17/10/25 17:00
PROSES DDYRCHAFU O AROLYGYDD I BRIF AROLYGYDD
MAE’R HYSBYSEB HWN YN CYFEIRIO AY YMGEISWYR ALLANOL YN UNIG Mae cyfleoedd dyrchafu wedi codi i Swyddogion yr Heddlu sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd wneud cais am swydd Brif Arolygydd yn Heddlu De Cymru. Felly, os ydych yn barod am yr her nesaf yn eich gyrfa, neu os oes gennych y sgiliau i ffynnu mewn rôl newydd, manteisiwch ar y cyfleoedd dyrchafiad sydd ar gael o fewn Heddlu De Cymru.
• Ein cenhadaeth yw atal ac ymchwilio trosedd: amddiffyn, gwasanaethu ac sicrhau ein cymunedau; a darparu gwasanaeth ardderchog i ddioddefwyr. • Ein gweledigaeth yw bod yn wasanaeth heddlu rhagorol: hygyrch, dibynadwy ac ymddiriedig gan ein cymunedau. • Mae ein gwerthoedd o ddewrder, uniondeb a thosturi yn sail i bopeth a wnawn. Rydym yn gweld ymrwymiad a chyfraniad ein swyddogion, staff a gwirfoddolwyr ymroddedig wrth lunio ein sefydlad fel rhywbeth handfodol i’n llwyddiant. Byddwch yn chwarae rhan strategol hanfodol wrth gyflwyno gwasanaeth heddlu archerddog i’r cyhoedd yn unol a’n Cynllun Heddlu De Cymru.
Rydym ar hyn o bryd yn chwilio am geisiadau gan Arolygydd / Arolygwyr Ditectif sydd a diddordeb ac sy’n gymwys i gael eu dyrchafu. Meini Prawf Cymhwysedd • Arolygydd / Arolygydd Ditectif parhaol sydd wedi cael ei ddyrchafu am 12 mis neu fwy erbyn y dyddiad cau (ac wedi cwblhau Cam 4 NPPF yn gyflawn). • Arfarniad boddhaol dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn olynol o E-bostiwch manylion gyda eich cais i talent@south-wales.police.uk.• Ddim yn destun unrhyw rybudd ysgrifenedig byw presennol na rhybudd ysgrifenedig terfynol a gyflwynir o dan Reoliadau (Ymddygiad) yr Heddlu.• Ddim yn destun unrhyw Hysbysiadau Gwelliant Ysgrifenedig byw ar gyfer perfformiad neu bresenoldeb a gyflwynir o dan Reoliadau (Ymddygiad) yr Heddlu. Neu, ostyngiad mewn rheng o dan y gweithdrefnau hynny yn y 18 mis blaenorol.• Lefel dderbyniol o bresenoldeb. Proses ddethol
Yn eich cais ar-lein, dylech ddangos tystiolaeth o'r isod:
1. Sgiliau, gwybodaeth a phrofiad sy'n eich gwneud chi'n barod i gael dyrchafiad i reng Brif Arolygydd nawr.2. Enghraifft o adeg y gwnaethoch ddatblygu gweithlu cynrychioliadol a hyrwyddo diwylliant sy'n gwerthfawrogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
Ar yr amod eich bod yn bodloni'r meini prawf uchod, caiff eich cais ei ystyried, a bydd y broses yn cynnwys:
• Gwiriadau cymhwysedd ar gyfer dyrchafiad; yn cynnwys argymhelliad ysgrifenedig gan eich Pennaeth Adran / Uwch-arolygydd perthnasol i gadarnhau eich addasrwydd a’ch parodrwydd ar gyfer dyrchafiad i’r reng nesaf. • Proses llunio rhestr fer.• Bwrdd asesiad dyrchafiad yr Heddlu. • Cadarnhad terfynol gan y Prif Swyddogion.
Bydd unrhyw gynnig swydd yn amodol ar eirdaon a gwiriadau fetio boddhaol, ymddygiad da parhaus a chynnal ffitrwydd. Yn ogystal, bydd ymgeiswyr allanol yn destun archwiliad meddygol a gwiriadau fetio. Mae'n rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus fod yn barod i ymgymryd â phroses fetio.
Mae Cymraeg Lefel 2 yn ofynnol, fodd bynnag os nad oes gennych y gofyniad hwn, byddai disgwyl i chi gyrraedd Lefel 2 o fewn 12 mis i'ch dyrchafiad. Fel cyflogwr cyfle cyfartal, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob unigolyn â chymwysterau addas. Fodd bynnag, gan fod ymgeiswyr amrywiol o ran ethnigrwydd wedi'u tangynrychioli o fewn Heddlu De Cymru ar hyn o bryd, byddem yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr gan unigolion o gefndiroedd ethnig amrywiol yn arbennig. Ceisiadau wedi'u cwblhau Dylech gyflwyno ffurflen gais ar-lein erbyn 5:00yp ar Dydd Gwener 17fed Hydref 2025. Ni chaiff ceisiadau hwyr neu anghyflawn eu hystyried.
Dylai ymgeiswyr nodi, os byddant yn llwyddiannus ar y cam llunio rhestr fer, bydd disgwyl iddynt fod ar gael i’r asesiad ddyrchafu ffurfiol ar yr wythnos yn cychwyn 13fed Tachwedd 2025.
Os mae eisiau gwybodaeth neu chymorth, cysylltiwch a’r Tim Talent Adnoddau Dynol ar talent@south-wales.police.uk
Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.