COFRESTRU DIDDORDEB MEWN HEDDLU DE CYMRU YMGYRCHOEDD RECRIWTIO PCDA/DHEP

Cyfleoedd Swyddi Gwag yn y Dyfodol

Heddlu De Cymru
Swyddi Swyddogion Heddlu yn y Dyfodol
Ledled yr Heddlu

Rydym yn cynnig cyfle cyffrous newydd i gofrestru eich diddordeb mewn dod yn Swyddog Heddlu yn barod ar gyfer ein hymgyrch nesaf i recriwtio Swyddogion Heddlu ym mis Ionawr 2022. 
Yn dilyn eich cofrestriad byddwn yn eich gwahodd chi i sesiwn ymgyfarwyddo lle cewch gyfle i gael cipolwg ar rôl Swyddog Heddlu a dysgu mwy am y cymorth sydd ar gael gan ein Tîm Cynrychioli'r Gweithlu. Byddwch hefyd yn clywed gan ein hadrannau recriwtio, iechyd galwedigaethol a fetio a fydd yn mynd drwy'r broses ymgeisio a'r camau cyn cyflogaeth.
Bydd hefyd yn gyfle i chi holi unrhyw gwestiynau am y rôl, y broses recriwtio neu am Heddlu De Cymru.
Gobeithiwn y bydd y digwyddiad yn eich galluogi i wneud penderfyniad gwybodus ynghylch a ydy rôl Swyddog Heddlu yn addas i chi ac 'os gallwch fod y gwahaniaeth rydych eisiau bod'.


Digwyddiadau Ymgyfarwyddo Ar-lein yr Heddlu 4ydd Ionawr 2022 6.00pm-8.00pm

NODWCH: NID YW HYN YN YMGYRCH ACTIF RECRIWTIO – MAE HYN OND I CHI COFRESTRU EICH DIDDORDEB YN YMGYRCH DYFODOL RECRIWTIO I SWYDDOGION HEDDLU.

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.