeth effeithiol ac effeithlon, a sicrhau cydymffurfiaeth lawn â gofynion statudol.
Pa sgiliau a phrofiad y mae angen i chi eu cynnig i'r rôl:
Rydym yn chwilio am rywun sy'n meddu ar y canlynol:
Mae sawl mantais i weithio i Heddlu De Cymru, o gyfleoedd dysgu a datblygu i gynlluniau y bwriedir iddynt wella eich ffordd o fyw a'ch llesiant, yn ogystal â Chynllun Pensiwn Llywodraeth Leol / Cynlluniau Pensiwn yr Heddlu sy'n hael iawn, gwyliau blynyddol â thâl, gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd a llawer mwy, cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.
Mae'n rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn fodlon cael ei fetio hyd at Lefel MV/SC
Sylwch, os ydych yn ymgeisydd mewnol ac yn destun ymchwiliad parhaus i PSD, efallai y bydd oedi cyn i'ch penodiad neu leoliad yn y rôl gael ei ohirio hyd nes y bydd canlyniad. Bydd p'un a yw'r rôl yn agored yn cael ei hystyried fesul achos
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â Ross Willicombe ar 07584 004676
Mae'r rôl hon yn cau ar 24 Rhagfyr - gwnewch gais heddiw ac ymunwch â Thîm HDC!
Ai dyma'r tro cyntaf i chi wneud cais am rôl gyda Heddlu De Cymru? Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ein canllawiau ar wneud cais er mwyn cael cynghorion ac awgrymiadau defnyddiol ynglŷn â'r ffurflen gais a'r hyn i'w ddisgwyl, Canllawiau ar ymgeisio ar gyfer staff yr heddlu | Heddlu De Cymru. Noder, rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn barod i ymgymryd â phroses fetio hyd at y lefel ofynnol.
Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.