19/11/25 15:00
Hoffech chi gael gyrfa heb ei hail? Os felly... Ymunwch â Ni
Mae Heddlu De Cymru yn dod â miloedd o bobl ynghyd sydd â'r un nod – cadw De Cymru yn ddiogel.
Rydym am sicrhau mai ni yw'r gorau am ddeall ac ymateb i anghenion ein cymunedau. Er mwyn gwneud hyn, mae angen i'r ymgeiswyr gorau o amrywiaeth eang o gefndiroedd wneud cais i ymuno â'n teulu plismona.
Rydym yn awyddus i recriwtio Uwch Gynghorydd Iechyd Galwedigaethol. Diben y rôl yw darparu iechyd proffesiynol, rhagweithiol a gwasanaeth llesiant i swyddogion yr heddlu, staff yr heddlu ac uwch arweinwyr, yn enwedig wrth atal salwch a chynnal a gwella iechyd a llesiant. Byddwch yn gyfrifol am roi cymorth er mwyn darparu gwasanaeth o ansawdd uchel a arweinir gan nyrsys, gan roi cyngor ac arweiniad o safon i reolwyr a chyflogeion.
Er mwyn bod yn llwyddiannus yn y rôl heriol hon, rhaid i chi fod yn Nyrs Gyffredinol Gofrestredig gyda chymhwyster ymarferwr Arbenigol neu ddiploma mewn Nyrsio Gofal Galwedigaethol neu gymhwyster ôl-raddedig cyfatebol gyda thystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus Profiad o ddatblygu a gweithredu polisïau gofal iechyd gyda sgiliau cyfathrebu effeithiol a sgiliau rhyngbersonol cadarn i allu rheoli gwrthdaro, gan weithio ym maes iechyd meddwl a chyflawni llwyth achosion.
Cyfeiriwch at broffil y swydd am fwy o fanylion ar y cymwysterau, y sgiliau a'r wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer y rôl a gwybodaeth bellach yn niwrnod arferol Uwch Gynghorydd Iechyd Galwedigaethol.
Mae sawl mantais i weithio i Heddlu De Cymru, o gyfleoedd dysgu a datblygu i gynlluniau y bwriedir iddynt wella eich ffordd o fyw a'ch llesiant, yn ogystal â Chynllun Pensiwn Llywodraeth Leol/Cynlluniau Pensiwn yr Heddlu sy'n hael iawn, gwyliau blynyddol â thâl, gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd a llawer mwy, cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.
Ar hyn o bryd, nid oes digon o ymgeiswyr o gefndiroedd ethnig lleiafrifol i gynrychioli Heddlu De Cymru. O ganlyniad, gallwn gynnig cymorth Gweithredu Cadarnhaol ym mhob agwedd ar ein proses recriwtio i ymgeiswyr sy'n ystyried eu bod yn perthyn i gymuned ethnig leiafrifol, cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.
Ai dyma'r tro cyntaf i chi wneud cais am rôl gyda Heddlu De Cymru? Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ein canllawiau ar wneud cais er mwyn cael cynghorion ac awgrymiadau defnyddiol ynglŷn â'r ffurflen gais a'r hyn i'w ddisgwyl, cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth. Noder, rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn barod i ymgymryd â phroses fetio hyd at y lefel ofynnol.
Rhaid i'r Ymgeisydd llwyddiannus fod yn barod i ymgymryd â phroses fetio hyd at lefel Fetio Rheoli a Chliriad Diogelwch.
Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.