Hoffech chi gael gyrfa heb ei hail? Os felly... Ymunwch â Ni
Mae'r Uned Arfau Tanio ar y Cyd yn dod â channoedd o bobl at ei gilydd sy'n rhannu'r un nod – cadw cymunedau De Cymru, Gwent a Dyfed-Powys yn ddiogel.
Rydym am sicrhau mai ni yw'r gorau am ddeall ac ymateb i anghenion ein cymunedau. Er mwyn gwneud hyn, mae angen i'r ymgeiswyr gorau o amrywiaeth eang o gefndiroedd wneud cais i ymuno â'n teulu plismona.
Rydym yn chwilio am bobl i #YmunoÂNi yn llawn amser, parhaol fel Swyddog Cerbyd Ymateb Arfog, Hyfforddwr Arfau Tanio Cenedlaethol (Cwnstabl, Rhingyll neu Staff yr Heddlu), Swyddog Arfau Tanio Arbenigol Gwrthderfysgaeth (Cwnstabliaid a Rhingylliaid) a Swyddog Arfau Tanio Awdurdodedig - (Heddluoedd y Swyddfa Gartref YN UNIG) a fydd yn cael eu hyfforddi i lefel Swyddog Cerbydau Ymateb Arfog yn yr Uned Arfau Tanio ar y Cyd, De Cymru. Ai chi yw'r un rydym yn chwilio amdano?
Y tîm/Adran y byddwch yn ymuno ag ef/hi:
Mae'r Uned Arfau Tanio ar y Cyd yn gydweithrediad o asedau arfog ar gyfer Heddlu De Cymru, Heddlu Gwent a Heddlu Dyfed-Powys. Mae'r Uned yn perfformio i'r lefel bygythiad uchaf. Mae'n amgylchedd gwaith sy'n symud yn gyflym, yn ddiddorol ac yn ddynamig. Ni fydd unrhyw ddiwrnod yr un peth.
Mae amrywiaeth yn gryfder ac mae unigoliaeth yn gaffaeliad. Rydym yn cydnabod y budd y gall profiad bywyd a safbwyntiau gwahanol esgor arnynt.
Oherwydd lefel bresennol y swyddi gwag yn Rhanbarth Deheuol Cymru, hoffai'r Uned Arfau Tanio ar y Cyd hysbysebu i DROSGLWYDDO SWYDDOGION CERBYD YMATEB ARFOG ACHREDEDIG sydd ar lefel Cwnstabl a Rhingyll AR HYN O BRYD.
Rydym hefyd yn hysbysebu am Swyddogion Arfau Tanio Awdurdodedig cyfredol HEDDLUOEDD Y SWYDDFA GARTREF YN UNIG ar lefel Cwnstabl a Rhingyll lle y byddem yn cynnig cwrs hyfforddiant “uwchsgilio” i rôl Swyddogion Cerbydau Ymateb Arfog i'r swyddogion iawn.
Yn ogystal, rydym yn awyddus i gael ceisiadau gan Hyfforddwyr Arfau Tanio Cenedlaethol cymwys (Rhingyll, Cwnstabl a Staff yr Heddlu) a Swyddogion Arfau Tanio Arbenigol Gwrthderfysgaeth wedi'u hyfforddi'n llawn (Cwnstabliaid a Rhingylliaid).
NID yw'r broses hon yn gymwys i swyddogion Cerbyd Ymateb Arfog presennol sydd wrthi'n gwasanaethu yn Rhanbarth Deheuol Cymru. Gan mai Uned Ranbarthol yw'r Uned Arfau Tanio ar y Cyd, gallech gael eich postio unrhyw le yn Rhanbarth Deheuol Cymru (Heddlu Gwent, De Cymru a Dyfed-Powys).
Bydd dewis lleoliad yn cael ei ystyried ond ni ellir sicrhau hwn.
Mae gan yr Uned Arfau Tanio ar y Cyd safleoedd yn Nhredelerch (Caerdydd) Heddlu De Cymru/Heddlu Gwent, Crosshands (Heddlu De Cymru/Heddlu Dyfed-Powys), Llandrindod (Heddlu Dyfed Powys) ac Aberdaugleddau (Heddlu Dyfed-Powys). *Nodwch eich dewis leoliad yn eich cais, gan mai dyma fydd yn penderfynu i ba Heddlu y byddwch yn trosglwyddo iddo. *
Nodwch os byddwch yn trosglwyddo i Heddlu Dyfed-Powys, bydd angen byw o fewn 30 milltir/awr i'ch safle.
Mae buddiannau niferus i weithio i'r Uned Arfau Tanio ar y cyd, o gyfleoedd dysgu a datblygu i gynlluniau sy'n anelu at wella eich ffordd o fyw a'ch llesiant, yn ogystal â Chynllun Pensiwn Llywodraeth Leol / Cynlluniau Pensiwn yr Heddlu hael, gwyliau blynyddol â thâl, gweithio hyblyg a pholisïau cyfeillgar i deuluoedd a llawer mwy.
Noder mai'r cyflog cyfredol i Hyfforddwyr Staff yr Heddlu yw: £31,232 - £36,507 – os byddwch yn llwyddiannus, byddwch y cael eich cyflogi gyda chyflog cychwynnol o £31,232.
PEIDIWCH Â DEFNYDDIO'R BOTWM YMGEISIO NAWR
Os hoffech drafod un o'r rolau hyn ymhellach, gweler y manylion cyswllt isod:-
Swyddog Cerbyd Ymateb Arfog/Swyddog Arfau Tanio Awdurdodedig Prif Arolygydd Sarah Greening: regional-firearms-bsu@south-wales.police.uk
Hyfforddwr Arfau Tanio Cenedlaethol: Prif Hyfforddwr Arfau Tanio - Arolygydd Rob Gunney: rob.gunney@south-wales.police.uk
Swyddog Arfau Tanio Arbenigol Gwrthderfysgaeth Arolygydd Nathan Rafferty: nathan.rafferty@south-wales.police.uk
Joint Firearms Unit – Southern Wales Transferee - Officer and Staff Role - Police Jobs Wales