01/03/24 15:00
Hoffech chi gael gyrfa heb ei hail? Os felly... YmunwchâNi
Mae Heddlu De Cymru yn dod â miloedd o bobl ynghyd sydd â'r un nod – cadw De Cymru yn ddiogel.
Mae Rhaglen Brentisiaeth Heddlu De Cymru yn gyfle ardderchog i chi os ydych yn awyddus i ddatblygu eich sgiliau gwaith yn ogystal ag ennill cymhwyster academaidd.
Drwy ddod yn rhan o #TîmHDC cewch brofiad dysgu unigryw lle byddwch yn cyfrannu at brosiectau bywyd go iawn mewn amgylchedd cymhleth ac amrywiol. Rydym yn gwerthfawrogi unigolrwydd ac yn annog syniadau newydd a chreadigrwydd a fydd yn cyfrannu at ein llwyddiant fel heddlu ac yn gwneud gwahaniaeth mewn cymdeithas. Rydym yn chwilio am bobl sydd â sgiliau a phrofiadau amrywiol sy'n arloesol, yn frwdfrydig, yn uchelgeisiol ac, yn fwy na dim, yn unigolion talentog sy'n dyheu am fod yn arweinwyr y dyfodol ac yn awyddus i ymuno â'n tîm llwyddiannus.
Rhaglen â thâl yw'r rhaglen brentisiaeth, ac fe'i cynhelir am gyfnod o 12 - 18 mis (yn ddibynnol ar fodloni gofynion y cymhwyster) gan ddechrau ym mis Medi 2024. Mae'n brentisiaeth lefel 3 a bydd disgwyl i chi gwblhau cymhwyster Lefel 3 ochr yn ochr â'ch gwaith gyda Heddlu De Cymru. Byddwch yn cael eich cefnogi drwy'r cwrs gan diwtor o'r coleg a gan eich tîm yn y gweithle. Ar ddiwedd y cymhwyster, byddwch yn gallu gwneud cais am rôl barhaol yn Heddlu De Cymru.
Mae'r brentisiaeth hon o fewn y Gwasanaethau Masnachol a Chaffael yn gyfle datblygu gwych i chi ddysgu mwy am gaffael. Byddwch yn cael y cyfle i feithrin eich sgiliau busnes a'ch gwybodaeth am gaffael. Rydym yn uned ar y cyd a byddwch yn cefnogi'r tîm Caffael ar draws heddluoedd De Cymru a Gwent, gan gynorthwyo yn y busnes o ddydd i ddydd. Bydd y rôl yn darparu cymorth gweinyddol i'r tîm Gwasanaethau Caffael gan weithio gyda Rhaglen Prentisiaethau Heddlu De Cymru.
Mae'r brentisiaeth yn cynnwys cwblhau gofynion cymhwyster prentisiaeth Lefel 3 mewn Gweinyddu Busnes, sy'n cynnwys uned i ddysgu am baratoi manylebau contract, a dealltwriaeth o brosesau tendro. Bydd y brentisiaeth hon yn cynnwys profiad o gyflwyno'r unigolyn i arferion caffael yn y sector cyhoeddus.
Bydd cyfle i ddatblygu sgiliau a phrofiad mewn maes eang o brosesau a gweithdrefnau caffael, megis prosesu ceisiadau prynu, gweinyddu ceisiadau teithio, gweinyddu cardiau prynu yr heddlu, ymgysylltu â chyflenwyr, bod yn gyfrifol am gaffael yn foesegol ac yn gymdeithasol ac ymwybyddiaeth o reoli contractau.
Bydd deiliad y swydd yn manteisio ar bolisïau Gweithio'n Gallach, gyda chymysgedd o weithio gartref a gweithio o Bencadlys Heddlu De Cymru.
Mae buddiannau niferus i weithio i Heddlu De Cymru, o gyfleoedd dysgu a datblygu i gynlluniau sy'n anelu at wella eich ffordd o fyw a'ch llesiant, yn ogystal â Chynllun Pensiwn Llywodraeth Leol / Cynlluniau Pensiwn yr Heddlu hael, gwyliau blynyddol â thâl, gweithio hyblyg a pholisïau cyfeillgar i deuluoedd a llawer mwy, cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.
Sylwer er mwyn bod yn gymwys ar gyfer Rhaglen Brentisiaeth HDC rhaid i chi:
Peidiwch â cholli'r cyfle gwych hwn, gwnewch gais heddiw ac ymunwch â #TîmHDC
O ganlyniad i ofynion gweithredol, nid yw'r rôl hon yn addas i weithwyr rhan amser/gweithwyr sy'n rhannu swyddi.
Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn barod i ymgymryd â phroses fetio hyd at lefel MV/SC.
Os ydych yn cymryd rhan mewn Ymchwiliad PSD ar hyn o bryd, ni fyddwch yn gymwys i wneud cais am y rôl hon.
Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.