23/12/25 15:00
Hoffech chi gael gyrfa heb ei hail? Os felly... Ymunwch â Ni
Mae Heddlu De Cymru yn dod â miloedd o bobl ynghyd sydd â'r un nod – cadw De Cymru'n ddiogel.
Rydym am sicrhau mai ni yw'r gorau am ddeall ac ymateb i anghenion ein cymunedau. Er mwyn cyflawni hyn, mae angen i'r ymgeiswyr gorau o amrywiaeth eang o gefndiroedd wneud cais i ymuno â'n teulu plismona.
Rydym yn chwilio am rywun i #YmunoÂNi fel Cynlluniwr Trefnu Dyletswyddau yn Adran Gweithrediadau'r Heddlu a Chynllunio. Ai chi yw'r un rydym yn chwilio amdano?
Y tîm/Adran y byddwch yn ymuno ag ef/hi:
Mae hwn yn gyfle cyffrous i fod yn rhan o'r Uned Rheoli Adnoddau, ym mhortffolio Cynllunio yr Heddlu, ym maes Gwasanaethau Cymorth Gweithredol. Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd roi cymorth i'r Unedau Rheoli Sylfaenol ac Adrannau ym mhob rhan o Heddlu De Cymru. Rydym yn dîm bach sydd wedi'i leoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac rydym yn goruchwylio cywirdeb rotas ar gyfer swyddogion a staff yr Heddlu ar draws yr heddlu yn ogystal â'u diweddaru.
Y rôl a'ch prif gyfrifoldebau:
Bydd y rôl yn cynnwys cydgysylltu a chydweithio â phob rheng, diweddaru rotas a chyflwyno adroddiadau i Dimau Gorchymyn. Bydd y prif gyfrifoldebau yn cynnwys: -
Pa sgiliau a phrofiad y mae angen i chi eu cynnig i'r rôl:
Rydym yn awyddus i glywed gennych os ydych chi'n fedrus wrth ddefnyddio systemau Microsoft, yn meddu ar sgiliau blaenoriaethu a rheoli amser rhagorol. Byddwch yn ymgysylltu â swyddogion a staff ar draws yr heddlu ar bob rheng felly mae sgiliau cyfathrebu yn allweddol.
Mae sawl mantais i weithio i Heddlu De Cymru, o gyfleoedd dysgu a datblygu i gynlluniau y bwriedir iddynt wella eich ffordd o fyw a'ch llesiant, yn ogystal â Chynllun Pensiwn Llywodraeth Leol / Cynlluniau Pensiwn yr Heddlu sy'n hael iawn, gwyliau blynyddol â thâl, gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd a llawer mwy, cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch ag Alicia Gillett, Rheolwr Trefnu Dyletswyddau Tactegol yn Alicia.gillett@south-wales.police.uk
Mae'n rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn fodlon cael ei fetio hyd at Lefel RV
Sylwch, os ydych yn ymgeisydd mewnol ac yn destun ymchwiliad parhaus i PSD, efallai y bydd oedi cyn i'ch penodiad neu leoliad yn y rôl gael ei ohirio hyd nes y bydd canlyniad. Bydd p'un a yw'r rôl yn agored yn cael ei hystyried fesul achos
Ai dyma'r tro cyntaf i chi wneud cais am rôl gyda Heddlu De Cymru? Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ein canllawiau ar wneud cais er mwyn cael cynghorion ac awgrymiadau defnyddiol ynglŷn â'r ffurflen gais a'r hyn i'w ddisgwyl, Canllawiau ar ymgeisio ar gyfer staff yr heddlu | Heddlu De Cymru. Noder, rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn barod i ymgymryd â phroses fetio hyd at y lefel ofynnol.
Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.