Swyddog Datrys Digwyddiadau

Heddlu De Cymru
Staff Heddlu
Gwasanaethau Cefnogi Gweithredol
Canolfan Gwasanaeth Cyhoeddus
Pen-y-bont ar Ogwr
SC45
£21,135 - £26,016 plus 20% shift allowance and 14% enhancements for weekend working
Llawn Amser
37
Parhaol
2

31/01/22 16:00

Mae'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus, sy'n gweithredu bob awr o'r dydd, wrth wraidd ein gwaith a'n gweithrediadau.

Mae'n ymdrin â phob galwad brys a galwadau nad ydynt yn rhai brys gan y cyhoedd, felly mae'r gwaith yn werth chweil ac yn hanfodol er mwyn diogelu cymunedau De Cymru.  Mae'r Ganolfan yn ateb dros 2000 o alwadau y dydd ac nid yw dwy alwad byth yr un fath, gan gynnwys troseddau difrifol, marwolaethau sydyn, gwrthdrawiadau traffig ac unigolion coll sy'n agored i niwed.

Mae Heddlu De Cymru yn ceisio recriwtio nifer o Swyddogion Risg a Datrys Digwyddiadau amser llawn o bob rhan o'r gymuned, a byddem yn annog ceisiadau gan grwpiau lleiafrifol amrywiol, i weithio yn ein Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus arloesol ym Mhencadlys Heddlu De Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr. 

Bydd y swydd amser llawn hon yn gyfle cyffrous i chi weithio yn ein Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus dynamig. Byddwn yn meithrin eich sgiliau a'ch galluoedd ac yn eich addysgu i ymateb i alwadau brys a galwadau nad ydynt yn rhai brys yn y ffordd orau bosibl a darparu gwasanaeth o ansawdd da i gymunedau De Cymru. 

Mae hon yn swydd heriol lle mae angen unigolion gwydn sy'n gallu gweithio o dan bwysau, blaenoriaethu llwythi gwaith a bod yn flaengar, gan reoli galwadau sensitif ac weithiau rhai sy'n peri gofid. Rhaid i unigolion ddeall pwysigrwydd darparu gwasanaeth o ansawdd da a phrydlon i gwsmeriaid.  Yn gyfnewid am hyn, bydd gennych swydd a fydd yn cynnig llawer o foddhad lle byddwch yn gwneud cyfraniad sylweddol at ddiogelu cymunedau De Cymru.  

Ewch i https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/heddluoedd/heddlu-de-cymru/ardaloedd/gyrfaoedd/gyrfaoedd/ i gael syniad o'r gwaith a wneir gan y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus a'r broses recriwtio. 


Bydd gofyn i chi weithio shifftiau 24/7. Bydd yn ofynnol i chi weithio patrwm shifft, sy'n cynnwys gweithio cyfuniad o shifftiau wyth, naw a deg awr dros gyfnod 24/7 am chwe diwrnod a fydd yn cynnwys shifftiau yn y bore, yn y prynhawn a gyda'r nos, ac yna pedwar diwrnod seibiant.

Meini Prawf Gwneud Cais

Noder y bydd angen i chi lanlwytho tystiolaeth o'ch tystysgrif Mathemateg a Saesneg lefel 2 pan fyddwch yn cyflwyno eich cais
Rhaid I ymgeiswyr fod yn 18 oed at adeg gwneud cais

•    Bydd y broses gwneud cais yn dechrau am 4pm ar 8 Rhagfyr 2021 ac yn cau am 4pm ar 31 Ionawr 2022. 
•    Mae Heddlu De Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd os byddwn yn cael digon o geisiadau.

Cliciwch yma i gael gwybodaeth am sut i gwblhau ein proses ymgeisio ar-lein'

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.